Samuel Kurtz: Diolch, Llywydd. Dwi'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu heddiw.
Samuel Kurtz: Ar ran etholwyr Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, rwy'n adleisio geiriau, sylwadau a theimladau'r rhai sydd wedi cyfrannu heddiw yn fawr. Mae teyrngedau i'w diweddar Mawrhydi'r Frenhines wedi dod o bedwar ban byd, ac mae llawer wedi siarad yn fwy huawdl ac wedi ysgrifennu'n fwy huawdl am Ei Mawrhydi a'i theyrnasiad nag y gallwn i erioed, felly ei geiriau hi a ddefnyddiaf i'w disgrifio....
Samuel Kurtz: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella ansawdd dŵr? OQ58424
Samuel Kurtz: Diolch am eich ateb, Trefnydd.
Samuel Kurtz: Ddiwedd mis Awst, cafodd carthion eu gollwng i'r dŵr ym Mhont-yr-ŵr yn fy etholaeth i, gan arwain at y gyfarwyddeb dŵr ymdrochi yn canfod bod ansawdd y dŵr yn annerbyniol. Roedd y digwyddiad llygredd hwn yn un o nifer ar draws arfordir de Sir Benfro. Yn aml, caiff digwyddiadau fel hyn eu hachosi gan orlif carthffosiaeth cyfunol, neu CSOs. Gan fod ansawdd dŵr yn fater sydd wedi'i...
Samuel Kurtz: A gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, gan i'r penwythnos diwethaf hwn weld amharu'n llwyr ar wasanaethau rheilffordd yn ne Sir Benfro. Nid oedd y gwasanaeth bysiau yn lle trenau, dywedir wrthyf, yn gallu cymryd defnyddwyr cadair olwyn na beiciau, a allai, o bosibl fod wedi gadael teithwyr heb fedru teithio. Ar ôl gweithio gyda...
Samuel Kurtz: Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am roi golwg ymlaen llaw i mi o'i datganiad a Bil Amaethyddiaeth (Cymru), yn enwedig gan ei bod wedi cael prynhawn prysur iawn yn y Siambr. Nid yw'n danddatganiad i ddweud bod y ddogfen 45 tudalen hon, ynghyd â'r memorandwm 475 tudalen, yn cynrychioli'r ailwampio mwyaf a mwyaf arwyddocaol mewn polisi amaethyddol ers geni'r sefydliad hwn. Ar ôl...
Samuel Kurtz: Weinidog, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar saethu a chadwraeth, fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi anfon llythyrau atoch o'r blaen ynghylch ffliw adar a’r anawsterau a achosodd hynny mewn perthynas â mewnforio wyau i ddeorfeydd yma yn y Deyrnas Unedig. Felly, mae digwyddiadau saethu adar hela yng Nghymru yn bwriadu datblygu eu rhaglenni bridio eu hunain fel nad ydynt bellach yn...
Samuel Kurtz: Diolch, Lywydd. Heddiw yw Diwrnod Llaeth Ysgol y Byd, ac rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfle i hyrwyddo’r diwrnod hwn a’r Gynghrair Llaeth Ysgolion a Meithrinfeydd ar lawr y Siambr hon. A wyddech chi y gall carton 189 ml o laeth hanner sgim ddarparu 42 y cant o'r cymeriant calsiwm dyddiol a argymhellir i blentyn saith i 10 oed, a 24 y cant o'r cymeriant protein a argymhellir? Mae hefyd yn...
Samuel Kurtz: Diolch i'r Llywydd am gyflwyno hyn, ac am yr holl waith pwysig y mae hi'n ei wneud i hyrwyddo'r defnydd o'r iaith ar lawr y Senedd hon ac ar draws ystad Senedd Cymru. Diolch hefyd i'r Aelod o Ynys Môn am agor y ddadl. Mae'n bwysig ein bod yn arwain drwy esiampl yma yn y Senedd, nid yn unig i gyflawni targedau uchelgeisiol 'Cymraeg 2050', y byddwn yn cael diweddariad arnynt yr wythnos nesaf,...
Samuel Kurtz: Cefais fy ysgogi, mewn gwirionedd, i gyfrannu at yr adroddiad hwn gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl dau ymweliad. Roedd yr ymweliad cyntaf ag Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn fy etholaeth dros doriad yr haf, lle cyfarfûm â staff a chefais drafodaeth ddi-flewyn-ar-dafod a gonest iawn gyda hwy ynghylch y lefelau staff nyrsio y maent yn eu gweld. Rydym yn hollol gywir i siarad am nyrsys yn gadael...
Samuel Kurtz: Ar 19 Awst, cafwyd gwaharddiad ar ddefnyddio pibelli dŵr mewn rhan fawr o fy etholaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, ardal a wasanaethir gan gronfa ddŵr Llys-y-frân yn etholaeth fy nghyd-Aelod Paul Davies, sef Preseli Sir Benfro. Yn garedig iawn, fe roddodd Paul ganiatâd i mi fynd i mewn i Breseli Sir Benfro er mwyn imi ymweld â chronfa ddŵr Llys-y-frân i weld pa mor isel...
Samuel Kurtz: Mae'n bleser i ddilyn yr Aelod o Ynys Môn.
Samuel Kurtz: Roedd hi'n bleser cael y wers hanes a'r wers wyddoniaeth honno hefyd, a dysgais fwy am fapio moroedd Cymru. Rwy'n credu bod y pwynt ynghylch cyllid yn un sy'n hollol bragmataidd. Rydym yn gallu goresgyn hynny, rwy'n meddwl, ar y ddau ben i'r M4, sy'n rhywbeth y byddwn yn hapus iawn i'w gefnogi hefyd, oherwydd os ydym am wneud y mwyaf o'r cyfleoedd sydd yno ar ffurf egni adnewyddadwy oddi ar...
Samuel Kurtz: Diolch Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am roi golwg ymlaen llaw i mi ar ei adroddiad blynyddol 'Cymraeg 2050' ac hefyd y datganiad y prynhawn yma. O'r dechrau, bydd y Gweinidog yn ymwybodol o fy mhryderon am atebolrwydd y rhaglen hon. Fel y dywedais yn y Siambr hon o'r blaen, mae'n bosibl na fydd ef na minnau yn y Siambr hon ymhen 28 mlynedd, felly mae'n rhaid gofyn y cwestiwn: pwy...
Samuel Kurtz: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefelau staffio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?
Samuel Kurtz: Weinidog, nod yr her ysgolion cynaliadwy yw uwchraddio’r seilwaith ysgolion presennol i'w wneud yn fwy amgylcheddol gynaliadwy, ond rwy’n siŵr y byddwch yn ymwybodol o’r tân ofnadwy a fu yn ysgol gynradd Maenorbŷr yn fy etholaeth i ddydd Llun, a achosodd ddifrod enfawr i adeilad yr ysgol. Diolch byth, ni chafodd neb ei anafu. Mae hyn, yn rhannol, oherwydd arweinyddiaeth wych y...
Samuel Kurtz: Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl y prynhawn yma. Mae polisi parth perygl nitradau Llywodraeth Cymru, pwnc yr adroddiad hwn, wedi bod yn bolisi blaenllaw ond dadleuol gan y Llywodraeth hon a Llywodraethau blaenorol yng Nghymru. Felly, nid oedd ond yn iawn i'r Senedd ofyn i'r Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig adolygu'r rheoliadau hyn ar frys. Gwn fod y Gweinidog wedi bod yn...
Samuel Kurtz: A wnaiff yr Aelod ildio?
Samuel Kurtz: Diolch. Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am ildio, a hoffwn ddatgan buddiant hefyd; roeddwn ar fai na wneuthum hynny ar y dechrau.