Russell George: Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, rwy’n derbyn mai gwaith awdurdodau lleol yw annog trigolion i ailgylchu eu gwastraff bwyd. Ond a gaf fi ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, pa ystyriaeth rydych wedi’i rhoi i ymgyrch genedlaethol, ledled Cymru, i annog pobl i feddwl am y ffordd y maent yn siopa ac yn cynllunio eu prydau mewn perthynas â lleihau gwastraff bwyd?
Russell George: Hoffwn gyfrannu heddiw at y ddadl hon gan ganolbwyntio’n fawr iawn ar addysg uwch a dysgu gydol oes a sut y mae hynny’n cysylltu ag economi Cymru. Ond mae dau beth y byddwn yn awyddus iawn i wybod heddiw, a dyma un: pa gwrs y mae Darren Millar yn ei wneud? Dywedodd wrthym ei fod yn dilyn cwrs addysg bellach rhan-amser; ni ddywedodd wrthym beth oedd yn ei wneud. Ac yn ail, hoffwn wybod gan...
Russell George: Hoffwn i godi mater gwestai, yn arbennig, gyda chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi gwybod i mi a ydych chi wedi, neu a ydych chi’n barod i ystyried newid rheoliadau i wahardd ysmygu mewn ystafelloedd gwesty dynodedig. Mae etholwr wedi codi'r mater hwn gyda mi dros gyfnod helaeth o amser. Yn un peth, mae 'na broblem diogelwch, ond, yn ail, y tu hwnt i’r...
Russell George: Diolch i chi, Llywydd dros dro. Nod y ddadl heddiw yw cydnabod pwysigrwydd cynlluniau adfywio wrth wella ffyniant cymunedau yng Nghymru yn y dyfodol. Rydym hefyd yn awyddus i gael gwybod gan y Llywodraeth sut y mae’n bwriadu cynyddu hyder buddsoddwyr mewn prosiectau adfywio. Gwn fod fy nghyd-Aelodau’n gobeithio cael eu galw mewn perthynas â chynlluniau adfywio yng ngogledd a de Cymru, ac...
Russell George: Fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid ddoe, nid oes llawer o dystiolaeth y bydd y parc busnes £100 miliwn a gyhoeddwyd i leddfu ergyd y siom yn sgil Cylchffordd Cymru yn creu’r 1,500 o swyddi a addawyd neu’n adfywio Blaenau Gwent, o ystyried hanes Llywodraeth Cymru o greu swyddi newydd yn y rhan hon o Gymru. Dyma’r cwestiwn: pa hyder a ddylai fod gennym y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi...
Russell George: Prif Weinidog, ceir wyth ardal fenter ledled Cymru. Nid oes yr un ohonyn nhw yn fy etholaeth i. Byddwn i’n dweud, yn y canolbarth, bod diddordeb mawr mewn entrepreneuriaeth a bod lefel uwch o fusnesau newydd nag efallai mewn rhannau eraill o Gymru. Felly, yr hyn y byddwn yn ei ofyn i chi, Prif Weinidog, yw: a ydych chi’n credu bod achos dros ardal fenter, neu gytundeb twf, ar gyfer y...
Russell George: Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw ac am ei sylwadau ynglŷn â gwaith y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau. Rwy’n edrych ymlaen at ei weld yn derbyn, rwy’n gobeithio, pob un o'n hargymhellion. Yn gyntaf, o ran y broses gaffael, mae eich llythyr dyddiedig 12 Gorffennaf ataf am y rhinweddau a'r risgiau sy'n gysylltiedig â chyhoeddi’r fanyleb ddrafft lawn...
Russell George: Diolch, Llywydd gweithredol. Mae’n rhaid i mi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siomedig nad ydym wedi gweld y manylion eto a fydd yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol graffu ar gynllun busnes y banc datblygu. Wrth gwrs, mae'n rhaid i’r Aelodau allu sicrhau bod busnesau yn cael cefnogaeth lawn yn sgil y cynigion a bod methiannau Cyllid Cymru yn cael sylw llawn. Felly, byddwn yn...
Russell George: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y broses o flaenoriaethu 12 gorsaf rheilffordd newydd?
Russell George: Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae prosiectau seilwaith wedi cael eu gohirio’n rhy aml gan ystyriaethau gwleidyddol tymor byr, ac mae hyn yn aml wedi arwain at gostau cynyddol a chanslo prosiectau yn gyfan gwbl. Yn ogystal, pan fo lefelau uchel o ansicrwydd ynghlwm wrth gynlluniau seilwaith, o bosibl, yn aml nid yw buddsoddwyr sector preifat yn awyddus i ddarparu cefnogaeth...
Russell George: Wel, carwn awgrymu, Ysgrifennydd y Cabinet, fod arnom angen dull mwy hirdymor a sefydlog yng Nghymru—yn fwy nag erioed o’r blaen. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae arnaf ofn fod Llywodraeth Cymru wedi llywyddu dros nifer o brosiectau mawr sydd wedi methu. Mae hynny wedi creu dryswch ac ansicrwydd ymhlith darpar fuddsoddwyr sector preifat, ac mae’r methiant a’r broses mewn perthynas â...
Russell George: Ac yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, os caf fynd ar drywydd mater a gododd Adam Price yn ei gwestiwn cyntaf efallai, mae peth dryswch i mi o hyd yn hyn o beth, yn sicr mewn perthynas â ‘ffyniannus a diogel’ a’ch strategaeth economaidd. Rwy’n ymwybodol eich bod wedi dweud wrth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y byddech yn ei chyhoeddi yn ystod y tymor hwn; rwy’n...
Russell George: Nid yw’r pryder a fynegwyd wrthyf yng nghanolbarth Cymru yn ymwneud yn gymaint â chadw, ond yn hytrach â recriwtio gweithwyr iechyd proffesiynol yn y lle cyntaf. Mynegir pryderon wrthyf yn rheolaidd ynglŷn â’r prinder difrifol o ddeintyddion sy’n cael eu recriwtio yng nghanolbarth Cymru. Felly, a gaf fi ofyn: beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gymell recriwtio deintyddion,...
Russell George: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru 'Gwasanaethau sy'n Addas i'r Dyfodol'? (OAQ51025)
Russell George: Prif Weinidog, rwy’n gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi i gydnabod y gwaith pwysig y mae cynghorau iechyd cymuned yn ei wneud ledled Cymru. Rwyf wedi cael y cyfle i gyfarfod â chyngor iechyd cymuned Powys ar sawl achlysur dros doriad yr haf. Ac un pryder y maen nhw wedi ei godi gyda mi yw'r cyfeiriad y mae’n ymddangos bod Papur Gwyn Llywodraeth Cymru yn ei ddilyn, ac un mater penodol y...
Russell George: Fel Adam Price, rwyf innau hefyd wedi gwneud rhywfaint o ddarllen yn gyflym—llwyddais i ddarllen y ddogfen yn ystod un o'r cwestiynau yng nghwestiynau'r Prif Weinidog yn gynharach. Ac roedd pwyntiau yn y ddogfen yr oeddwn yn falch o'i weld yn y fan honno. Ond rwy'n siomedig, heddiw, nad ydym ni wedi gweld strategaeth economaidd gynhwysfawr. Fel aelodau eraill ar draws y Siambr hon, o bob...
Russell George: Diolch. Gweinidog, a gaf i ofyn: a ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth, ac os naddo, a wnewch chi, i wahardd ysmygu mewn ystafelloedd gwely gwestai yng Nghymru?
Russell George: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y grant cyngor busnes Cyswllt Ffermio? (OAQ51024)
Russell George: 2. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda chymdeithasau tai mewn ymdrech i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol? (OAQ51023)
Russell George: Ysgrifennydd y Cabinet, mae etholwr wedi cysylltu â mi i fynegi pryderon ynglŷn â’r ffioedd gweinyddu a godir gan ymgynghorwyr i gyflawni gwaith o dan grant cyngor busnes Cyswllt Ffermio—neu, os wyf yn anghywir, fel y dywedoch—. Ymddengys i mi fod ymgynghorwyr, mewn rhai achosion, yn derbyn hyd at 20 y cant o gyfanswm y grant mewn ffioedd gweinyddu. A ydych yn barod i edrych ar hyn...