Lesley Griffiths: Wel, efallai pan fydd yr Aelod wedi dysgu rhywfaint mwy am Gymru fe welwch ein bod yn gyfoethog iawn mewn adnoddau adnewyddadwy. Mae’n ymwneud â chydbwysedd, felly yr ateb byr i’ch cwestiwn yw ‘na’.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae rhaglenni rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i fynd i’r afael â risg ar draws gogledd Cymru yn unol â’n strategaeth genedlaethol. Mae hyn yn cynnwys gwaith mawr yn Llanelwy, arfarnu 20 o gynlluniau arfordirol posibl a thros 70 o brosiectau bach i wella’r gallu i wrthsefyll llifogydd a chyflawni gwaith cynnal a chadw hanfodol.
Lesley Griffiths: Wel, mae’n broblem ac rydym yn dod â phobl at ei gilydd ac mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i geisio dod o hyd ateb priodol. Ond gwn nad oes penderfyniad wedi’i wneud eto, oherwydd rydym angen i’r gwaith hwnnw gael ei wneud. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallech chithau annog eich awdurdod lleol.
Lesley Griffiths: Nid wyf wedi cael y drafodaeth honno gyda chynrychiolwyr ffermio, ond credaf fod hynny’n rhywbeth y gallaf ei ystyried, yn sicr. Hoffwn atgoffa’r Aelodau ein bod yn dal i fuddsoddi £55 miliwn ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ac er i ni weld llifogydd yr wythnos hon, yn enwedig i lawr yn ne Cymru, credaf ein bod wedi eu gweld ar raddfa lai oherwydd yr amddiffynfeydd a roesom...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae ein deddfau blaenllaw, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, wedi sicrhau sylfaen gref cyn Brexit ac yn cyflawni mewn perthynas â’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol, cytundeb Paris a nodau byd-eang y Cenhedloedd Unedig. Maent yn darparu cyfeiriad clir yn seiliedig ar rwymedigaethau rhyngwladol allweddol na fyddant yn newid o...
Lesley Griffiths: Ni chafodd hynny ei ystyried ar y cychwyn fel rhan o’r goblygiadau, ond yn sicr, byddwn yn parhau i arfer y dull rhagofalus a fabwysiadwyd gennym dros y blynyddoedd diwethaf.
Lesley Griffiths: Unwaith eto, nid wyf wedi edrych yn fanwl iawn ar fater cael llys. Mewn gwirionedd, byddaf yn cwrdd ag Andrea Leadsom yfory, felly mae’n sicr yn rhywbeth y gallaf ei drafod. Rydym wedi dweud yn glir iawn y bydd y pwerau sydd wedi’u datganoli i’r lle hwn ers 1999 yn aros yma. Efallai y byddant yn mynd i mewn i’r Ddeddf ddiddymu i ddechrau, ond bydd unrhyw bwerau yn dod i ni wedyn fel y...
Lesley Griffiths: Wrth gwrs, rwy’n ymwybodol o ddyfarniad Uchel Lys Llywodraeth y DU. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fy mod yn ymgynghori ar hyn o bryd ynglŷn ag ansawdd aer a rheoli sŵn. Bydd yr ymgynghoriad hwnnw yn parhau tan 6 Rhagfyr. Rwy’n bwriadu defnyddio’r dystiolaeth a’r ymatebion a gawn yn rhan o’r ymgynghoriad hwnnw—defnyddio’r dystiolaeth wrth fwrw ymlaen erbyn y bydd angen i ni...
Lesley Griffiths: Diolch. Rydym yn gweithio i ddatblygu a hyrwyddo ein sector bwyd môr yng Nghymru ar gyfer marchnadoedd domestig a marchnadoedd allforio. Yn ddiweddar, lansiais y strategaeth bwyd môr newydd yn ystod Wythnos Bwyd Môr Cymru, gyda’r nod o dyfu gwerth economaidd y sector. Byddwn yn hyrwyddo’r sector eto yn nigwyddiad Seafood Expo Global yn 2017.
Lesley Griffiths: Lluniwyd y strategaeth drwy weithio—yn sicr, bu fy swyddogion yn gweithio—gyda’r diwydiant. Hwy a’i datblygodd. Fe’i lansiwyd gennyf fi, fel y dywedwch. A chredaf fod y Llywodraeth a’r diwydiant yn rhannu’r weledigaeth honno ar gyfer y strategaeth, sef diwydiant bwyd môr ffyniannus, bywiog, diogel a chynaliadwy yng Nghymru. Credaf ei bod yn hollol iawn ein bod yn hyrwyddo...
Lesley Griffiths: Fel y dywedais, mae’n bwysig iawn, os ydym am gyflawni’r weledigaeth honno, fod gennym—. Mae hyrwyddo ansawdd a chynaladwyedd ein cynnyrch bwyd môr yn gam allweddol. Mae’n bwysig iawn fod unrhyw beth a wnawn yn y dyfodol yn seiliedig ar dystiolaeth ac ar wyddoniaeth, ac er enghraifft, dyna a wneuthum pan gytunais i ymestyn y gwely cregyn bylchog yng Ngheredigion.
Lesley Griffiths: Mae troseddau tirwedd, gan gynnwys tipio anghyfreithlon a gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd, yn fater y mae Llywodraeth Cymru o ddifrif yn ei gylch ac yn ymrwymedig i roi sylw iddo. Mae Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a Deddf Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd 2005 yn darparu nifer o bwerau i ganiatáu i awdurdodau lleol ddelio â’r rhai sy’n cyflawni troseddau amgylcheddol.
Lesley Griffiths: Diolch. Dyluniwyd cynllun rheoli cynaliadwy gwerth £10 miliwn ein rhaglen datblygu gwledig i ddarparu nifer o fanteision gan gynnwys mynd i’r afael â gweithredoedd gwrthgymdeithasol ac anghyfreithlon yn ein tirwedd fynyddig werthfawr. Unwaith eto, hoffwn annog pawb sydd â diddordeb yn hyn i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb. Fe sonioch am y pecyn cymorth troseddau tirwedd a gyflwynwyd...
Lesley Griffiths: Rydym wedi buddsoddi llawer yn brwydro yn erbyn hyn, ac mae’n drosedd ac yn anghyfreithlon. Rydym wedi ariannu mentrau Taclo Tipio Cymru ers 2007 ac yn gweithio’n agos iawn gyda hwy. Un peth rydym yn ystyried ei wneud, wrth symud ymlaen, yw—mae rhai awdurdodau lleol wedi dweud wrthyf, ‘Weithiau, efallai mai dim ond un bag bin du a adawyd yno.’ Felly, rydym yn ystyried ymgynghori...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn drosedd, felly mae’n fater i’r heddlu, ond rydym yn annog rhanddeiliaid ac aelodau o’r cyhoedd i weithio gyda’r heddlu a phartneriaid eraill, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol, i helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn. Credaf ein bod wedi gweld cynnydd yn y math hwn o weithgaredd, felly mae’n bwysig iawn,...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda rheolwyr tir a rhanddeiliaid eraill i wella arferion gwaith a sicrhau gwelliannau i statws crynofeydd dŵr Cymru. Eleni, mae 97 o’n 103 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig wedi cael eu dosbarthu’n ‘ardderchog’ neu’n ‘dda’, gan sicrhau bod traethau Cymru ymhlith rhai o’r goreuon yn Ewrop.
Lesley Griffiths: Diolch. Rydych yn llygad eich lle yn dweud bod 37 y cant o’r holl grynofeydd dŵr yng Nghymru wedi cyflawni statws ‘da’ neu well, ac rwy’n bwriadu cynyddu hynny yn y dyfodol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn targedu eu hadnoddau i weithio gyda rheolwyr tir a rhanddeiliaid eraill i wella arferion gwaith, a chredaf y bydd hynny’n arwain at welliannau o ran statws. Rydych yn iawn ynglŷn...
Lesley Griffiths: Wel, fel y dywedais yn fy ateb i Joyce Watson, mae’n bwysig iawn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda rheolwyr tir a rhanddeiliaid eraill, ac mae hynny’n cynnwys awdurdodau lleol. Rwyf wedi rhoi arian ychwanegol i fynd i’r afael â materion penodol, ond mae’n bwysig iawn fod y rhanddeiliaid a’r holl bartneriaid yn gweithio gyda’i gilydd mewn perthynas â’r mater hwn.
Lesley Griffiths: Byddwn yn sicr yn fwy na pharod i edrych ar yr hyn a wneir yn Llydaw. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn ymgynghori ar hyn o bryd ar weithrediad y gyfarwyddeb nitradau yng Nghymru. Credaf fod yr ymgynghoriad yn dod i ben yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf. Felly, unwaith eto, byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb i ddarllen yr ymgynghoriad ac i ymateb yn unol â hynny, ond wrth gwrs, rwy’n...
Lesley Griffiths: Diolch. Fy mlaenoriaeth yw cyflymu’r broses o newid i gymysgedd ynni carbon isel gyda pholisïau sy’n cefnogi ein hamcanion strategol fel Llywodraeth, fel y nodir yn ‘Symud Cymru Ymlaen’. Byddaf yn gwneud datganiad ym mis Rhagfyr a fydd yn amlinellu fy mlaenoriaethau ynni ar gyfer Cymru gyfan.