Jack Sargeant: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Byddwch yn gwybod bod y Torïaid wedi dod i Alun a Glannau Dyfrdwy ac wedi addo 62 o swyddogion yr heddlu newydd, yn benodol yng Nglannau Dyfrdwy. Nid ydyn nhw wedi darparu yr un, yn benodol yng Nglannau Dyfrdwy. Mae Llafur Cymru wedi ariannu swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ar draws Alun a Glannau Dyfrdwy ac mae Torïaid Cymru bellach wedi ymrwymo...
Jack Sargeant: 2. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo pobl sy'n dioddef o orbryder yn dilyn y cyfyngiadau symud? OQ56488
Jack Sargeant: Weinidog, mae ysgol feddygol ar gyfer gogledd Cymru yn rhywbeth y bûm yn galw amdano ers amser maith, ac mae'n rhywbeth sy'n arbennig o bwysig i ranbarth gogledd Cymru. A ydych yn cytuno mai Llywodraeth dan arweiniad Mark Drakeford sydd wedi ymrwymo i gyflawni hyn ac mai'r unig ffordd y mae hyn yn fforddiadwy ac yn bosibl ei gyflawni yw gydag ef yn Brif Weinidog?
Jack Sargeant: Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n siŵr fod pob un ohonom wedi siarad â phobl sy'n profi gorbryder am y tro cyntaf, pobl sy'n ansicr beth sy'n digwydd iddynt, ac yn bendant yn ansicr ynglŷn â pha gymorth sydd ar gael iddynt. Ceir llawer o drigolion Alun a Glannau Dyfrdwy, a ledled Cymru, nad ydynt wedi bod allan fawr ddim ers yr adeg hon y llynedd. Nid yn unig eu bod yn orbryderus am y...
Jack Sargeant: Prif Weinidog, mae'n dda cael bod yn ôl, a gan ein bod yn sôn am Uwch Gynghrair Cymru, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn yn awr, fel llysgennad clwb mwyaf balch yng Nghymru, i gofnodi fy llongyfarchiadau i'r Nomadiaid am gadw'r teitl yng Nghymru. Prif Weinidog, byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y cynlluniau profi ac olrhain arbrofol sy'n cael eu...
Jack Sargeant: Weinidog, mae economi gogledd-ddwyrain Cymru yn cael ei gyrru gan weithgynhyrchu. Ddydd Gwener, cefais y pleser a’r cyfle i gyfarfod ag eXcent UK a chlywed am eu cynlluniau ar gyfer twf sy’n seiliedig ar gyflogi peirianwyr lleol hyfedr ar gyflogau da. Roedd eu neges yn glir: gyda’r cymorth cywir, gall y sector gweithgynhyrchu uwch yng ngogledd Cymru gystadlu am waith yn fyd-eang a...
Jack Sargeant: A gaf i fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi dymuniadau gorau'r Senedd i'n tîm cenedlaethol cyn y gêm yfory, a hefyd i gynnig ein dymuniadau gorau a'n gweddïau ar ran Aelodau'r Senedd i Christian Eriksen o Ddenmarc, i'w deulu a'i ffrindiau yn y tîm, ar ôl y golygfeydd trasig dros y penwythnos? Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig ar y cyfle i fanteisio ar gyllid drwy Gyllid...
Jack Sargeant: Roeddwn yn falch iawn o weld y Gweinidog yn parhau gyda’r cyfrifoldeb am gynllunio yn ei phortffolio newydd, a phwysig iawn bellach, ac ochr yn ochr â’r Dirprwy Weinidog; roeddwn yn falch o weld y weinyddiaeth bwysig honno’n cael ei sefydlu. Weinidog, am amryw o resymau, mae'n cymryd mwy o amser nag yr oeddent wedi'i obeithio i gynghorau gwblhau CDLlau. Mae hyn yn aml yn golygu nad oes...
Jack Sargeant: Rwy'n mwynhau'r ddadl hon yn fawr. Fel y dywedodd ein cyfaill Sam Rowlands, rwy'n gefnogwr chwaraeon angerddol. Cefais fy atgoffa ganddo o'r dyddiau pan oeddwn yn cefnogi Clwb Pêl-droed Newcastle United, ac rwy'n dal i wneud hynny. Mae gennyf atgofion melys o'r diweddar Gary Speed yn gwneud pethau hudolus i fy nghlwb. Mae'r Llywydd yn gwybod fy mod i'n un i hyrwyddo rhagoriaeth mewn...
Jack Sargeant: Dirprwy Weinidog, fe wyddoch y bydd cynnwys y datganiad hwn yn cael effaith fawr ar drigolion yn fy etholaeth i, yn enwedig y plant, y mae'r llygredd aer yr oedd y buddsoddiad hwn i fod mynd i'r afael ag ef yn effeithio'n sylweddol arnyn nhw. A gaf i ofyn ichi, Gweinidog, pa mor ffyddiog ydych chi y bydd canlyniad yr adolygiad yn mynd i'r afael â hyn ac y bydd unrhyw fesurau yn y dyfodol yn...
Jack Sargeant: 1. Pa adnoddau sydd wedi'u dyrannu yng nghyllideb 2021-22 Llywodraeth Cymru i helpu pobl â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yng Nghymru? OQ56620
Jack Sargeant: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb a'r cymorth hyd yn hyn? Mae hi wedi bod yn 18 mis anodd dros ben i blant ledled Cymru. Fodd bynnag, bydd y gwahaniaeth rhwng profiadau plant o’r pandemig yn sylweddol. Mae'n amlwg i mi y bydd plant sydd wedi cael sawl profiad niweidiol yn ystod plentyndod wedi wynebu mwy o heriau na llawer o'u cyfoedion. Mae cryn dipyn o waith wedi'i wneud eisoes...
Jack Sargeant: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddatgan buddiant fel aelod hynod falch o undebau Unite a Community? Lywydd, rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i fy nghyd-gadeirydd grŵp Unite yn y Senedd, yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, Sarah Murphy, a hefyd i fy nghyd-Aelodau Carolyn Thomas a Mike Hedges.
Jack Sargeant: Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld ein cymunedau a'n gweithwyr yn cyd-dynnu i helpu ei gilydd a chadw ein gilydd yn ddiogel, gweithwyr mewn cynifer o feysydd yn gwneud aberth enfawr: yn ein hysbytai a'n cartrefi gofal, yn ein canolfannau brechu, yn darparu bwyd ac eitemau hanfodol, yn cadw ein cymunedau'n lân a'n cartrefi'n ddiogel a chymaint mwy. Ddirprwy Lywydd, yn y mudiad...
Jack Sargeant: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am darged Llywodraeth Cymru i ariannu swyddogion cymorth cymunedol heddlu ychwanegol? OQ56683
Jack Sargeant: Mi wnaf i eilio Mike Hedges.
Jack Sargeant: Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Cyfarfûm yn ddiweddar â chomisiynydd heddlu a throseddu newydd y gogledd, Andy Dunbobbin, a chroesawodd y ddau ohonom swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ychwanegol Llywodraeth Cymru, ar ben y rhai a ariannwyd eisoes gan eich Llywodraeth chi, ond roedd y ddau ohonom ni'n pryderu'n fawr am fethiant Llywodraeth y DU i ddarparu'r 62 o swyddogion yr...
Jack Sargeant: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran agor banc cymunedol yng Nghymru? OQ56671
Jack Sargeant: 1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r sector cyfreithiol ar ffyrdd y gellid hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol drwy ddeddfwriaeth? OQ56672
Jack Sargeant: 4. Beth mae'r Comisiwn yn ei wneud i gefnogi'r ymgyrch rhuban gwyn? OQ56673