Hannah Blythyn: Rwy'n credu bod yr Aelod yn llygad ei le wrth iddo sôn am lefelau ailgylchu poteli plastig, o ran, mewn gwirionedd, un o'r heriau yn awr yw'r broblem o ailgylchu pan fydd pobl i ffwrdd o'u cartrefi, nid taflu sbwriel yn unig, sy'n ffactor sy'n cyfrannu. Ond hefyd ni allaf ond sylwi nawr, ble bynnag yr af, rwy'n chwilio'n benodol i weld a oes gan ardal siopa neu ganolfan drafnidiaeth...
Hannah Blythyn: Rwyd wedi fy syfrdanu i glywed yr Aelod yn dweud bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn beth da o ran ein diogelwch amgylcheddol. Oherwydd y bygythiad hwnnw—yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod siawns go iawn bod yna berygl i'n camau diogelu gael eu gwthio yn ôl, ond hefyd bod ein pwerau yn cael eu cymryd yn ôl, bod y ddeddfwriaeth sydd gennym ar waith yn cael ei thanseilio. Ond fel...
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Os yw fy naearyddiaeth yn iawn, rwy'n credu yr oeddwn i yng Nghwm Tawe isaf ddydd Sadwrn, os mentraf ddweud, i weld yr unig dîm sydd o Gymru sydd yn yr uwch gynghrair, ond mae'n rhaid imi ychwanegu cafeat: roeddwn i yno yn cefnogi'r gwrthwynebwyr. Gêm gyfartal oedd hi, felly fe symudaf ymlaen yn gyflym. O ran rhywogaethau anfrodorol, rwy'n gwybod na...
Hannah Blythyn: Diolch. Rwy'n ymrwymedig i weithredu i leihau llygredd aer yng Nghymru er mwyn cefnogi dyfodol iachach ar gyfer ein cymunedau, ein hamgylchedd naturiol a'n gwlad. Mae'r mater hwn yn uchel ar agenda Aelodau'r Cynulliad, a hynny'n briodol, ac rwy'n croesawu'r consensws trawsbleidiol ar gyfer yr angen i yrru'r agenda hon ymlaen. Pan ddechreuais i yn y swydd hon, eglurais mai darparu aer glân...
Hannah Blythyn: Mae ein dogfen polisi cynllunio cenedlaethol, 'Polisi Cynllunio Cymru', wedi'i hailysgrifennu a'i hailstrwythuro o gwmpas egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r ddogfen ddiwygiedig yn cynnwys adran benodol ar ansawdd aer a seinwedd erbyn hyn, ac mae'r ymgynghoriad hwn ar 'Polisi Cynllunio Cymru' yn dod i ben ar 18 Mai. Byddaf yn sefydlu rhaglen aer glân Cymru i...
Hannah Blythyn: Diolch. Rwy'n croesawu cyfraniad yr Aelod, a hefyd, yn benodol, cyflwynodd nifer o awgrymiadau pwysig, a dyna pam, rwy'n credu, bod cymaint o gonsensws a bod hwn yn fater mor bwysig. Byddwn yn annog yr holl Aelodau i gyfrannu at y cynlluniau a'r ymgynghoriad i wneud yn siŵr ein bod yn cynnwys pwysigrwydd ennill cefnogaeth pobl, fel y dywedwch chi yn gwbl briodol. Dyna pam rydym ni'n...
Hannah Blythyn: A gaf i ddiolch i chi am eich cwestiynau? Rwy'n gwybod fod hwn yn fater yr ydych chi'n angerddol iawn yn ei gylch ac mae eich plaid yn gefnogol iawn gweithredu drosto. O ran—dim ond y mater deddfwriaethol, nodais yn glir yn fy natganiad, a gobeithio y gallaf ei wneud yn glir eto, bod hyn yn bendant yn rhywbeth sydd ar y gweill, ac nid ei ohirio yw dweud hynny, ond mae hynny dim ond oherwydd...
Hannah Blythyn: Diolch i chi am wneud hynny'n glir. [Chwerthin.] Ond rydych chi yn llygad eich lle ynghylch pwysigrwydd—. Af yn ôl i'r hyn a ddywedodd David Melding am bwysigrwydd ennill cefnogaeth pobl, nad ydym ni'n cyflwyno pethau fel gostwng terfynau cyflymder dim ond i—. Credaf y byddai'r sylwadau—mae'n debyg y byddent ar Facebook neu fforwm Facebook—yn nodi y byddai hynny i godi refeniw drwy...
Hannah Blythyn: Diolch ichi, Mike Hedges, am eich cyfraniad. Credaf inni godi'r materion yn ymwneud â Hafod a thopograffi a thraffig yr wythnos diwethaf, ar amser tebyg, yn y Siambr hon. O ran parthau aer glân, cynhwysir yr holl wybodaeth honno yn yr ymgynghoriad, a chyfrifoldeb yr awdurdodau lleol fydd ystyried sut y gallan nhw gyfyngu ar fynediad y cerbydau mwyaf niweidiol i'r parthau aer glân hynny....
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ddymuno lwc dda i mi. I ymdrin â'r peth cyntaf o ran y terfyn cyflymder dros dro o 50 mya rhwng Glan-bad a Phontypridd, mae hynny o gylchfan Glan-bad ymlaen i gylchfan yr A4058 ym Mhontypridd; mae'n union 4.2 km. Felly, mae rhai o'r ardaloedd hyn mewn gwirionedd—yn arbennig yr un yr wyf fwyaf cyfarwydd ag ef, yng Nglannau Dyfrdwy—yn estyniad efallai o'r mannau y...
Hannah Blythyn: Mae'r pwynt olaf a wnaethoch chi yn cyfeirio'n ôl i sut y mae hi'n gwbl allweddol, os ydym ni'n mynd i gyrraedd lle y mae angen inni fod a lle yr ydym ni eisiau bod yn hyn o beth, ein bod yn dod ynghyd ac yn cydweithio ar y mater. Roeddwn i'n hoffi'r syniad o strydoedd chwarae. Rwy'n credu ym mod i wedi gweld un yng Nghaerdydd cyn hyn ar y newyddion o ran cau'r strydoedd i draffig, ac mae...
Hannah Blythyn: Diolch. A gaf i ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau? Rwy'n gwybod fod gennych chi ddiddordeb mawr yn hyn fel yr Aelod Cynulliad rhanbarthol. Mae'r pwynt o ran yr ymgynghoriad a chysylltu ag unigolion fel cartrefi gofal ac ysgolion yn uniongyrchol yn bwynt da iawn, iawn, a byddaf yn ystyried hynny ac yn siarad â swyddogion ynghylch sut y gallwn ni wneud hynny. Rydych chi'n hollol gywir o...
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei gyfraniadau. Rydych yn llygad eich lle ynghylch yr angen i groesgyfeirio ein huchelgeisiau a'n dyheadau o ran teithio llesol. Dyna pam y byddwn ond yn symud ymlaen yn y maes hwn os weithiwn ni ar draws y Llywodraeth. Dyna pam yr wyf wedi bod yn gweithio'n agos iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, i sicrhau bod y dewisiadau eraill hynny ar...
Hannah Blythyn: Mae'r Aelod yn berffaith iawn o ran pwysigrwydd dull traws-Lywodraethol, ac roedd yna wên gam ar wynebau cyd-aelodau yma pan oeddech yn trafod canlyniad newid hwnnw am y dewis amgen, yna ni fyddai eich etholwyr yn gorfod eistedd yn y tagfeydd ar yr A470. Credaf imi ddweud mewn ymatebion blaenorol mai dyna pam yr wyf yn edrych yn fanwl iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am...
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Yn fy marn i, o ran pethau fel buddsoddi i arbed, cynllun aer glân a pharthau aer glân, credaf fod cyngor Caerdydd yn un o'r meysydd sydd wedi ei nodi yn un o ormodiant, ac fel y dywedais wrth eich cyd-Aelod Julie Morgan, rwyf i wedi bod yn cydweithio â chyngor Caerdydd, a bu swyddogion mewn cysylltiad agos â nhw, ynghylch hynny. Felly, mae'r rhain i...
Hannah Blythyn: A gaf i ddiolch i fy nghyd-Aelod o ogledd Cymru am ei gwestiynau a'i bwyntiau? Canolfan asesu a monitro ansawdd aer Cymru —ffurfiwyd y Ganolfan i sicrhau bod penderfyniadau ynghylch mynd i'r afael â llygredd yn seiliedig ar dystiolaeth ac y blaenoriaethir y camau cysylltiedig i sicrhau'r gorau ar gyfer iechyd a llesiant y cyhoedd, ac mae angen i hynny fod yn unol â'n rhwymedigaethau i...
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Rwy'n gwybod bod hwn yn faes yr ydym wedi ei drafod o'r blaen ac rwy'n gyfarwydd â'ch pryderon. Heblaw am Gaerdydd, gwyddom fod Caerffili i Hafodyrynys yn ardal â gormodiant a chyflwynwyd cyfarwyddeb iddi i ddod i'n gweld ni, ac mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda chyngor Caerffili. Bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod yn ystyried sefydlu gweithgor o...
Hannah Blythyn: Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Mae'r Aelod yn codi nifer o bwyntiau pwysig o ran cymell pobl ac, mewn gwirionedd, ynglŷn â phwysigrwydd gweithio ochr yn ochr sy'n agored i ni, i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael i leihau allyriadau, lleihau cyflymderau heb edrych mewn gwirionedd ar sut y defnyddiwn dechnoleg fodern i gefnogi'r newid moddol mewn trafnidiaeth a cherbydau trydan. Edrychaf...
Hannah Blythyn: Diolch, Llywydd. Mae Cymru'n arwain y byd o ran ailgylchu. Ni yw'r gorau yn y DU, yr ail yn Ewrop, a'r trydydd yn y byd. Mae hyn o ganlyniad uniongyrchol i bolisïau a wnaed yng Nghymru. Rydym ni wedi buddsoddi'n helaeth mewn seilwaith ailgylchu wrth ymyl y ffordd ac wedi bod â thargedau statudol ar gyfer awdurdodau lleol ers tro, ac wedi rhoi dirwyon os nad chyrhaeddir hynny. Rwy'n falch...
Hannah Blythyn: Ond, mae llawer mwy i'w wneud o hyd. Rydym ni wedi gweld newid diwylliant o ran pobl yn didoli eu gwastraff ac ailgylchu yn y cartref, ond ni chaiff yr ymddygiad hwn ei adlewyrchu pan fydd pobl yn mynd allan, hyd yn oed pan fo biniau ailgylchu ar gael. Rwyf yn glir bod angen gwella ein lefelau ailgylchu pan fyddwn ni allan. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym ni wedi gweld cynnydd yn...