Canlyniadau 261–280 o 700 ar gyfer speaker:Lynne Neagle

3. Cwestiynau Amserol: Pleidlais Senedd y DU ar Gytundeb Brexit Llywodraeth y DU (16 Ion 2019)

Lynne Neagle: Brif Weinidog, roedd maint aflwyddiant y Torïaid neithiwr yn ei gwneud hi'n amlwg bellach mai'r unig ddewisiadau sydd ar ôl yw Brexit y mae'r ddwy brif blaid yn ei gefnogi, trychineb 'dim bargen' neu bleidlais y bobl. O ystyried y byddai unrhyw gytundeb Brexit yn golygu y byddai Cymru yn waeth ei byd, yn dyfnhau magl tlodi ac yn gwreiddio cyni ariannol, a fyddech yn cytuno â mi mai'r unig...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (29 Ion 2019)

Lynne Neagle: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch Brexit?

10. Dadl Fer: Newid Lluniau, Niweidio Bywydau (30 Ion 2019)

Lynne Neagle: Roeddwn eisiau diolch i Bethan am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn. Yn ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i iechyd emosiynol a meddyliol pobl ifanc y llynedd, roedd y cyfryngau cymdeithasol yn thema gyson a godai ei phen, ac fel rydych chi eisoes wedi amlygu, rydym wedi ein cysylltu fwy nag erioed o'r blaen. Ond mewn gwirionedd, credaf ein bod yn fwy ynysig mewn llawer o ffyrdd nag...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Effaith Brexit heb Fargen ar y Sector Modurol yng Nghymru ( 5 Chw 2019)

Lynne Neagle: 7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith Brexit heb fargen ar y sector modurol yng Nghymru? OAQ53378

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Effaith Brexit heb Fargen ar y Sector Modurol yng Nghymru ( 5 Chw 2019)

Lynne Neagle: Diolch, Prif Weinidog. A fyddech chi'n cytuno â mi mai'r wers o'r penwythnos, a'r newyddion drwg iawn gan Nissan, yw er mai dim cytundeb fyddai'r canlyniad gwaethaf un i'r diwydiant modurol, y gwir amdani yw y bydd unrhyw Brexit yn golygu y bydd dadleuon ac ansicrwydd yn parhau am flynyddoedd, a bod bob dydd o ansicrwydd yn ddiwrnod pan fo buddsoddwyr yn aros i ffwrdd ac mae swyddi o dan...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Darpariaeth y Gwasanaeth SenCom ( 6 Chw 2019)

Lynne Neagle: 1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Llywodraeth Cymru ag awdurdodau lleol yng Ngwent ynghylch darpariaeth y gwasanaeth SenCom? OAQ53347

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ( 6 Chw 2019)

Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o driniaeth bracitherapi dos uchel ar gyfer canser y prostad?

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Darpariaeth y Gwasanaeth SenCom ( 6 Chw 2019)

Lynne Neagle: Weinidog, rwy’n parhau i gael fy siomi gan barodrwydd ymddangosiadol Cyngor Dinas Casnewydd—cyngor Llafur—i beryglu gwasanaethau ar gyfer grŵp bregus iawn o blant a phobl ifanc, drwy dynnu'n ôl o'r gwasanaeth SenCom rhanbarthol effeithiol ac arbenigol iawn. Mae Casnewydd, o’r diwedd, yn gwneud rhywfaint o ymgynghori â theuluoedd, ond mae rhieni wedi cwyno bod llythyrau yn cael eu...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Rhoi Terfyn ar y Rhyddid i Symud (12 Chw 2019)

Lynne Neagle: 8. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r gost i economi Cymru o roi terfyn ar ryddid i symud? OAQ53422

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Rhoi Terfyn ar y Rhyddid i Symud (12 Chw 2019)

Lynne Neagle: Diolch i chi, Prif Weinidog. A fyddech chi'n cytuno â mi y byddai'n gamgymeriad difrifol iawn i adael yr UE heb unrhyw syniad clir ynghylch y gyrchfan? Ac a wnewch chi egluro wrth unrhyw Weinidogion o Lywodraeth y DU, neu, yn wir, unrhyw un sydd â dylanwad sylweddol dros Brexit, megis arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan, y byddai cefnogi Brexit â mwgwd yn bolisi â risg uchel annerbyniol?

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (20 Chw 2019)

Lynne Neagle: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru ynghylch diwallu anghenion cymunedau?

3. Cwestiynau Amserol: Honda (20 Chw 2019)

Lynne Neagle: Weinidog. Gallaf ddeall pam fod Aelodau UKIP a'r Aelodau Ceidwadol eisiau claddu eu pennau yn y tywod ynglŷn â'r dinistr y mae Brexit yn ei achosi'n ddyddiol i'n swyddi gweithgynhyrchu. Rwy'n pryderu'n ofnadwy am fy ffatrïoedd modurol yn Nhorfaen. Mae gennym gannoedd o weithwyr ar gyflogau da yn gweithio mewn cadwyni cyflenwi modurol ac mae eu swyddi oll mewn perygl yn awr, nid yn unig...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: 'Busnes Pawb: Adroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru' (20 Chw 2019)

Lynne Neagle: Rwy'n credu'n gryf fod atal hunanladdiad yn fusnes i bawb ac yn gyfle i bawb. Hoffwn siarad am bob argymhelliad ond o gofio'r cyfyngiadau amser, rwyf am ganolbwyntio ar ddau faes. Mae'r cyntaf yn arbennig o agos at fy nghalon—hunanladdiad ymhlith pobl ifanc a'r gorgyffwrdd rhwng yr adroddiad hwn ac adroddiad 'Cadernid Meddwl' y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, oherwydd ceir cysylltiad...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ariannu Ysgolion (20 Chw 2019)

Lynne Neagle: Suzy, gwn eich bod yn ymwybodol fod y pwyllgor rydych yn aelod ohono'n cyflawni ymchwiliad mawr i ariannu ysgolion, ond rwyf ychydig yn ddryslyd ynghylch y catalog hir hwn o anawsterau y cyfeiriwch atynt, oherwydd rwy'n meddwl tybed o ble y credwch y daw'r pwysau ariannol a orfodir ar ysgolion mewn gwirionedd, gan mai eich Llywodraeth yn San Steffan sydd wedi torri ein grant.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Pleidlais y Bobl ( 5 Maw 2019)

Lynne Neagle: 7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei ystyriaeth o'r angen am bleidlais y bobl ar y cytundeb i ymadael â'r UE? OAQ53529

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Pleidlais y Bobl ( 5 Maw 2019)

Lynne Neagle: Diolch. Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n hanfodol i ddiystyru sefyllfa drychinebus 'dim cytundeb' a sicrhau bod yr anghytundeb llwyr yn San Steffan yn cael ei ddatrys? Felly, a yw hi'n cytuno â mi felly bod yn rhaid gwneud cytundeb Prif Weinidog y DU, sef, beth bynnag fo'i ddiffygion difrifol, yr unig un sydd ar gael, gael ei wneud yn destun pleidlais ymhlith y cyhoedd...

9. Dadl ar NNDM6985 — Trafodaethau ar Ymadael â'r UE ( 5 Maw 2019)

Lynne Neagle: Nid oeddwn yn bwriadu siarad heddiw oherwydd fy mod i wedi gwneud fy marn ynglŷn â Brexit yn glir iawn ar sawl achlysur yn y Siambr hon, gan gynnwys yn gynharach yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, ond rwyf bellach wedi penderfynu gwneud cyfraniad byr. Rwy'n croesawu'n fawr y cynnig sydd wedi ei gyflwyno gan fy mhlaid a gan Blaid Cymru heddiw, ac sy'n cael ei drafod ar y cyd â Senedd yr...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Cyllid Llywodraeth Leol ( 6 Maw 2019)

Lynne Neagle: 3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y pwysau cyllido mewn llywodraeth leol? OAQ53523

QNR: Cwestiynau i Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ( 6 Maw 2019)

Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo Cymru yn Ewrop?

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Cyllid Llywodraeth Leol ( 6 Maw 2019)

Lynne Neagle: Diolch, Weinidog. Ddoe, o ganlyniad i gyni Torïaidd, bu'n rhaid i gyngor Torfaen godi'r dreth gyngor 5.9 y cant er mwyn diogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, yn enwedig ysgolion a gofal cymdeithasol. Rwy'n falch iawn o gynrychioli cyngor Llafur sy'n brwydro mor galed i ddiogelu gwasanaethau lleol, ac er fy mod yn croesawu'r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.