Delyth Jewell: Rydym ni'n croesawu'r cyhoeddiad ynghylch dileu digartrefedd. Rwy'n credu mai un o'r pethau cadarnhaol a allai ddeillio o'r argyfwng hwn yw sylweddoli bod tai yn hawl am oes, nid dim ond rhywbeth brys dros dro yn ystod pandemig. Rwyf i hefyd yn croesawu'n fawr y ffordd adeiladol yr ydych chi wedi gweithio, Gweinidog, ar draws y pleidiau wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hwn. Mae'r argyfwng...
Delyth Jewell: Diolch am hynna, Gweinidog. Mater arall yr oeddwn i'n dymuno ei godi oedd y cymorth sy'n cael ei gynnig i bobl nad oes ganddyn nhw hawl i gael arian cyhoeddus. Nawr, mae'r statws hwnnw yn etifeddiaeth ymgais Tony Blair i dawelu'r Daily Mail flynyddoedd yn ôl, ac mae wedi gadael etifeddiaeth hir a gwaedlyd. Rydym ni'n gwybod bod Shelter Cymru ac eraill wedi bod yn ysgrifennu am y problemau y...
Delyth Jewell: Weinidog, yn y Cyfarfod Llawn fis yn ôl mewn ymateb i Siân Gwenllian, fe wnaethoch chi gadarnhau eich bod yn ymwybodol o bryder y gallai cymal arfaethedig o fewn y Bil cwricwlwm ac asesu gael effaith andwyol ar yr enillion sydd wedi bod ym maes addysg Gymraeg, ac y byddech chi'n craffu'n fanwl ar y sefyllfa. Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod unrhyw newid wedi bod yng nghynlluniau'r...
Delyth Jewell: Rwyf wedi blino aros, Onid ydych chi, I'r byd ddod yn dda A hardd a charedig? Gwelais y geiriau hynny gan Langston Hughes ar Twitter ychydig ddyddiau'n ôl. Roedd rhywun yn eu dyfynnu mewn anobaith ynglŷn â pha mor llwm yw ein byd, oherwydd rydym yn wynebu nifer o argyfyngau. Ar wahân i felltith hiliaeth, mae COVID-19 yn bygwth dyfodol ein pobl fwyaf bregus. Hyd yn hyn, mae effeithiau'r...
Delyth Jewell: Roedd Oscar bob amser yn gynnes iawn. Ar fy niwrnod cyntaf yn y Senedd, roeddwn yn cerdded gyda'r Llywydd ac fe wnaethom ni daro ar y grŵp Ceidwadol. Roedd pawb yn ysgwyd fy llaw, ond daeth Oscar yn syth ataf a rhoi cwtsh i mi. Bu'n gweithio'n agos, wrth gwrs, gyda dau o'm rhagflaenwyr, gyda Steffan Lewis, a weithiai yn ei swyddfa, a chyda Jocelyn Davies, a oedd yn gyd-Aelod rhanbarthol...
Delyth Jewell: Hoffwn ofyn am ddatganiad i egluro tri mater gwahanol ond cysylltiedig ynghylch cartrefi gofal. Y cyntaf yw'r rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniad gwreiddiol gan Lywodraeth Cymru i wrthod profion COVID-19 ar gyfer preswylwyr asymptomatig sy'n gadael yr ysbyty cyn mynd yn ôl i gartrefi gofal. O ystyried nifer y marwolaethau a'r teuluoedd mewn galar yn sgil y polisi, mae budd cyhoeddus clir mewn...
Delyth Jewell: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, wrth inni godi'r cyfyngiadau symud, mae perygl y gwelwn achosion lleol—
Delyth Jewell: A allwch chi fy nghlywed os wyf fi'n siarad fan hyn, Weinidog?
Delyth Jewell: Na. A allwch chi fy nghlywed i nawr?
Delyth Jewell: Iawn, fe symudaf yn agosach at y—. Felly, Weinidog, wrth inni godi'r cyfyngiadau symud, mae perygl o weld achosion lleol yn dod i'r amlwg, fel sydd wedi digwydd ar Ynys Môn; efallai nad oes opsiwn heblaw gosod cyfyngiadau symud lleol. Rwyf am ofyn pa gymorth penodol rydych chi'n ei roi i Ynys Môn i'w helpu gyda'r sefyllfa bresennol y maent yn ei hwynebu ac yn fwy cyffredinol, a fydd...
Delyth Jewell: Iawn, diolch, Weinidog. Rwy'n croesawu'r hyn rydych newydd ei ddweud. Fel y crybwylloch chi yn eich ateb yn y fan honno, mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol yn y system profi, olrhain, diogelu, ond mae rhai wedi nodi y dylid ychwanegu elfen arall at y cynllun hwnnw, sef 'cymorth'. Mae'n amlwg bod cyflogau isel, gwaith ansicr a—wel, y methiannau yn y system les, wedi tanseilio...
Delyth Jewell: Diolch. Yn olaf, Weinidog, mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda byrddau iechyd i gydgysylltu rhaglenni prawf gwrthgyrff ar gyfer athrawon a staff y GIG. Nid oes unrhyw breswylwyr na staff cartrefi gofal wedi cael y profion gwrthgyrff hynny hyd yma. Nawr, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yng Ngwent, mae achosion o COVID-19 mewn ysbytai wedi gostwng yn sylweddol, ond yn yr wythnos ddiwethaf roedd...
Delyth Jewell: 'Education is...the soul of a society as it passes from one generation to another.' Geiriau G.K. Chesterton yw'r rhain, ac maen nhw'n wir: dylai'r gwersi yr ydym yn eu dysgu i'n plant a'n pobl ifanc adlewyrchu gwerthoedd ein cymdeithas, a dylen nhw fod wedi'u gwreiddio yn straeon ein gorffennol—y da a'r drwg. Er bod llawer y mae Plaid Cymru yn ei groesawu yn y cwricwlwm newydd, rydym ni'n...
Delyth Jewell: Mae cymaint i blant Cymru ymfalchïo ynddo, cymaint i lefain drosto, cymaint i deimlo edifeirwch amdano. Ond, eu straeon nhw ydy'r rhain i gyd, ac er mwyn dysgu o'n hanesion ni fel cenedl mae'n rhaid i blant Cymru ddeall haenau yr hanesion hynny. Wedi'r cwbl, mae'r gair 'Cymru' yn golygu plethiant, cymysgedd, pobl yn byw gyda'i gilydd. Palimpsest o straeon amryw, amryliw ydyn ni oll. Ac os...
Delyth Jewell: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am leihau'r risg o heintiadau COVID-19 mewn ffatrïoedd a lleoliadau caeedig eraill? OQ55438
Delyth Jewell: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i ehangu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Merthyr Tudful? OQ55422
Delyth Jewell: Diolch i'r Prif Weinidog am ei ymateb. Ysgrifennais at Kepak a chyngor Merthyr Tudful ar 1 Ebrill eleni i fynegi fy mhryderon ynghylch diffyg gweithdrefnau cadw pellter cymdeithasol a hylendid yn eu ffatri ym Merthyr Tudful ar ôl i etholwr dynnu fy sylw at y mater. Roedd yr etholwr yn pryderu y gallai achosion o COVID-19 ddigwydd yno oni bai bod rheoliadau priodol yn cael eu rhoi ar waith,...
Delyth Jewell: Diolch am yr ateb yna, Weinidog. Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi cysylltu â mi ynghylch eu hymgyrch nhw i fynd i'r afael â'r diffyg darpariaeth o addysg Gymraeg yn yr ardal. Ar hyn o bryd, dim ond dwy ysgol gynradd sydd yno, a does dim ysgol uwchradd o gwbl—sefyllfa gwbl annheg ar blant yr ardal. Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg eisiau gweld ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd yn cael...
Delyth Jewell: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau i'r M4 o amgylch ardal Twneli Brynglas yn y dyfodol? OQ55468
Delyth Jewell: Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Rwy'n siŵr y bydd trigolion Casnewydd yn falch o weld y cynnydd pellach yn y maes hwn, a'r cynnig ar gyfer lliniaru'r tagfeydd yn yr ardal gan barchu ymrwymiad y Senedd i leihau ein hallbwn carbon ar yr un pryd. Nawr, Gweinidog, yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd Boris Johnson fod ei Lywodraeth ef yn y DU yn bwriadu caniatáu adeiladu ffordd osgoi dros...