Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Diolch. Gan dderbyn yr egwyddor sylfaenol o ddemocratiaeth leol a'r rhesymeg dros yr ataliadau dros dro yn yr ardaloedd a drafodwyd, a fyddech yn derbyn bod y gair 'gwaedlif' yn adlewyrchu colli 46 y cant o'r tai cymdeithasol drwy'r cynllun hawl i brynu? A fyddech yn derbyn, drwy golli mwy o nwyddau gwerthfawr, nad ydych yn eu diogelu?
Rhianon Passmore: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu rhentwyr preifat yng Nghymru?
Rhianon Passmore: Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gytuno â mi nad oedd hyrwyddwr gwell ar ran ein lluoedd arfog yn y Senedd hon na Carl Sargeant? Yn y Siambr hon y llynedd, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, amlinellodd Carl gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i gefnogi ein lluoedd arfog a'n cyn-filwyr, megis y llwybr atgyfeirio tai arloesol i sicrhau bod cyn-aelodau o'r lluoedd...
Rhianon Passmore: A fuasech yn cytuno, fel y mae arweinydd Plaid Cymru wedi datgan eisoes, fod defnyddio cronfeydd wrth gefn i ariannu codiadau cyflog parhaus yn ddefnydd da o arian cyhoeddus?
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, ailymrwymodd Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg yn y Siambr ar 24 Hydref genhadaeth Llywodraeth Cymru i hyrwyddo addysgu yng Nghymru fel proffesiwn statws uchel, hyblyg, a werthfawrogir. Gwn yn bersonol, fel cyn-athrawes a darlithydd gwadd, pa mor anodd a heriol, yn ogystal â chyffrous a llawn boddhad, y gall y proffesiwn addysgu fod. Prif Weinidog, mae Llywodraeth Llafur...
Rhianon Passmore: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Cynghori ar Ewrop?
Rhianon Passmore: Ar wahân i'r ffaith fy mod yn amau a oes unrhyw un ohonom, o bosibl, yn yr ystafell hon erioed wedi mynd heb unrhyw incwm o gwbl am bum wythnos, a fyddech yn cydnabod bod ôl-ddyledion sylweddol wedi bod o ganlyniad i hyn ymron pob peilot a wnaed, yn enwedig yng Nghymru?
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Diolch. A fyddech yn cydnabod mai'r rheswm pam y cafodd y credyd cynhwysol ei dreialu ledled y DU yw oherwydd maint y problemau sydd ynghlwm wrtho? A fyddech yn cydnabod hefyd y byddai'n ergyd ddwbl i hawlwyr yng Nghymru pe na baem yn cael y swm o arian y byddai ei angen i ariannu hyn yn briodol? Dyna'r pryder; yr hawlwyr sy'n ganolog i hyn.
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y gwasanaeth o Lynebwy i Gaerdydd yn cael ei ddyblu o un trên yr awr i ddau. A all y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf—
Rhianon Passmore: Gallaf geisio ei gysylltu, Llywydd.
Rhianon Passmore: Ydych chi eisiau i mi barhau?
Rhianon Passmore: Diolch. A all y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl Islwyn ar hynt y gwaith sy'n cael ei wneud gan Network Rail a phryd y disgwylir i'r gwaith sydd wedi ei drefnu gael ei gwblhau? [Chwerthin.]
Rhianon Passmore: Diolch. Er hynny, mae'n amlwg, hoffwn groesawu'r ddogfen arbennig o bwysig ac arloesol hon, a hefyd yr arloesi o ran y contractau economaidd newydd. Mae fy nghwestiwn i mewn gwirionedd yn ymwneud â'r posibiliadau ar gyfer cymunedau Islwyn o ran twristiaeth. Tybed sut mae Ysgrifennydd y Cabinet yn rhagweld dyfodol y daith hyfryd mewn car trwy goedwig Cwmcarn—mae hon yn ardal drawiadol o...
Rhianon Passmore: Diolch, Lywydd. Nawr, fe ddymunoch chi Nadolig llawen i mi ddoe, a hoffwn ddymuno'n dda i chi ac i'ch teulu heddiw. Nadolig llawen i chi i gyd. Ysgrifennydd y Cabinet, wrth annerch Confensiwn Cyflogadwyedd a Sgiliau Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith yr wythnos diwethaf, dywedodd Gweinidog newydd y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, nad yw cyflogadwyedd yn ymwneud â swyddi a sgiliau...
Rhianon Passmore: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau lleol yn Islwyn drwy brosiectau buddsoddi cyfalaf?
Rhianon Passmore: Diolch, Dirprwy Lywydd. A minnau'n Aelod Cynulliad Islwyn, un o'r ardaloedd allweddol a gwmpesir gan y tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y de, a gaf i ddweud ar goedd fy mod i'n gwbl gefnogol i'r ffordd ragweithiol yr aeth Llywodraeth Lafur Cymru ati i gefnogi datblygiad economaidd cymunedau yn Islwyn a thu hwnt? Mae'n briodol bod Llywodraeth Lafur yn gwneud hyn. Mae fy etholwyr yn awyddus...
Rhianon Passmore: Diolch. Prif Weinidog, yn dilyn cyllideb wag Llywodraeth Dorïaidd y DU ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn is unwaith eto, mewn termau real, yn 2019-20 nag yr oedd yn 2010-11. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi mynegi dro ar ôl tro, er mwyn i economi Cymru dyfu, a fydd o ganlyniad yn gwella diogelwch ariannol i bobl Cymru, ei bod hi'n hanfodol bwysig bod...
Rhianon Passmore: 7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gynyddu allbwn economaidd ar gyfer cymunedau Islwyn? OAQ51685