Darren Millar: Diolch, Lywydd. Dri deg pum mlynedd yn ôl, cafodd ynysoedd Falkland, tiriogaeth Brydeinig fach dramor yn ne’r Iwerydd, ei goresgyn gan yr Ariannin. Roedd y gwrthdaro a ddilynodd yn bennod bwysig yn y gwrthdaro hir ynglŷn â sofraniaeth y diriogaeth. Ar 5 Ebrill 1982, anfonodd Llywodraeth Prydain dasglu o dros 100 o longau a 26,000 o filwyr i adennill yr ynysoedd. Er mai dros gyfnod...
Darren Millar: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella bywydau pobl hŷn yng Nghymru? OAQ(5)0665(FM)
Darren Millar: Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog, ond un o'r pethau na wnaethoch chi sôn amdanynt oedd yr arwahanrwydd cynyddol a wynebwyd gan lawer o bobl hŷn yng Nghymru. Amcangyfrifir bod tua 75,000 o bobl hŷn ar draws y wlad yn unig iawn, a gall yr unigrwydd hwnnw gael yr un math o effaith ag ysmygu 15 sigarét y dydd ar iechyd pobl. Tybed a wnewch chi ymuno â mi i gefnogi ymgyrch Age Cymru...
Darren Millar: Diolch yn fawr i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma ac am y ffordd y mae hi wedi ymrwymo i roi briffiau i Aelodau o'r gwrthbleidiau ar ei chynlluniau. Rwy’n falch iawn o weld bod argymhellion yr Athro Hazelkorn wedi cael eu cefnogi a'u derbyn, ac fel yr ydym ni wedi'i wneud yn y gorffennol, rwy’n credu ei fod yn bwysig ein bod ni’n symud fel cenedl gyda'n gilydd ar y...
Darren Millar: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau beth yw targedau’r Llywodraeth ar gyfer asesiad PISA 2018? TAQ(5)0143(EDU)
Darren Millar: Rwy’n ddiolchgar iawn am yr ymateb hwnnw. Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod bod y canlyniadau PISA a gyhoeddwyd y llynedd yn dangos bod Cymru wedi dioddef degawd o ddirywiad yn y tablau cynghrair rhyngwladol, gyda sgoriau gwaeth ar gyfer llythrennedd, mathemateg a gwyddoniaeth yn 2015 nag oeddent yn 2006. Ac fe ysgogodd y sgoriau gwael hynny eich rhagflaenwyr i gyhoeddi pob math...
Darren Millar: Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf—[Torri ar draws.] Yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch wrth—
Darren Millar: Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, wrth drafod targed 2021, ac rwy’n dyfynnu, ‘Nid fy nharged i ydyw’, ac fe ddynodoch eich bod yn symud oddi wrtho. Ddoe, gwelsom y Prif Weinidog yn eich rhoi yn eich lle oherwydd yr hyn a ddywedoch, gan ailddatgan yr ymrwymiad i darged 2021, perfformiad arbennig o warthus ar ran y Prif...
Darren Millar: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am seilwaith trafnidiaeth yng ngogledd Cymru?
Darren Millar: Un o gyfleusterau chwaraeon gorau’r gogledd, wrth gwrs, yw Parc Eirias yn fy etholaeth i, cartref Rygbi Gogledd Cymru. Ac rwyf i wedi bod yn falch iawn, mewn gwirionedd, o weld buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y safle hwnnw dros y blynyddoedd. Ond a fyddech chi’n cytuno â mi, os ydym ni’n mynd i gael cyfleusterau chwaraeon gwych, bod yn rhaid i ni hefyd wneud yn siŵr bod gennym ni’r...
Darren Millar: Byddwn hefyd yn hoffi gweld datganoli pellach o ran cyfrifoldeb dros gamblo yma i Gymru, ond mae gennym ni rai pwerau eisoes, gan gynnwys pwerau drwy'r system gynllunio lle gallem ni gymryd camau i atal cynnydd i nifer y siopau betio trwyddedig mewn cymunedau bach. Rydym ni’n gwybod bod gormodedd, yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig, o siopau gamblo, a gall hynny fod yn broblem...
Darren Millar: Diolch i chi, arweinydd y tŷ, am eich datganiad. A gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar yr honiadau o hiliaeth a gwahaniaethu yn erbyn staff addysgu nad ydynt yn wyn eu croen yn ysgolion Cymru? Byddwch yn ymwybodol o’r pryderon a godwyd gan Gyngor Hil Cymru ynghylch honiadau o hiliaeth, ac y gallai hynny fod yn anghymell ymgeiswyr o gefndiroedd lleiafrifoedd...
Darren Millar: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ganllawiau a roddwyd i awdurdodau lleol mewn perthynas â materion cynllunio?
Darren Millar: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â chymunedau ffydd yng Nghymru?
Darren Millar: Mae môr-lynnoedd llanw, wrth gwrs, hefyd yn nodwedd bwysig a allai fod o fudd i arfordir gogledd Cymru, o ran datblygu economaidd ac o ran gwarchod yr arfordir. Ond un o’r pethau y mae datblygwyr posibl yn ei ddweud wrthyf yw y gallent wneud â rhywfaint o gyllid sbarduno er mwyn ariannu’r ymchwil a allai fod yn angenrheidiol ar sail ffynhonnell agored, ac ar gael i unrhyw un gael gafael...
Darren Millar: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n gwybod bod llawer iawn o ymgysylltu’n digwydd gyda chymunedau ffydd yng Nghymru a Llywodraeth Cymru, a gwn fod hwnnw’n waith a gaiff ei werthfawrogi’n fawr gan gymunedau ffydd, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig fod cyrff cynrychioliadol, pa un a ydynt yn gyrff Cristnogol neu Fwslimaidd, yn y fforwm cymunedau ffydd hwnnw yn cynrychioli’r llu o leisiau...
Darren Millar: Diolch, Llywydd. Rwy’n falch iawn o arwain y ddadl y prynhawn yma ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Cyn i mi ddechrau fy sylwadau y prynhawn yma, a gaf fi ddatgan buddiant fel myfyriwr addysg uwch rhan-amser yma yng Nghymru? Mae addysg bellach ac addysg uwch yn cael effaith eang a buddiol ar ein heconomi a chymdeithas Cymru, ond nid rhai o dan 24 oed yn unig a all gyfrannu at yr effaith...
Darren Millar: Yn ogystal â hynny, mae rhywfaint o ragfarn ar sail oed yn y system. Ar hyn o bryd, mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn gwrthod rhoi arian i rai sy’n 60 oed a throsodd yn y flwyddyn y bydd eu cwrs yn dechrau. Ac eto, gwyddom fod y comisiynydd pobl hŷn ac adolygiad Arad wedi tynnu sylw at fanteision enfawr dysgu gydol oes wrth helpu pobl hŷn i fyw bywydau mwy annibynnol, a bywydau llawnach. Ac...
Darren Millar: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Darren Millar: Byddwch yn cydnabod, fodd bynnag, fod rhai pobl eisiau hyfforddi am eu bod eisiau gadael cyflogwr er mwyn mynd i rywle arall, a bydd rhai pobl, yn syml o ran awydd i wella’n bersonol, am ddilyn cwrs nad oes ganddo ddim oll i’w wneud â’r swydd y maent ynddi ar hyn o bryd. Felly, hoffwn ofyn beth rydych yn mynd i’w wneud i’r bobl hynny i’w helpu gyda’r trawsnewidiadau hynny ac yn...