Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r Aelod dros Dde Clwyd am ei eiriau caredig—Ken Skates—a hefyd am ei waith fel Gweinidog hyd yma ar y banc cymunedol, a'r Gweinidog sy'n gyfrifol yn awr, Jane Hutt, am ei hymrwymiad hyd yma? Weinidog, fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn dadlau dros gael banc cymunedol ym Mwcle yn fy etholaeth ers amser maith. A allwch chi roi'r...
Jack Sargeant: Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw, ac rwy'n ddiolchgar iawn am eich ymrwymiad amlwg—a'ch ymrwymiad hirsefydlog—i gyfiawnder cymdeithasol. Yn eich sgyrsiau â'r proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru, pa gyfeiriadau a wnaed at y toriadau i gymorth cyfreithiol, ac a ydych yn cytuno bod toriadau Llywodraeth y DU yn golygu ei bod yn llawer anos i'r rhan fwyaf o bobl, yn enwedig pobl...
Jack Sargeant: Diolch, Lywydd, ac fe fyddwch yn gwybod fy mod yn llysgennad Rhuban Gwyn balch iawn, ac rwy'n angerddol ynglŷn â lledaenu'r neges y dylai pob dyn wneud, ac yn bwysig, y dylai pob dyn gadw addewid y Rhuban Gwyn. Gwn eich bod chi eich hun, ac aelodau eraill o'r Comisiwn, yn y gorffennol a'r presennol, yn hyrwyddo'r achos hwn yn frwd, ac fel rydych wedi'i ddweud, rydych yn aml yn cefnogi'r...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Llywydd, ac mae'n anrhydedd i mi fod yn is-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddur. Mae'n sector eithriadol o bwysig i Gymru a ledled y Deyrnas Unedig ac rwy'n diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod gennym ni draddodiad balch o gynhyrchu dur yn fy etholaeth i, sef Alun a Glannau Dyfrdwy, ac rydym ni'n dathlu 125 mlynedd o...
Jack Sargeant: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ56721
Jack Sargeant: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau meddygon teulu yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ56720
Jack Sargeant: Diolch am eich ateb, Weinidog, a diolch am y cymorth hyd yma. Weinidog, mae Llywodraethau Llafur blaenorol Cymru wedi rhoi ffocws cryf ar brentisiaethau, ffaith y dylwn fod yn fwy ymwybodol ohoni na'r rhan fwyaf o bobl oherwydd fy nghyfnod yn gweithio fel peiriannydd. Mae'n rhaid inni hyfforddi'r genhedlaeth nesaf er mwyn sicrhau adferiad gwyrdd ac er mwyn datblygu cynhyrchion gwyrdd y...
Jack Sargeant: Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Mae mynediad at wasanaethau meddygon teulu yn broblem gynyddol yn Alun a Glannau Dyfrdwy, ac amlygwyd hyn yn yr wythnosau diwethaf—ddwywaith, mewn gwirionedd—ym meddygfa St Mark yng Nghei Connah, lle mae'n amlwg fod yna brinder meddygon, ac yn Queensferry, lle mae practis yn cael ei symud, neu o bosibl yn cael ei symud, i Gei Connah, oherwydd nad...
Jack Sargeant: Sut y bydd cynnig Llywodraeth Cymru ar gyfer banc cymunedol yn creu buddsoddiad yng nghymunedau Cymru?
Jack Sargeant: Rwy'n credu, i'w roi ar gofnod, y byddaf i'n datgan fy mod i'n aelod balch o undeb llafur, a byddwn i'n annog pobl yn y Siambr hon, Aelodau yn y Siambr hon, i fyfyrio ar rai o'r sylwadau sydd wedi eu gwneud yn ystod y cyfraniadau heddiw, oherwydd yn wir, undebau llafur fel Unite Wales yn fy etholaeth i a gefnogodd Airbus ac a achubodd gannoedd o swyddi yn Airbus drwy gydol y pandemig, pan...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Lywydd. Dydd Gwener diwethaf oedd Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd. I lawer ohonom, mae'r diwrnod hwn yn un heriol ond mae'n un sy'n llawn o benderfyniad a gobaith hefyd—gobaith y gallwn, gyda'n gilydd, godi ymwybyddiaeth ynglŷn â sut y gallwn greu byd lle mae llai o bobl yn marw drwy hunanladdiad. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos, yn 2018 yn y DU a Gweriniaeth...
Jack Sargeant: Siaradodd arweinydd yr wrthblaid am gonsensws ar ddechrau'r ddadl hon ac rwy'n cytuno: mae angen inni ddod o hyd i gonsensws. Ni fyddwch yn fy nghlywed yn dweud hyn yn aml, ond rwy'n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon heddiw—[Chwerthin.] Ond Ddirprwy Lywydd, cyfarfûm yn ddiweddar â Mark King o Sefydliad Oliver King, sy'n ymgyrchu dros ddarparu diffibriliwr achub...
Jack Sargeant: Trefnydd, ddydd Gwener, byddaf i'n bresennol yn nathliad pen-blwydd Tata Steel yn 125 oed yn fy etholaeth i. Mae fy nghymuned wedi'i hadeiladu ar ddur, fel y gwyddoch chi'n iawn, ac rwy'n hynod falch o hynny. Nawr, mae dyfodol cynhyrchu dur yn garbon isel, dur wedi'i gynhyrchu'n lleol, a dylai Shotton Steel fod ar flaen y gad yn y broses honno. A gawn ni ddatganiad, gan Lywodraeth Cymru,...
Jack Sargeant: 5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am sut mae'r setliad datganoli presennol yn galluogi Llywodraeth Cymru i hyrwyddo hawliau gweithwyr? OQ56861
Jack Sargeant: Wel, rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw, ac fel yntau, rwy'n aelod balch o undeb llafur. Credaf y dylem i gyd fod, ac rwyf am nodi hynny wrth fy nghyd-Aelodau ar y meinciau cornel. [Chwerthin.] Ond bydd y Cwnsler Cyffredinol yn gwybod fy mod wedi siarad o'r blaen yn y Siambr hon am bwysigrwydd defnyddio'r Bil partneriaeth gymdeithasol i rymuso gweithwyr a chynrychiolwyr...
Jack Sargeant: Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon y prynhawn yma. A dywedir yn aml fod i syniadau eu moment—moment mewn amser pan fydd yn gwneud synnwyr inni fynd ar eu trywydd. Nawr, fel rhywun a oedd yn arbenigo mewn rheoli newid yn fy rôl flaenorol fel peiriannydd, fy ngwaith i oedd deall pryd oedd y foment honno a sut i baratoi pobl ar gyfer newid. Dyna fy safbwynt ar y syniad o wythnos waith...
Jack Sargeant: Lywydd, rwy'n hapus i gefnogi gwelliannau Llywodraeth Cymru, os teimlant fod angen amser arnynt i gasglu tystiolaeth ac edrych ar dreialon cyn gweithredu, oherwydd rhaid inni wneud hyn yn iawn. Ond dywedaf wrth y Llywodraeth: wrth gefnogi eich llwybr chi mewn perthynas â hyn yn hytrach na mynd yn syth at dreial, byddwn yn disgwyl ymrwymiad gwirioneddol i fwrw ymlaen â hyn, ac i'r gwasanaeth...
Jack Sargeant: Wel, rwy'n falch iawn fod fy ngwaith ar degwch wedi bod o ddiddordeb brwd i'r Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed. Y broblem sydd gennych ar y meinciau draw yno, fel y dywedais o'r blaen—. Mae eich cyd-Aelod wedi'i roi yn syml yn ei gyfraniad nad yw'n poeni am y gorffennol, dim ond am y dyfodol. Y broblem sydd gennych—[Torri ar draws.] Y broblem sydd gennych gyda hynny yw bod y dadleuon...
Jack Sargeant: A wnaiff yr Aelod ildio?
Jack Sargeant: Rwy'n gwerthfawrogi hynny, Gareth. Pan ddarllenoch chi friff Cyngres yr Undebau Llafur, hoffwn wybod a oeddech chi'n ystyried ymuno ag undeb mewn gwirionedd—[Torri ar draws.]—gan fod yr undebau'n achubiaeth i gymaint o weithwyr a phobl dosbarth gweithiol yng Nghymru.