Caroline Jones: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Yn 2014, cynhaliwyd cynllun peilot gan grŵp o wirfoddolwyr staff i asesu dichonoldeb tyfu bwyd ar ystad y Cynulliad. Fel y byddwch yn sylweddoli, nid oes gan y Cynulliad fawr o ofod tyfu addas, yn wahanol i rai o ddeddfwrfeydd eraill y DU, ac yn anffodus, gwelwyd nad yw’n bosibl tyfu bwyd ar yr ystad, er bod ein harlwywyr yn tyfu perlysiau i’w defnyddio...
Caroline Jones: Diolch, Jenny, am y wybodaeth honno, a byddaf yn sicr yn cyfarfod â chi i drafod ymhellach. Fodd bynnag, fe atebaf y cwestiwn yn y ffordd rwyf wedi paratoi ar hyn o bryd. Ond fe wnaf gyfarfod â chi yn nes ymlaen. Rydym yn ymwybodol o’r fenter wych. Fel y soniais, aseswyd dichonoldeb tyfu bwyd ar ein hystâd gan grŵp o wirfoddolwyr staff. Fodd bynnag, heb fawr o fannau gwyrdd ar gael,...
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Hoffwn longyfarch Bethan ar gael ei dewis i gyflwyno cynnig deddfwriaethol a hoffwn gynnig fy nghefnogaeth i’w chynigion. Yng Nghymru, mae miloedd o bobl ifanc o dan 16 oed yn gofalu am berthnasau heb fawr o gefnogaeth os o gwbl gan eu hysgol neu awdurdodau iechyd. Mae deddfwriaeth Bethan yn cydnabod yr effaith y gall cyfrifoldebau gofalu ei chael ar addysg gofalwr ifanc ac...
Caroline Jones: Ond rwy’n ei gefnogi.
Caroline Jones: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella cysylltiadau trafnidiaeth i gyrchfannau twristiaeth Cymru?
Caroline Jones: Prif Weinidog, mae gan y ddinas-ranbarth y potensial nid yn unig i weddnewid rhanbarth bae Abertawe, ond hefyd i sicrhau manteision ehangach i Gymru gyfan. Gallai'r rhyngrwyd gwyddorau bywyd a llesiant helpu i ad-drefnu’r ffordd yr ydym ni’n darparu gofal iechyd yn y dyfodol. Mae’r cebl trawsatlantig yn allweddol i lwyddiant gweledigaeth arfordir rhyngrwyd y ddinas-ranbarth. A allwch...
Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn i hefyd gofnodi fy niolch i Dr Ruth Hussey a'r panel am roi diweddariadau rheolaidd i mi a fy nhîm ar gynnydd yr adolygiad. Mae'r adroddiad interim yn nodi'n blaen yr heriau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydym ar hyn o bryd mewn cyfnod o esblygu gyda'n systemau iechyd a gofal: rydym yn addasu neu rydym yn...
Caroline Jones: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y bobl ifanc sy'n astudio pynciau STEM ar lefel TGAU a Safon Uwch?
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n newyddion da gweld bod y grant datblygu disgyblion yn cael effaith ar wella cyfleoedd addysg ein plant a’n pobl ifanc mwyaf difreintiedig. Fodd bynnag, mae addysg y plant a’r bobl ifanc yn Ogwr ar fin cael ei dinistrio wrth i’r toriadau i’r gyllideb ddod i’r amlwg. Gallai ysgolion cyfun awdurdod addysg lleol Pen-y-bont ar Ogwr golli hyd at bum swydd...
Caroline Jones: Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Julie, y grŵp trawsbleidiol, a phawb arall a oedd yn rhan o’r gwaith o sicrhau bod yr ymchwiliad hwn yn digwydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu ei fod yn newyddion gwych ein bod, o’r diwedd, yn cael ymchwiliad cyhoeddus i’r sgandal ofnadwy hon. Collodd fy ffrind agos, Faye Denny, ei brawd, Owen Denny, a fu farw o ganlyniad i waed halogedig. Yn...
Caroline Jones: Rwy’n falch o gael cyd-noddi’r cynnig hwn sydd ger ein bron heddiw a diolch i David Melding am gyflwyno’r ddadl hon, sy’n un bwysig iawn. Mae’n annerbyniol mai Cymru yw’r unig wlad ym Mhrydain heb wasanaeth rhewmatoleg pediatrig arbenigol neu dîm amlddisgyblaethol penodedig. O ganlyniad, mae plant yng Nghymru sy’n dioddef o arthritis idiopathig ieuenctid, erythematosws lwpws...
Caroline Jones: Prif Weinidog, mae'n newyddion da bod Coleg Cymunedol y Dderwen allan o fesurau arbennig, a dylid llongyfarch y staff a'r disgyblion ar wneud cynnydd cryf yn erbyn y rhan fwyaf o argymhellion Estyn. Prif Weinidog, pa gymorth mae eich Llywodraeth yn ei roi i'r ysgol er mwyn sicrhau ei bod yn gwneud cynnydd gwell o ran gwella rhifedd a llythrennedd disgyblion, a sut wnaiff eich Llywodraeth...
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r ail arolwg profiad cleifion canser Cymru unwaith eto wedi tynnu sylw at y ffaith fod llawer o gleifion canser heb weithiwr allweddol o hyd. Er ein bod wedi gwneud cynnydd, nid oes gan 14 y cant o gleifion weithiwr allweddol o hyd, a dywedodd mwy na chwarter y cleifion ei bod yn aml yn anodd cysylltu â’r gweithiwr allweddol. Mae’r arolwg...
Caroline Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Gan aros gydag arolwg profiad cleifion canser Cymru, dywedodd bron i chwarter y cleifion nad oedd y meddyg teulu wedi bod o ddifrif ynglŷn â’u symptomau cyn eu diagnosis. Yn wir, dywedodd 6 y cant o gleifion eu bod wedi gorfod gweld eu meddyg teulu o leiaf bum gwaith cyn cael eu hatgyfeirio i’r ysbyty. Fel y nodwyd yn y cynllun...
Caroline Jones: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn olaf, llai na hanner yn unig o gleifion canser sy’n cael cyfle i drafod eu hanghenion, a 18 y cant yn unig o gleifion a gafodd gynnig cynllun gofal ysgrifenedig. Nid ar anghenion gofal iechyd yn unig y mae cynlluniau gofal yn canolbwyntio, maent hefyd yn ymdrin â chefnogaeth emosiynol, ariannol ac ymarferol. Ni chafodd dros hanner y cleifion yng...
Caroline Jones: Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Rwy’n croesawu’r cynllun cyflawni. Ers gweithredu'r gwaharddiad ar ysmygu, mae'n newyddion da bod ysmygu yn y cartref wedi gostwng 80 y cant i 46 y cant. Dywed ASH Cymru fod hyn yn awgrymu bod gwell dealltwriaeth o beryglon mwg ail-law, yn enwedig o amgylch plant a theuluoedd. Felly, er ein bod yn edrych ar hyn fel gostyngiad o 34 y cant mewn...
Caroline Jones: Rydym yn croesawu'r adroddiad interim a’i natur ddiflewyn ar dafod, a byddwn yn cefnogi'r adroddiad heddiw. Gan fod y GIG yn gyflogwr mawr yng Nghymru ac felly’n chwarae rhan arwyddocaol yn economi Cymru, mae'n bwysig bod y gyllideb hon yn cael ei gwario'n ddoeth, fel y gall cleifion, pan eu bod angen hynny, gael gofal a chefnogaeth a gaiff ei darparu mewn modd hyderus, effeithlon a...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, roedd canfyddiadau adroddiad mewnol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar Kris Wade yn datgan nad aethant ar drywydd cwynion yn drylwyr a nodent, i bob pwrpas, fod yna ddiwylliant mewn rhai mannau o seilio camau gweithredu, rwy’n dyfynnu, ‘ar i ba raddau y gellid credu cleifion’ ac mae hynny’n hollol gywilyddus. Rwy’n nodi ac yn llwyr gefnogi galwadau...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor iechyd, a diolch hefyd i bob un o’r aelodau eraill ar y pwyllgor a’r bobl a roddodd dystiolaeth i ni allu symud ymlaen. Mae problemau gyda recriwtio a chadw staff rheng flaen, clinigwyr yn arbennig, wedi cael eu cofnodi’n helaeth yn y blynyddoedd diwethaf, a rhaid inni sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â’r mater hwn yn gadarn. Mae prinder staff...
Caroline Jones: Fy marn o’r cychwyn ynglŷn â’r posibilrwydd o adeiladu carchar ym Maglan, Port Talbot—ac rwy’n byw ym Mhort Talbot—yw bod ymgynghoriad cyhoeddus yn eithriadol o bwysig, ynghyd ag asesiadau risg, ffactorau amgylcheddol—er enghraifft, tagfeydd traffig—ac fel y crybwyllwyd yn flaenorol, llifogydd yn yr ardal. Rhaid i ni hefyd ystyried safleoedd addas eraill. Ond pe bai’r meini...