Canlyniadau 261–280 o 3000 ar gyfer speaker:Jeremy Miles

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Y Bil Parhad ( 7 Chw 2018)

Jeremy Miles: Wel, nid wyf am wneud sylwadau ar faterion unigol sy'n destun negodi neu drafodaeth gyda Llywodraeth y DU, am resymau y gobeithiaf y bydd yr Aelod yn eu deall. Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi cydweithio mewn perthynas â chymal 11, yn bennaf, ond ar gymalau eraill y Bil hefyd, ac maent, erbyn hyn, mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU. Yn amlwg, mae Llywodraeth...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Effaith Awtomeiddio ( 7 Chw 2018)

Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda sefydliadau academaidd a'r sector gwasanaethau cyfreithiol i ddeall yr effeithiau a'r cyfleoedd sy'n debygol o ddeillio o awtomatiaeth.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Effaith Awtomeiddio ( 7 Chw 2018)

Jeremy Miles: Wel, mae'r ffaith bod cwestiwn yr Aelod yn canolbwyntio ar dasgau ailadroddus a diflas yn fy atgoffa o flynyddoedd cynnar fy ngyrfa fel cyfreithiwr, felly, diolch i chi am yr eiliad honno o hiraeth am y gorffennol. Ond yr ateb difrifol i gwestiwn yr Aelod yw bod risgiau yma, yn amlwg, ond mae yna gyfleoedd hefyd. Roeddwn yn falch o weld lansiad y Ganolfan ar gyfer Arloesi ac Entrepreneuriaeth...

6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd (28 Chw 2018)

Jeremy Miles: Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o allu ymateb i'r adroddiad hwn, ac rwy am ddiolch a chymeradwyo'r pwyllgor am gynhyrchu dadansoddiad manwl a meddylgar o'r sefyllfa gyfredol o gysylltiadau rhynglywodraethol a rhyngseneddol, ac am ddatganiad clir o'r diwygiadau sydd eu hangen er mwyn rhoi'r cysylltiadau hyn ar sail fwy cadarn. Mae'n bleser gen i gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cytuno ar...

6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd (28 Chw 2018)

Jeremy Miles: Ond mae cyrraedd y nod o ddod yn Senedd wrth gwrs yn galw am fwy na ffocws ar enw a niferoedd, fel y gŵyr pawb ohonom. Dylem fod â'r hyder yn ogystal i brofi'r gweithdrefnau seneddol a ffyrdd o weithio yn erbyn yr enghreifftiau cyfatebol gorau yn unrhyw le yn y byd. Ac mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom, yn ogystal â mynd i'r afael â'r diwygiadau proffil uchel, i edrych ar y...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (14 Maw 2018)

Jeremy Miles: Mae'r Prif Weinidog wedi sefydlu'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru i ddarparu barn arbenigol, annibynnol a hirdymor. Mae wedi dechrau ar y gwaith ac mae wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth. Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i gyfrannu.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (14 Maw 2018)

Jeremy Miles: Mae'r Aelod yn cydnabod nad yw'r mater yn un syml. Ceir sawl safbwynt gwahanol ynglŷn â'r mater hwn. Fe fydd yn ymwybodol o safbwynt Llywodraeth Cymru, fel y'i nodir ym Mil drafft Llywodraeth Cymru sydd ar gael i'r cyhoedd. Fel yr unig ddeddfwrfa y gallwn feddwl amdani nad oes ganddi ei hawdurdodaeth ei hun, mae'n berffaith amlwg fod hynny'n peri heriau sylweddol iawn, a chyfyngiadau...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (14 Maw 2018)

Jeremy Miles: Fe wnes i nodi cynnwys y ddadl a ddaeth ymlaen yn enw Jenny Rathbone ar y testun hwn yn y dyddiau diwethaf, a chyfraniad yr Aelod yn y cyd-destun hwnnw. Mae'r comisiwn wedi galw am dystiolaeth wrth bobl yng nghyd-destun y system droseddol, felly byddwn i'n annog yr Aelod, ac eraill, i gyfrannu at y cwestiwn hwnnw. Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei ateb i'r ddadl, sôn am ba mor bwysig...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Deddfwriaeth Llygredd Aer (14 Maw 2018)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Ar hyn o bryd, mae Cymru'n bodloni'r terfynau cyfreithiol ar gyfer pob llygrydd aer, bron â bod, ond rydym yn wynebu heriau sylweddol o ran lleihau lefelau nitrogen deuocsid. Rwy'n llwyr gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella ansawdd aer ledled Cymru, gan gynnwys amrywiaeth o fentrau i fynd i'r afael â llygredd aer er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Deddfwriaeth Llygredd Aer (14 Maw 2018)

Jeremy Miles: Wel, bydd yr Aelod yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgynghori ar fframwaith parth aer glân erbyn diwedd mis Ebrill 2018 a fydd yn nodi'r egwyddorion ar gyfer gweithredu parthau aer glân yng Nghymru, ac fel modd o sbarduno cydymffurfiaeth lle bo angen, a chynorthwyo i leihau llygredd yn fwy cyffredinol. Gwn o gwestiynau blaenorol a ofynnodd ei fod wedi rhoi cryn dipyn o sylw...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Erthylu (14 Maw 2018)

Jeremy Miles: Rwy’n ymwybodol o’r datganiad barn a gafodd ei gyflwyno yr wythnos diwethaf, yn enwau Jenny Rathbone a Julie Morgan, a bod yr Aelod wedi tanysgrifio i'r datganiad hwnnw. Ac roeddwn i yn y Siambr ddoe i glywed cwestiwn i'r Prif Weinidog ar y testun hwn hefyd. Yn yr Alban, mae menywod beichiog yn gallu cymryd ail gam erthyliad meddygol yn eu cartrefi, ond mae’r sefyllfa hon yn ddiweddar...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Erthylu (14 Maw 2018)

Jeremy Miles: Wel, yn Neddf Erthylu 1967, mae'r Ddeddf honno'n rhoi pwerau i Weinidogion yn yr Alban i ddefnyddio'r pwerau hynny, ac i'r Gweinidogion yma yng Nghymru, i allu penodi categorïau o leoliadau fel llefydd sydd yn bosibl i'r ail gam erthyliad yma i gymryd lle. Yr hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban, sydd yn gyd-destun i'r drafodaeth yma yng Nghymru, yw bod Gweinidogion wedi gwneud y penderfyniad...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Erthylu (14 Maw 2018)

Jeremy Miles: Wel, mae'r mater a nodwyd gan yr Aelod yn fater hollbwysig wrth gwrs sy'n ymwneud â diogelwch menywod a'r amgylchedd cefnogol lle mae proses feddygol yn parhau hyd at ddiwedd y broses, os hoffwch. Ac felly, mae'n amlwg mai dyna'r mater perthnasol sydd wrth wraidd y cwestiwn hwn. Fel y dywedaf, mae'r fframwaith cyfreithiol yr un fath ar gyfer Gweinidogion yng Nghymru â'r hyn ydyw yn yr...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau (14 Maw 2018)

Jeremy Miles: Rydym ni wedi clywed y ddadl ar y ddeiseb a gynhaliwyd yn y diwrnodau diwethaf, a arwyddwyd gan bron i 6,500 o aelodau'r cyhoedd. Mae Llywodraeth Cymru yn archwilio’r cyfleoedd i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau (14 Maw 2018)

Jeremy Miles: Wel, gydag adran 12 o Ddeddf 2006, yr hyn sy'n bwysig yw bod tystiolaeth gref yn cefnogi'r ddadl dros lesiant yr anifeiliaid. Mae safbwynt Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn glir nad oes safbwynt digon cryf i hynny, ac mae mwy nag un adroddiad wedi dangos hynny. Wrth gwrs, gwnaeth Llywodraeth Cymru gomisiynu adroddiad wnaeth ddangos bod tystiolaeth yn cefnogi hynny i raddau, ond y risg...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau (14 Maw 2018)

Jeremy Miles: Wel, cyfeiriaf yr Aelod at y drafodaeth rwyf newydd ei chael ynglŷn â hynny, sy'n ymwneud ag argaeledd y dystiolaeth i gefnogi hynny. Mae cwestiwn yn codi ynglŷn  â hynny ac fel rwyf wedi'i ddweud, nid wyf am drafod cyngor cyfreithiol rwy'n ei roi ar y pwynt penodol hwn, ond rwyf wedi clywed y drafodaeth yn y ddadl a sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet mewn perthynas â hynny.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Dinasyddiaeth Ewropeaidd (14 Maw 2018)

Jeremy Miles: Rydym yn rhoi gwerth ar y rhyddid a'r mynediad sy'n gysylltiedig â dinasyddiaeth yr UE. Mae ein ffyniant yn y dyfodol yn gynhenid gysylltiedig â'n gallu i sicrhau mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl, gan gynnwys gallu dinasyddion Cymru i weithio yn Ewrop.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Dinasyddiaeth Ewropeaidd (14 Maw 2018)

Jeremy Miles: Credaf ei fod yn cyfeirio'n rhannol at yr adroddiad a gomisiynwyd gan Jill Evans yn y maes hwn, a chefais gyfle i ddarllen rhan ohono ac mae'n cynnwys llawer o ddadleuon creadigol dros barhad dinasyddiaeth Ewropeaidd. Pan oeddwn yn aelod o'r pwyllgor Brexit, y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, buom yn ymweld â Senedd Ewrop a chyfarfuom â Guy Verhofstadt, sydd â barn...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Dinasyddiaeth Ewropeaidd (14 Maw 2018)

Jeremy Miles: Mae safbwynt yr Aelod ar hyn yn glir iawn ac mae'n ei ailadrodd bob cyfle posibl. Mae gennym safbwynt sylfaenol wahanol o ran beth yw natur bod yn ddinesydd sy'n byw yn yr UE yn yr unfed ganrif ar hugain. Fel y rhan fwyaf o Aelodau'r Siambr hon, credaf ei bod yn bwysig fod dinasyddion Cymru, dinasyddion y DU, yn cael symud yn rhydd ac yn gallu byw'n rhydd cyn belled â phosibl yn y...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Cytundeb Drafft ar Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (14 Maw 2018)

Jeremy Miles: Rydym yn astudio dogfen ddrafft yr UE yn ofalus. Ein blaenoriaethau ar gyfer pontio yw sicrwydd, eglurder a chyn lleied o amharu â phosibl. Mae'n hanfodol fod y cyngor ym mis Mawrth yn cytuno ar y cyfnod pontio oherwydd mae'r ansicrwydd presennol yn rhwystro cynllunio priodol, ac nid yw hynny'n help a dweud y lleiaf.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.