David Melding: Cadeirydd, mae angen i ni adeiladu mwy o gartrefi—llawer mwy o gartrefi. Dyma'r unig ffordd i fodloni’r argyfwng tai. Bu’r galw am dai yn uwch na’r cyflenwad o dai yng Nghymru, fel ar draws y DU, ers nifer o flynyddoedd. Mae'r galw ychwanegol am dai yn deillio o gynydd yn nifer yr aelwydydd, yn enwedig aelwydydd un-person, ond hefyd ffactorau eraill megis y cynnydd yn y boblogaeth...
David Melding: Yn fyr, gwnaf.
David Melding: Nid yn unig yr wyf i’n derbyn y bydd wastad angen stoc o dai cymdeithasol, rwy’n credu mai tai cymdeithasol yw’r dewis gorau o bell ffordd i lawer iawn o bobl, ac fe ddylem ni ateb y galw hwnnw, ac adeiladu mwy o dai cymdeithasol. Dyna beth y mae angen i ni ei wneud. Ac yn syml, byddwn wedi dymuno gweld y Llywodraeth yn cyflwyno polisïau ar y sail honno, i gwrdd â'r argyfwng...
David Melding: Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, John Griffiths. Fe ddywedais i mai llais y lleiafrif ydw i, ond rwy’n diolch i chi, John, am y ffordd ragorol y gwnaethoch chi gadeirio’r pwyllgor a sicrhau bod gennyf bob cyfle i gyflwyno fy mhryderon wrth baratoi'r adroddiad. Diolch.
David Melding: A wnaiff yr Aelod ildio? Mae'r ffigurau—. Hyd yn oed os yw'r Gweinidog yn gobeithio adeiladu tua 3,500 i 4,000 o dai cymdeithasol y flwyddyn, mae prin 400 yn cael eu gwerthu ar hyn o bryd, felly mae gwahaniaeth mawr.
David Melding: ‘Tai fforddiadwy' ddywedais i; nes i ddim dweud ‘cyfanswm nifer y cartrefi’; dywedais i ‘fforddiadwy’.
David Melding: Edrychaf ymlaen at graffu ar ‘Ein Cymoedd, Ein Dyfodol’ yn y Siambr hon, oherwydd yn sicr, mae arnom angen gweledigaeth drawsffurfiol ar gyfer y Cymoedd. Nid wyf yn siŵr a fyddai parc tirlun y Cymoedd yn ganolbwynt, ond gallai fod yn weledigaeth drawsffurfiol. Mae’n rhaid i ni ddechrau cydnabod gwir botensial yr adnodd hwn. Arferai’r Cymoedd fod ymhlith mannau harddaf Prydain, a...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl, ceir tystiolaeth y gall gwasanaethau cwnsela da atal ymweliadau mynych â meddyg teulu, ac mae ganddynt enw da am helpu a rheoli a hyd yn oed lleddfu symptomau ysgafn i gymedrol. Rwy’n credu bod y math hwn o arloesi yn rhywbeth sydd angen i ni weld mwy ohono yn y GIG, yn enwedig os ydym am gadw mwy o feddygon teulu, rhai...
David Melding: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y canllawiau cyfredol ar gyfer rheoli a chael gwared ar strwythurau peryglus, ar ôl i ddyn farw pan ddisgynnodd adeilad yn Sblot ddoe? TAQ(5)0166(ERA)
David Melding: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. A gaf fi fynegi fy nghydymdeimlad, Llywydd, â theulu’r dyn a laddwyd ddoe? Rwy’n meddwl bod angen rhoi camau prydlon ar waith pan nodir bod risg uchel yn gysylltiedig ag adeiladau. Mae gennym nifer go fawr o adeiladau cyhoeddus Fictoraidd nad ydynt mewn defnydd cyson, fel yr adeilad hwn, ac sydd mewn perygl o ddirywio. Rwy’n credu bod angen gofal lle mae...
David Melding: Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n croesawu adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn benodol mewn perthynas â’r contract gwerthu coed. O ystyried faint o arian cyhoeddus a wariwyd yn y cynllun penodol hwn, nid yw’n syndod fod craffu manwl wedi dilyn, a chyhoeddwyd adroddiad priodol a manwl iawn. Fel y clywsom yn awr, mae’r swm o arian dan sylw yn...
David Melding: Gwnaf.
David Melding: A gaf fi ddweud, Llywydd—? Gwn eich bod yn warcheidwad ein gweithdrefnau, a’r weithdrefn fwyaf yw pasio Bil, gan ei fod yn helpu Llywodraeth i ddatrys peth o’i meddylfryd, ac mae Llywodraeth ddoethach yn talu sylw i’r trafodaethau, ac yn wir, i rai o’r gwelliannau a ddaw gan bleidiau eraill. Rwy’n credu bod absenoldeb y broses honno wedi cael effaith fawr ar y sefyllfa anffodus...
David Melding: Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer denu buddsoddiad i Aberdâr?
David Melding: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â llygredd plastig yng Nghymru?
David Melding: Yn 2015, dywedodd y Sefydliad Ymchwil Adeiladu fod angen mwy o ddata arnom ynglŷn â hyn yng Nghymru. Mae angen astudiaeth genedlaethol i weld maint y broblem. Credaf mai’r broblem yn hyn o beth yw’r eiddo presennol sydd wedi mynd drwy’r broses hon, ac mae wedi bod yn ddiffygiol. Gan fod hyn yn ganolog i gymaint o’n strategaeth adnewyddu, lleihau ynni, Cartrefi Clyd—mae’n...
David Melding: Cymeradwyaf bwynt Eluned Morgan ynglŷn â’r angen am fwy o fusnesau adeiladu bach a chanolig fel sector allweddol sydd, mewn degawdau blaenorol, wedi darparu ar gyfer llawer o dwf. Un peth y gallech ei wneud yw atgynhyrchu’r cynllun yn Lloegr, lle y caiff grant y Trysorlys i awdurdodau lleol ei gynyddu yn ôl gwerth y cynnydd yn y dreth gyngor a ddaw gydag adeiladu tai newydd. Buasai...
David Melding: Diffyg chwilfrydedd yw hynny.
David Melding: Prif Weinidog, rwy’n cymeradwyo'r hyn y mae eich Llywodraeth a'r weinyddiaeth flaenorol wedi ei wneud i ddenu digwyddiadau lefel uchel a sut yr ydych chi wedi gweithio gyda'r cymdeithasau chwaraeon priodol. Rwy'n credu bod honno'n bartneriaeth allweddol, ac mae'r mathau hyn o gyflawniadau yn rhodd sy'n parhau i gyflawni gan fod y gwerth marchnata—. Mae pobl yn dal i sôn am y diwrnodau...
David Melding: Mae llawer o haenau i'r datganiad hwn ac ni fyddaf yn profi eich amynedd, Llywydd, trwy fynd trwy'r cyfan. Ond rwyf eisiau dechrau trwy ddweud bod ystod eang o gonsensws gwleidyddol yma yn y newid i ynni adnewyddadwy ac i ddatgarboneiddio ein sector ynni. Felly, yn y modd hwnnw rwy'n cynnig y sylwadau a'r cwestiynau hyn. Rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn iawn i ddweud bod angen...