Suzy Davies: Er fy mod yn disgwyl, yn ystod y ddadl hon, y bydd pobl yn siarad am benderfyniadau cyllido a goblygiadau’r rheini, roeddwn eisiau bwrw golwg sydyn ar y bwlch rhwng yr angen i wneud penderfyniadau’n lleol a’r datgysylltiad rhwng dinasyddion a’r rhai y maent ar hyn o bryd yn dirprwyo’r penderfyniadau hynny iddynt. Oherwydd mae’n ymddangos yn rhyfeddol i mi ei bod yn llawer haws...
Suzy Davies: Diolch i chi am roi munud i mi yma, Mike. Rwy’n credu, gyda’r fargen ddinesig, y benthyciad uniongyrchol i’r Egin a’r posibilrwydd y daw carchar i Bort Talbot yn fuan, fod hynny’n rhoi diwedd ar y syniad nad oes gan Lywodraeth y DU ddiddordeb mewn buddsoddi yn ne Cymru. Ond rwy’n meddwl eich bod yn iawn i grybwyll dau bwynt yn benodol ar hyn. Y cyntaf yw cwestiynu rôl mewnbwn...
Suzy Davies: Prif Weinidog, roeddech chi eisoes yn gwybod fy mod yn flin bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi torri £2 filiwn o'i gyllideb gofal cymdeithasol, er gwaethaf £2 biliwn ychwanegol gan Lywodraeth y DU ac, yn wir, arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru hefyd. Nawr, dywedodd eich Gweinidog wrthyf ychydig cyn y toriad y byddai rhywfaint o arian yn amodol wrth iddo fynd i...
Suzy Davies: Mae cytundeb dinas-ranbarth bae Abertawe, a lofnodwyd yn ddiweddar gennych chi a Theresa May, wrth gwrs, yn Abertawe, ar fin sbarduno gwerth £1.3 biliwn o fuddsoddiad yn y rhanbarth, ac mae agosrwydd y brifysgol yr ydych wedi ei grybwyll eisoes, a’r pwyslais ar y gadwyn gyflenwi sy'n seiliedig ar ddur yn yr ardal fenter, yn cyd-fynd yn dda iawn â nifer o brosiectau yn y cytundeb hwnnw....
Suzy Davies: Ie, wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn cydnabod y cynllun rhyddhad wedi’i dargedu ar gyfer y stryd fawr, er bod rhai o fusnesau’r stryd fawr yn dal i synnu nad ydynt yn gymwys ar ei gyfer. Ac mae’r rhai a allai fod yn gymwys yn dal i gael peth anhawster gan nad yw’r ddolen ar wefan Llywodraeth Cymru ar gyfer y wybodaeth honno yn gweithio o hyd. Ar gyfer y rhai sydd efallai...
Suzy Davies: 2. A wnaiff y Prif Weinidog roi manylion y trosolwg sydd gan Lywodraeth Cymru dros ddyledion sy'n ddyledus i awdurdodau lleol gan drydydd partïon? OAQ(5)0582(FM)
Suzy Davies: Rwyf braidd yn siomedig â'r ateb yna, Prif Weinidog, gan fy mod i’n meddwl yr hoffech chi wybod am yr hyn nad yw eich awdurdodau lleol yn ei adfer ar adeg pan maen nhw’n honni bod cyni cyllidol yn eu hamddifadu o unrhyw arian. Rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i longyfarch yr holl gynghorwyr sydd newydd gael eu hethol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys y...
Suzy Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Suzy Davies: Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Pa fath o brofiad, yn eich barn chi, fydd yn angenrheidiol i argyhoeddi pobl eu bod yn gallu ymgymryd â’r broses hon?
Suzy Davies: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am addysgu ieithoedd tramor modern mewn ysgolion yng Nghymru?
Suzy Davies: Wel, er mwyn helpu i brofi’r cwestiwn canolog ynglŷn â chymhwysedd, efallai y gall Llywodraeth Cymru geisio cynnig cyngor ac arweiniad, wrth gwrs, fel rydych newydd sôn, Cwnsler Cyffredinol. Os felly, pa statws sydd i hynny o ran diffyg cydymffurfio, a beth yw eich barn ynglŷn â’r ffaith fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, tan yr wythnos diwethaf, yn ôl fy set ddiwethaf...
Suzy Davies: Wel, rwy’n cytuno ei bod yn siomedig iawn fod tramgwyddo o’r fath wedi digwydd a bod yna ail ddyfarniad llys wedi bod yn awr ar yr un mater yn union. Mae’n bosibl iawn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gywir i ddweud bod datrys y broblem yn anodd, ond o gofio nad ydym yn sôn yn unig am achosion o dorri’r gyfraith, ond yn hytrach am newidiadau difrifol i ecoleg yr ardal, nid wyf yn credu...
Suzy Davies: A gaf fi ofyn, felly, oherwydd mae’n amlwg ers degawdau bellach fod Cymru wedi bod yn cael mwy o arian gan yr UE mewn cymorth rhanbarthol na rhannau eraill o’r DU—a allwch egluro pam ein bod yn dal yn y sefyllfa honno, oherwydd nid mater o’r 10 mlynedd diwethaf yn unig ydyw, nage?
Suzy Davies: Prif Weinidog, rydym ni’n cefnogi'r gwelliant i’r polisi hwn, wrth gwrs, yn enwedig y rhan sy'n ymwneud â diystyriaeth y cyn-filwyr, ond ai’r cap cynilion hwn mewn gwirionedd yw’r gorau y gallwch chi ei wneud i bobl sydd wedi ymdrechu’n galed dros bren, ar draul bersonol aberthau personol o ran gwario yn aml iawn, fel eu bod yn cynilo mwy? Nawr, mae Jeremy Corbyn wedi dweud yn...
Suzy Davies: Diolch am y datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n falch bod rhywbeth tebyg iawn i bolisïau’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ffeindio ei ffordd i mewn i’ch polisi chi, ac felly a allaf ofyn: a ydych chi’n cytuno bod gan arweinwyr addysg rôl hanfodol wrth wella lle’r Gymraeg yn niwylliant ein hysgolion a’n colegau? Nid wyf yn siarad am y cwricwlwm nawr, ond y diwylliant. A sut y bydd...
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu y byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn awyddus i gefnogi cynlluniau a luniwyd neu hyd yn oed a arweiniwyd gan y rhai sy'n byw gyda dementia, naill ai’n uniongyrchol neu fel aelodau o'r teulu, ffrindiau neu ofalwyr, ac, fel y dywedwch, sefydliadau gwirfoddol eraill a'r rhai â diddordeb a gymerodd ran yn yr...
Suzy Davies: Ym mis Mawrth, Ysgrifennydd y Cabinet, dywedodd yr Ysgrifennydd cymunedau a phlant fod tai da a diogel nid yn unig yn lleihau’r baich ar wasanaethau eraill, megis y GIG neu ofal cymdeithasol, ond y byddant hefyd yn gwella ansawdd bywyd pobl, ac ni chredaf y byddai unrhyw un ohonom yn anghytuno â hynny. Fodd bynnag, byddwn yn mynd gam ymhellach ac yn dweud bod tai a gynlluniwyd i fod yn...
Suzy Davies: Diolch eto, Llywydd. Minister, thank you very much for your statement on social care funding that came out this morning. In the face of the £2 billion extra that came from the Conservative UK Government for this, I think it was important for you to make an early statement that you are prepared to commit money that we’ve acquired through the Barnett consequential for the same purpose, and...
Suzy Davies: Rwy’n ddiolchgar iawn i chi, yn enwedig am ran olaf eich ateb. Fel y dywedais, rwy’n fwy na pharod i groesawu popeth sydd yn y datganiad, ond yn amlwg, byddaf yn craffu arnoch i weld pa mor dda rydych yn gwylio sut y caiff hwnnw ei wario. Bydd y £3 miliwn a roddwyd i awdurdodau lleol ar gyfer seibiant, yn amlwg, ac yn enwedig o ystyried yr hyn y buom yn sôn amdano yma ddoe, yn bwysig...
Suzy Davies: Wel, am yr union reswm hwnnw, rwy’n falch iawn nad yw wedi mynd i mewn i’r grant cynnal refeniw, felly diolch i chi am hynny. A gaf fi ofyn i chi: a ydych yn croesawu cyhoeddiad y Prif Weinidog ynglŷn â hawl statudol i wyliau ar gyfer y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu?