Mandy Jones: 6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cyfyngiadau symud ar economi gogledd Cymru? OQ55819
Mandy Jones: Diolch, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae economi ein rhanbarth yn dibynnu’n fawr ar dwristiaeth a’r sector lletygarwch, fel y mae pobl eraill wedi’i ddweud hefyd. Diolch i waith caled y sector lletygarwch, mae data profi ac olrhain yn awgrymu mai 1 y cant yn unig o’r bobl sydd wedi dal COVID-19 a’i daliodd mewn tafarndai, bwytai neu gaffis. Felly, ymddengys i mi fod risg eithriadol o...
Mandy Jones: Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Rwyf wrth fy modd fod y DU ar fin dod yn wlad sofran annibynnol, a chroesawaf y wybodaeth ddiweddaraf ar y strategaeth a fydd yn parhau â'r daith i roi Cymru ar fap y byd, a'i chadw yno. Hoffwn godi mater brandio. Gwn fod hen frand Awdurdod Datblygu Cymru hefyd yn cael ei ystyried yn frand Cymru, ond nid wyf erioed wedi gweld na deall sut olwg...
Mandy Jones: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Ngogledd Cymru? OQ55857
Mandy Jones: Fel y mae Hefin a Janet newydd sôn, ymddengys bod Noson Tân Gwyllt yn mynd yn waeth bob blwyddyn—mae’n para’n hirach, mae'n fwy swnllyd, mae’n hwyrach, gyda sŵn bellach yn para tan oriau mân y bore ac am ddyddiau wedyn. Rwy'n bryderus iawn am les ein hanifeiliaid, fel y nododd y ddau siaradwr blaenorol hefyd, yn y cartref a hefyd yn y caeau, yn ogystal ag effaith ymddygiad...
Mandy Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Unwaith eto, hoffwn eich llongyfarch am eich gwaith yn cadw pobl oddi ar y strydoedd yn ystod y pandemig, gyda chefnogaeth yr holl asiantaethau a'r trydydd sector ac yn y blaen. Gwrandewais yn gynharach ar yr hyn a ddywedoch chi wrth siaradwyr eraill, ond rwy'n bryderus iawn o glywed y gallai hosteli gael eu gorfodi i leihau nifer y rhai sy'n cysgu ar...
Mandy Jones: Mae Betsi Cadwaladr, yn ôl yr hyn a ddywedwch chi, allan o fesurau arbennig erbyn hyn. Iawn. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Rhun a Darren, ond fe fyddwn ni'n gweld yn y dyfodol sut y bydd hyn yn gweithio, ac fe fydd fy nghyfraniad i heddiw'n dal i sefyll. Rwyf i wedi bwrw golwg, Gweinidog, ar fy natganiad blaenorol i pan oedd y bwrdd mewn mesurau arbennig, ac ar fy ymatebion i, ac...
Mandy Jones: Weinidog, ymddengys i mi fod angen i economi'r DU ymadfer, ac yn bwysicach, mae angen iddi dyfu. Mae’n rhaid i'r ymagwedd yn y dyfodol ymwneud i raddau mwy ag annog gwariant a thwf a hyder, a pheidio â rhwystro pob un o'r rhain drwy orfodi unrhyw feichiau treth uwch yng Nghymru. A ydych yn cytuno â'r datganiad hwnnw?
Mandy Jones: Weinidog, fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi ysgrifennu atoch yn ddiweddar i ofyn am yr asesiadau effaith ar iechyd meddwl a gynhaliwyd, does bosibl, cyn gwneud penderfyniadau mor aruthrol a hirdymor i ddileu ein hawliau sifil. Rwyf wedi bod o'r farn ers tro y bydd yr effaith ar ein hiechyd meddwl cyfunol yn enfawr. Rwy'n pryderu'n benodol am ein pobl ifanc, felly pa drafodaethau rydych yn eu...
Mandy Jones: 3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y llwybr coch yn sir y Fflint? OQ56006
Mandy Jones: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwyf wedi cael cannoedd—yn llythrennol, cannoedd—o negeseuon e-bost am y llwybr coch, ac ysgrifennais atoch yn yr haf am hyn; diolch i chi am eich ateb. Gwn eich bod wedi mynd i'r afael â'r materion a godwyd gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru mewn llythyr ym mis Hydref. Mae etholwyr yng ngogledd Cymru'n dal i fynegi eu pryderon hyd yn oed heddiw....
Mandy Jones: Pwy fyddai wedi meddwl yr haf diwethaf y byddai dinasyddion y DU yn cael caniatâd y Llywodraeth i ymgynnull mewn grwpiau teuluol ar gyfer Nadolig 2020? Ac yma yng Nghymru, pwy fyddai wedi meddwl y byddem yn cael gwybod beth y gallem ei brynu, ble, ac na allwn aros mewn tafarn neu fwyty ar ôl 6 p.m. a chael diod alcoholig gyda'n pryd bwyd cynnar? Y cyfyngiadau diweddaraf hyn yw testun y...
Mandy Jones: 2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ymdrechion i wella cydlyniant cymunedol yng Ngogledd Cymru? OQ56038
Mandy Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio cardiau brechu COVID-19?
Mandy Jones: Diolch, Gweinidog. Darllenais adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen o dan arweiniad Gaynor Legall gyda diddordeb. Gan fod henebion perthnasol wedi eu nodi erbyn hyn, mae gen i ddiddordeb mewn clywed eich cynlluniau ar gyfer y camau nesaf, a'ch asesiad o sut y bydd y camau hynny yn effeithio ar gydlyniant cymunedol yn fy rhanbarth i, ac yng ngweddill Cymru yn wir. Diolch.
Mandy Jones: 1. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith COVID-19 a'r cyfyngiadau symud cysylltiedig ar fynediad at gyfiawnder yng Ngogledd Cymru? OQ56080
Mandy Jones: Diolch am yr ateb yna, Cwnsler Cyffredinol. Llynedd, awgrymodd llawer o adroddiadau bod rhestr hirfaith a chynyddol o achosion wedi cronni ar gyfer llysoedd troseddol a sifil, a chodwyd pryderon y gallai hyn fod yn peri i bobl sydd wedi dioddef trais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol beidio â pharhau â'u hachosion, oherwydd eu bod nhw eisiau symud ymlaen gyda'u bywydau. Pa drafodaethau ydych...
Mandy Jones: Rwy'n croesawu'r cynnig hwn heddiw ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Bil Masnach yn gam deddfwriaethol arall tuag at ymwreiddio Brexit, sef y newid cyfansoddiadol mwyaf, wedi'r cyfan, ar unrhyw bapur pleidleisio yng Nghymru ers y bleidlais dros ddatganoli. Rwy'n sylwi mai dyma'r ail dro i Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach ddod gerbron y Siambr hon, gan adlewyrchu, rwy'n credu,...
Mandy Jones: 7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith parhau i gau ysgolion ar safonau addysgol yng Ngogledd Cymru? OQ56079
Mandy Jones: 2. Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i addasu ffyrdd o weithio i Aelodau, eu staff a staff y Comisiwn gan ddefnyddio gwersi a ddysgwyd o'r cyfyngiadau symud cyn y chweched Senedd? OQ56081