Darren Millar: A gaf fi ddiolch i’r Cadeirydd am ei haraith agoriadol a’i chanmol am y ffordd y mae hi wedi arwain yr ymchwiliad hwn, a chofnodi fy niolch hefyd i’r clercod a’r tystion a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor? Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod wedi ymgymryd â’r gwaith hwn, a dyna pam y cytunodd y pwyllgor y dylai fod yn flaenoriaeth gynnar o ran rhaglen waith y pwyllgor. Rwy’n...
Darren Millar: Prif Weinidog, mae angen i ni fod yn rhan o'r chwyldro codio, ac mae'n bwysig bod ein pobl ifanc yn dysgu’r sgiliau hyn. Ond, wrth gwrs, un o'r problemau sydd ganddyn nhw yw gallu gwneud gwaith cartref o ran codio, gan fod mynediad annigonol at gynllun band eang cyflym Cyflymu Cymru. Byddwch yn ymwybodol eich bod wedi gwneud ymrwymiad eglur yn eich maniffesto Llafur ar gyfer y Cynlluniad yn...
Darren Millar: Rwy’n rhannu'r pryderon sydd eisoes wedi eu mynegi yn y Siambr, ac, wrth gwrs, y cydymdeimlad â theulu Glyn Summers, ond a fyddech chi’n cytuno â mi, Brif Weinidog, bod angen i ni gael y cydbwysedd cywir yma o ran unrhyw newidiadau y gallai fod angen eu gwneud, yn y dyfodol, i wella’r prosesau asesu risg o ran teithiau ysgol? Oherwydd rydym ni eisiau i bobl allu cael mynediad at...
Darren Millar: Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, tynnwyd sylw eisoes at y ffaith ein bod yn wynebu argyfwng recriwtio yn ein proffesiwn addysgu, ac wrth gwrs, amlygwyd hyn gan arolwg Cyngor y Gweithlu Addysg, a ganfu fod mwy nag un o bob tri athro yn bwriadu gadael y proffesiwn yn y tair blynedd nesaf. Beth yn benodol rydych chi’n ei wneud i gau’r bwlch os bydd yr un o bob tri hynny’n gadael y...
Darren Millar: Cafwyd ymgyrch recriwtio enfawr yn ddiweddar ar gyfer nyrsys newydd yn y GIG yng Nghymru, gyda llawer o arian a llawer o waith hyrwyddo yn cael ei wneud mewn nifer o ffyrdd gwahanol ar draws y cyfryngau cymdeithasol, y cyfryngau print a chyfryngau eraill yn gyffredinol. Pam nad ydym yn gweld ymdrech debyg i recriwtio’r athrawon sydd eu hangen ar y system addysg yng Nghymru, er mwyn sicrhau...
Darren Millar: Rhoddaf un syniad i chi, Gweinidog, ac yn wir, rydym wedi awgrymu un yn y gorffennol, ac rydych wedi gwrando arno, yn ffodus, a’i roi ar waith. Roedd un yn ymwneud â gwella’r bwrsariaethau sydd ar gael i ddenu pobl newydd i’r proffesiwn, ac mae’r ail yn ymwneud â chael gwared â rhai o’r rhwystrau gwarthus y mae athrawon a hyfforddwyd dramor yn eu hwynebu yma ar hyn o bryd os...
Darren Millar: A gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, un yn gysylltiedig â rheoleiddio dronau ac awyrennau ysgafn? Rwyf wedi cael nifer o gwynion yn ddiweddar gan drigolion yn fy etholaeth i am ddefnydd dronau mewn ardaloedd preswyl, sy’n hofran dros erddi cefn pobl, yn ffilmio trigolion lleol, ac yn amharu ar eu preifatrwydd. Ac, yn wir, ar ben hynny, bu rhai cwynion am y defnydd o...
Darren Millar: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am roi cipolwg o’r datganiad hwn inni cyn iddi wneud hynny yn y Siambr y prynhawn yma? Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol bod yr academi genedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth yn rhywbeth yr oeddem yn ei gefnogi yn fawr iawn pan gyhoeddodd hi hynny ym mis Tachwedd y llynedd. Os oes unrhyw feirniadaeth, mae'n ymwneud â'r cyflymder, mewn...
Darren Millar: Rwy'n codi ar ran grŵp Ceidwadwyr Cymru, yn absenoldeb fy nghydweithiwr, Angela Burns, i ddweud yn syml ein bod yn falch iawn o allu cefnogi Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) y prynhawn yma, wrth iddo wneud ei daith olaf trwy’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae mewn cyflwr llawer gwell na’r fersiwn flaenorol o’r Bil, a oedd, wrth gwrs, yn ceisio cyflwyno cyfyngiadau diangen ar e-sigaréts....
Darren Millar: 5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cleifion yn cael profion diagnostig a thriniaeth o fewn amseroedd targed? OAQ(5)0161(HWS)
Darren Millar: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fynediad at wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru? OAQ(5)0160(HWS)
Darren Millar: Ysgrifennydd y Cabinet, mae mynediad at brofion diagnostig a thriniaeth yn arbennig o bwysig mewn argyfyngau, felly tybed a allwch roi sylwadau ar y ffaith fod crwner wedi dweud yn ei adroddiad diweddar yn dilyn achos trasig menyw a fu’n aros am saith awr mewn ambiwlans y tu allan i ysbyty Glan Clwyd, ac a fu farw’n fuan wedi hynny yn yr ysbyty, a dyfynnaf ei adroddiad yma: Mae’n destun...
Darren Millar: Mae llawer o bryder wedi’i fynegi eisoes am wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru a gallaf ddweud wrthych fy mod yn cael cynifer o lythyrau yn awr ag a gawn cyn i sgandal Tawel Fan ddod i sylw’r cyhoedd. Mae un o’r pryderon a gafodd ei ddwyn i fy sylw’n ymwneud â chapasiti, ac mae Llyr eisoes wedi cyfeirio at hyn, ond mae’r broblem capasiti sydd gennym o ran gwelyau cleifion...
Darren Millar: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gael y cyfle i agor y ddadl bwysig hon y prynhawn yma, a chynigiaf y cynnig yn enw Paul Davies ar y papur trefn heddiw, gan gydnabod y llu o risgiau y mae plant yn eu hwynebu wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd, nodi pwysigrwydd rhoi camau ar waith i sicrhau bod plant yn cael eu cadw’n ddiogel ar-lein, a galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i bryderon a...
Darren Millar: Diolch, Dirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Rwy’n credu ei bod wedi bod yn ddadl eithriadol o dda, ac yn ddadl oleuedig iawn. Siaradodd llawer o’r Aelodau am eu profiadau personol o dechnoleg, ac yn wir maent wedi rhoi i ni rai o’r ffeithiau llwm iawn am gam-drin ar-lein, ecsbloetio ar-lein, a rhai o’r problemau y mae hynny wedi’u hachosi yn...
Darren Millar: Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod am dderbyn yr ymyriad. A wnewch chi gydnabod bod yr ymrwymiad hwnnw’n ymrwymiad a wnaed yn gyntaf gan y Prif Weinidog Ceidwadol, David Cameron? Oherwydd, fel chi, rwy’n falch iawn o’r hyn a gyflawnwyd, a gwn fod y Blaid Lafur wedi cefnogi’r uchelgais hwnnw.
Darren Millar: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Darren Millar: Tybed a wnewch chi gydnabod, mewn gwirionedd, mai rhai o’r bobl fwyaf hael yng Nghymru yw’r rhai o’r cefndiroedd mwyaf tlawd.
Darren Millar: Y bobl hynny sy’n tueddu i roi fwyaf, am eu bod yn aml wedi cael help llaw eu hunain yn y gorffennol. A wnewch chi dderbyn hynny?
Darren Millar: Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i chi, Prif Weinidog, am y sylwadau yr ydych chi wedi eu gwneud y prynhawn yma ynghylch yr ymosodiad ym Manceinion? Rwy'n siŵr y byddant yn eiriau o gysur ar yr adeg anodd iawn hon i lawer o deuluoedd. Fel un o Fanceinion fy hun, rwy'n gyfarwydd iawn â'r rhan honno o'r byd, a gwn fod rhai o’m hetholwyr yn bresennol yn y digwyddiad, gan eu bod wedi bod mewn...