Canlyniadau 241–260 o 2000 ar gyfer speaker:David Melding

7. 7. Datgarboneiddio yn y Sector Cyhoeddus (27 Meh 2017)

David Melding: Fe wna i orffen y darn hwn. Felly, mae hynny'n golygu y bu saith mis o oedi cyn gweithredu lefelau cyllideb carbon y DU. Ildiaf.

7. 7. Datgarboneiddio yn y Sector Cyhoeddus (27 Meh 2017)

David Melding: Rwy’n sicr yn disgwyl iddo barhau. Ni allaf siarad ar ran y DUP ond gallaf siarad ar ran Plaid Geidwadol Cymru, ac rydym ni’n cydnabod newid yn yr hinsawdd sydd wedi ei achosi gan ddyn. Felly, ein ffordd ni o fynd ati yw cefnogi ac annog Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, i fynd ymhellach. Ond, beth bynnag, fe allem ni symud yn gyflymach yma, ac mae'n drueni nad ydym ni wedi gwneud...

9. 9. Dadl Frys: Cytundeb ‘Hyder a Chyflenwi’ Llywodraeth y DU a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (27 Meh 2017)

David Melding: Wel, rydym, ar hyn o bryd, yn ymdrin â chanlyniad yr etholiad cyffredinol, a dim ond dau opsiwn dichonadwy gafodd eu cynhyrchu ganddo. Un oedd Llywodraeth Geidwadol leiafrifol—yr un yr oeddwn i, gyda llaw, yn ei ffafrio, ond byddai hynny wedi bod yn fregus, yn amlwg—neu, yn ail, cyfuniad gyda'r DUP i greu cytundeb hyder a chyflenwi. Nid oedd dim cyfuniad arall a allai fod wedi cynhyrchu...

9. 9. Dadl Frys: Cytundeb ‘Hyder a Chyflenwi’ Llywodraeth y DU a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (27 Meh 2017)

David Melding: [Yn parhau.]—ond un sy'n cynrychioli rhan benodol iawn o'r Deyrnas Unedig ac nad oes ganddi fandad ehangach na hynny. Byddai’n well gen i beidio, ac rwy’n meddwl eich bod yn mynd i siarad yn y ddadl, ond os ydych yn pwyso arnaf, gwnaf ildio, ond mae gennyf ragor o bethau yr hoffwn eu dweud ac yr wyf yn meddwl yr hoffai’r Cynulliad eu clywed. Ydych chi am imi ildio?

9. 9. Dadl Frys: Cytundeb ‘Hyder a Chyflenwi’ Llywodraeth y DU a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (27 Meh 2017)

David Melding: Wel, amser a ddengys ar sefydlogrwydd yr holl drefniant hwn. Yn fy marn i, ac rwy'n mynd i fynd i drafferth ofnadwy nawr, yw mai dyn a ŵyr beth fydd yn digwydd ar ôl diwedd y trafodaethau Brexit. Ond rwy’n meddwl bod angen inni sefyll dros Gymru. Dyna pam mae'r Cynulliad Cenedlaethol yma. Mewn adegau o drafod dyrannu adnoddau gwladwriaeth y DU, yr ydym yn rhan ohoni ac wedi bod yn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(28 Meh 2017)

David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, roedd adran 17 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr gynnal ymgynghoriadau cyn ymgeisio gyda’r gymuned ac ymgyngoreion technegol. A ydych wedi gwneud unrhyw asesiad o sut y mae’r broses hon yn gweithredu bellach a hithau wedi bod ar waith ers 15 mis?

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(28 Meh 2017)

David Melding: Rwy’n falch ei fod yn mynd rhagddo, gan fod hwn yn ddiwygiad pwysig i sicrhau bod y broses gynllunio’n fwy effeithiol ac effeithlon. Bydd yr Aelodau’n gwybod bod hyn yn ofynnol ar gyfer datblygiadau mawr, megis datblygiadau tai o 10 neu fwy o dai, neu ddatblygiadau ar safleoedd un hectar neu fwy o faint. Nawr, un o’r prif amcanion yw cynnwys y gymuned leol a’u galluogi i leisio eu...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(28 Meh 2017)

David Melding: Rwy’n cytuno â chi, gan y credaf mai mantais proses rag-gynllunio yw y gellir mynd i’r afael wedyn â phryderon real iawn y gymuned, a gall hynny wedyn roi ffurf i’r cais, ond gall y cais barhau yn ei hanfod ar ffurf wedi’i chymedroli a’i haddasu. Rhywbeth arall y credaf fod angen i chi edrych arno, oherwydd, yn y trafodaethau a gefais, er enghraifft gyda chymdeithasau tai,...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid
(28 Meh 2017)

David Melding: Rwy’n falch hefyd o allu cymeradwyo’r gwaith ar adfywio canol tref Aberdâr. [Torri ar draws.] Rwy’n hoffi bod yn hael. Mae’n sicr yn un o’r enghreifftiau gorau i mi eu gweld erioed o ddefnyddio’r math hwn o arian, ac mae’n atgoffa pobl o ‘Frenhines y Cymoedd’, fel roedd Aberdâr yn arfer cael ei galw, rwy’n credu. Rwyf eisiau siarad am adnewyddu tai. A wnewch chi ein...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru ( 4 Gor 2017)

David Melding: Beth yw blaenoriaethau'r Prif Weinidog o ran datblygu economaidd yng Nghanol De Cymru?

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr
( 4 Gor 2017)

David Melding: Prif Weinidog, canfu adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru 'Gorchudd Coed yn Nhrefi a Dinasoedd Cymru’ bod 1 y cant o'r holl orchudd coed i’w ganfod mewn ardaloedd dwysedd uchel o dai, a nododd adroddiad Llywodraeth Cymru ei hun ar reoli ansawdd aer lleol yng Nghymru bod cynyddu gorchudd coed yn allweddol i wella llesiant cyffredinol, i leihau nwyon tŷ gwydr ac i wella ansawdd yr aer. A ydych...

4. 3. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf yn Dilyn y Tân yn Nhŵr Grenfell ( 4 Gor 2017)

David Melding: A gaf i groesawu’r datganiad hwn gan Ysgrifennydd y Cabinet a diolch iddo am y crynodeb a roddodd i lefarwyr y gwrthbleidiau y bore yma a'r addewid o grynodebau pellach ganddo ef a'i swyddogion? Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod yn cael gwybod y diweddaraf, fel y dywedodd, am sefyllfa sy'n newid yn gyflym. A alla i ofyn iddo, o ran yr asesiadau uniongyrchol sydd wedi eu gwneud,...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Y Cyflog Byw Sylfaen
( 5 Gor 2017)

David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi hefyd ychwanegu fy nghefnogaeth i’r duedd hon sy’n datblygu? Deallaf fod dros 80 o gwmnïau a sefydliadau ledled Cymru bellach yn talu’r cyflog byw sylfaen, gan gynnwys, Llywydd, y Cynulliad Cenedlaethol a chyngor Chaerdydd. Credaf fod y pwynt a wnewch yn hollol gywir. Mae gennym argyfwng cynhyrchiant yn y wlad hon, ac mae llawer ohono’n deillio o...

6. 6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod ( 5 Gor 2017)

David Melding: A gaf fi roi croeso cynnes i’r cynnig hwn a chanmol Bethan am ei gyflwyno ac am siarad mor huawdl a chydag angerdd mawr dros yr achos hwn? Rwy’n credu bod ysgolion yn allweddol i gefnogi gofalwyr ifanc a sicrhau nad yw eu rolau gofalu’n lleihau eu cyfleoedd bywyd o ganlyniad i gyrhaeddiad addysgol gwael. Yn aml, byddant angen llawer o hyblygrwydd, ni fydd ganddynt strwythur penodol, a...

7. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Prosiectau Adfywio ( 5 Gor 2017)

David Melding: Rwyf am ganolbwyntio ar ran gyntaf ein cynnig a dweud pan fydd adfywio wedi’i ystyried yn drwyadl, gall sicrhau manteision mawr. Mae canol tref Aberdâr yn enghraifft. Yma ym Mae Caerdydd, dros y 30 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld y trawsnewid mwyaf rhyfeddol yn ein prifddinas, ac rwy’n falch iawn o ddweud, Llywydd, fod yr adeilad hwn ynddo’i hun yn enghraifft wych o’r adfywio...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (11 Gor 2017)

David Melding: Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol Maes Awyr Caerdydd?

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Plant a Phobl Ifanc yng Nghwm Cynon
(11 Gor 2017)

David Melding: Prif Weinidog, mae hwn yn fater pwysig iawn, ac rwy’n cymeradwyo cyhoeddiad yr Ysgrifennydd dros Addysg, yn gynharach eleni, i dreialu’r clybiau cinio a hwyl hyn ar gyfer ysgolion cynradd yn gyntaf. Ond roeddwn i’n meddwl tybed a yw'n mynd i fod yn gynllun y byddwch chi’n ei ystyried ar gyfer y sector ysgolion uwchradd, oherwydd mae helpu'r rhai sy'n cael cinio ysgol am ddim, o ran...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Addysg Cerddoriaeth
(12 Gor 2017)

David Melding: Roedd Wagner yn fyrrach na hynny. [Chwerthin.]

6. 6. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Canolfan Rhewmatoleg Bediatrig (12 Gor 2017)

David Melding: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, am fy ngalw i gynnig y cynnig pwysig hwn, sy’n cael ei gynnig hefyd gan Caroline Jones, Rhun ap Iorwerth, Dai Lloyd a Julie Morgan. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i’r Aelodau sydd wedi cefnogi’r cynnig hwn. Hoffwn agor y ddadl hon gyda stori am ferch ifanc o Hwlffordd. Ei henw yw Aimee, ac efallai y bydd rhai ohonoch wedi ei chyfarfod yn ystod y...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (18 Gor 2017)

David Melding: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd coetiroedd cymunedol yn ardaloedd trefol Cymru?

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.