Bethan Sayed: Roeddwn i’n meddwl tybed a allwn ni gael datganiad ar strategaeth a meini prawf caffael llywodraeth leol. Rwy'n gofyn hyn oherwydd bod cwmni dodrefn ym Mhort Talbot sydd wedi gwneud ceisiadau am gontractau gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cysylltu â mi. Maen nhw wedi rhoi dodrefn mewn llawer iawn o ysgolion ledled Cymru, ond ni chawsant hyd yn oed y cyfle i...
Bethan Sayed: Prif Weinidog, ddydd Gwener, roeddwn i gyda'r tîm cymorth ieuenctid ethnig yn Abertawe, ac roedden nhw’n dweud yr hoffent gael llawer mwy o gefnogaeth wrth fynd i ysgolion a lleoliadau addysg o ran ceisio cael cymunedau i gydweithio. Ac felly, mewn un ysgol, roedd ganddyn nhw ferch wen yn gwisgo hijab, a cherddodd i lawr y stryd, ac yna daeth yn ôl a dweud pa mor wahanol yr oedd hi'n...
Bethan Sayed: Fe hoffwn i ofyn ambell gwestiwn a chodi rhai materion ynglŷn â rhai o'r trafodaethau cyllidebol â Phlaid Cymru. Hoffwn adleisio'r hyn a ddywedwyd eisoes: a minnau wedi bod yma ers 10 mlynedd bellach, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig inni geisio dod o hyd i dir cyffredin lle y gallwn ni, a defnyddio ein galluoedd fel gwleidyddion i ddod o hyd i atebion, ynghyd ag i graffu ar bethau. Felly,...
Bethan Sayed: Tybed a allech ddweud mwy wrthym ynglŷn â sut y mae pobl ifanc yn ymwneud â mater digartrefedd mewn ysgolion. Yn amlwg, rwy’n ymwybodol o becyn cymorth Shelter Cymru, a ddefnyddir mewn llawer o ysgolion yng Nghymru, ond tybed sut y gellir ychwanegu at hynny, oherwydd cawsom ddadl yr wythnos diwethaf gan bobl ifanc yn Wrecsam—nid Wrecsam, mae’n ddrwg gennyf—Ynys Môn, a ddaeth i...
Bethan Sayed: Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o’r cyhoeddiad y bydd Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn colli contractau gyda Jaguar Land Rover ar ôl 2020? (TAQ0049)
Bethan Sayed: Diolch yn fawr am yr ymateb hwnnw. Gwelais yr arwyddion clir cyntaf o gythrwfl ym mis Mawrth, ac ar 21 Awst pleidleisiodd y gweithlu, fel y gwyddoch rwy’n siŵr, dros weithredu diwydiannol, sydd bellach wedi ei ohirio. Mae wedi bod yn hysbys ac wedi cael ei ddweud gan aelodau o’ch Llywodraeth chi fod arferion gwaith wedi cael eu caniatáu i dyfu fel problem ers nifer o flynyddoedd. Cawsom...
Bethan Sayed: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o agor y ddadl hon ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ‘Gwireddu’r Uchelgais: Ymchwiliad i Strategaeth Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru’. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Os yw’r uchelgais yma am lwyddo, bydd yn golygu dyblu nifer y siaradwyr Cymraeg mewn ychydig dros...
Bethan Sayed: Mae materion a nodwyd yn rhai o argymhellion penodol yr adroddiad, ac yn ymateb y Llywodraeth i’r argymhellion hynny, yr hoffwn sôn amdanynt ac y gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn ymateb iddynt yn ei gyfraniad i’r ddadl. Felly, trwy edrych ar rhai o’r argymhellion penodol, roedd argymhelliad 5 yn galw am ragor o gymorth a chefnogaeth i gyflogwyr a busnesau’r sector preifat er mwyn...
Bethan Sayed: Diolch yn fawr iawn. Hoffwn i, yn fras, ddiolch i bawb am gyfrannu yn y ddadl yma heddiw. Rwy’n credu, er ein bod ni wedi cael trafodaeth ddoe ar y Bil, ei bod hi wedi helpu, mewn ffordd, cael trafodaeth yn yr un wythnos i ni allu edrych ar y mater yma mewn ffordd gynhwysfawr yn hynny o beth. Diolch i Suzy Davies am ei chyfraniad. Yr hyn roeddech chi’n ei ddweud ynglŷn ag addysg i...
Bethan Sayed: Prif Weinidog, ddoe, roeddwn yn falch o allu mynd allan a bod yn werthwr 'The Big Issue', ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Cabinet, Carl Sargeant, gan gymryd rhan yn y broses honno fel ffordd o weld sut mae pobl sydd, o bosib, rhwng tai, sy'n cael trafferth gyda llawer o bethau yn eu bywydau, yn defnyddio 'The Big Issue' i’w werthu a pheidio â chardota. Yr hyn a ddarganfyddais oedd ei bod...
Bethan Sayed: Roeddwn i’n meddwl tybed a allwn i gael diweddariad arall gan Ysgrifennydd y Cabinet dros dai o ran yr hyn sy’n digwydd yn y sector preifat ynglŷn â deunydd cyfansawdd alwminiwm. Rwy’n gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am hyn oherwydd, ers ei ddiweddariad blaenorol, rwyf wedi bod yn siarad â phreswylwyr Prospect Place yng Nghaerdydd unwaith eto, ac maen nhw’n dweud wrthyf nad yw...
Bethan Sayed: Fel grŵp Plaid Cymru, ein tuedd yw cefnogi ar hyn o bryd, ond, yn debyg i’r cafeatau a gynigiwyd gan David Melding, credaf ei bod yn bwysig i ni weld beth fydd yn digwydd yn ystod y pwyllgor ac i—[Torri ar draws.] Mae ffôn pawb yn canu heddiw. Jiw, jiw. Yr hyn yr oeddwn i eisiau ei ddweud oedd y byddai'n rhaid inni edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn y pwyllgor o ran y gwelliannau posib...
Bethan Sayed: Diolch, a diolch i chi am gynnal y ddadl hon ar yr hyn sy'n bwnc pwysig iawn ac yn un nad wyf i'n credu y rhoddir digon o sylw iddo yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn rheolaidd. Mae rhai o'r gwelliannau wedi eu hysbrydoli gan Race Equality First a'r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig yn Abertawe. Roedd y syniadau penodol hynny yn canolbwyntio ar hyfforddiant athrawon i ymdrin â digwyddiadau ac...
Bethan Sayed: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa fesurau cynllunio sydd ar waith i ddiogelu ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghymru?
Bethan Sayed: Wrth benderfynu ar gynllun newydd i ddisodli’r cynllun Nyth, a allwch ddweud wrthym a fuasech yn barod i edrych ar reolau cymhwysedd mewn perthynas â gwneud cais am welliannau effeithlonrwydd ynni yn y cartref? Rwy’n credu bod gan becyn cymorth ynni cyfatebol yr Alban feini prawf llai llym, ac mae ar gael i’r rhai sydd ar incwm isel ac sy’n feichiog, er enghraifft, neu i rai cartrefi...
Bethan Sayed: Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch gadarnhau’r cwestiynau canlynol? A wnaeth Llywodraeth Cymru gynnig safle Rhosydd Baglan ar gyfer y carchar, pan oedd y safle, ar yr adeg y cafodd ei gynnig ym mis Mai 2016, wedi’i gategoreiddio fel parth perygl llifogydd C2 ac yn mynd yn erbyn nodyn cyngor technegol 15 eich canllawiau cynllunio eich hun? A allwch chi hefyd egluro a oedd y cyfamod ar y tir...
Bethan Sayed: Iawn. Nid wyf yn credu eich bod wedi ateb y cwestiwn cyntaf, ond gallaf ddod yn ôl ato eto. Rwyf eisiau ceisio ymchwilio ymhellach i hynny’n benodol. Pam na chafodd y categori perygl llifogydd ei ddiweddaru drwy Cyfoeth Naturiol Cymru hyd nes fis Mawrth 2017? Dyna’r mis y daeth y newyddion am y safle—. Cafodd y dewis a ffafrid ar gyfer carchar newydd ei wneud yn gyhoeddus yn ystod y...
Bethan Sayed: Y pwynt yw, fodd bynnag, ei fod wedi cael ei newid, fod hynny wedi ei wneud yn lleoliad posibl, felly, i’r carchar hwn allu cael ei adeiladu. Yn y gorffennol, nid oedd mor bosibl i ddiwydiannau geisio’r tir hwnnw, ac rwy’n ceisio deall pam oedd hynny a phryd y cafodd y penderfyniad ei wneud, ac nid wyf yn clywed hynny gennych yma heddiw. O ran y cyfamod, a’r hyn rwy’n ei ddeall, fel...
Bethan Sayed: Hoffwn wneud datganiad i nodi mai yfory yw Diwrnod Rhyngwladol yr Undebau Credyd. Mae ‘Nid er credyd, nid er elusen, ond er gwasanaeth’ yn arwyddair undebau credyd. Rydym yn aml yn anghofio nad busnes yn unig yw diben bancio, ond angen cymdeithasol. Wrth inni weld miloedd o fanciau bach manwerthu a lleol yn cael eu cau a’u caffael dros y 30 i 40 mlynedd diwethaf, a phan ystyriwn fod y...
Bethan Sayed: Diolch. Rwyf wedi rhoi munud i Angela Burns. Wrth nesáu at y ddadl hon, a meddwl am y materion y mae’n eu codi, gan gynnwys hawliau cleifion, sut yr ydym yn cefnogi ac yn credu gair pobl sydd wedi dioddef troseddau neu gam-drin yn y GIG, sut yr ydym yn diogelu yn erbyn digwyddiadau yn y dyfodol, a sut y mae’r GIG yn ymdrin â phroblemau a digwyddiadau mawr pan fyddant yn codi, roeddwn yn...