Delyth Jewell: Hoffwn ddiolch i Gadeirydd ein pwyllgor, yr Aelodau a'r tîm clercio am y gwaith y maent wedi'i wneud ar gyfer yr ymchwiliad a'r adroddiad hwn. Dylem i gyd fod yn ddig am y ffordd y mae COVID-19 wedi effeithio mwy ar rai pobl yn ein cymdeithas nag eraill. Ni ddylai'r dicter hwnnw bylu. Dylem ddefnyddio'r dicter i'n gorfodi i sicrhau ein bod yn newid y ffordd y mae ein cymdeithas yn...
Delyth Jewell: Hoffwn i ofyn am ddatganiad ar yr effaith y mae cyfyngiadau parhaus yn ei chael ar bobl â chyfrifoldebau gofalu, yn enwedig pobl a fyddai fel arfer yn dibynnu ar gyfleusterau canolfannau gofal dydd fel seibiant ac nad ydyn nhw wedi gallu cael y cymorth hwnnw ers misoedd lawer. Mae teuluoedd sy'n ofalwyr ac yn byw gyda'u hanwyliaid wedi gweld eu trefn ddyddiol yn mynd â'i phen i waered yn...
Delyth Jewell: Mae'n bleser dilyn David Melding yn y ddadl hon. Mae Plaid Cymru yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, ond nid ydym ni'n credu bod y Llywodraeth wedi mynd yn ddigon pell. Rydym ni, wrth gwrs, yn cymeradwyo argymhellion adroddiadau'r pwyllgorau, ac yn diolch i Gadeirydd a chlercod y pwyllgorau am eu cefnogaeth wrth gasglu'r dystiolaeth a arweiniodd at ein hargymhellion yn yr adroddiad...
Delyth Jewell: Diolch, Lywydd. Weinidog, hoffwn ofyn ynglŷn â rhai o'r sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog ddoe am adeiladau anniogel. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol o'r adeiladau rwy'n cyfeirio atynt; rwy'n cyfeirio, wrth gwrs, at fflatiau â chladin anniogel, er enghraifft. Dywedodd y Prif Weinidog y dylai datblygwyr dalu i unioni'r diffyg yn yr adeiladau hynny ac na ddylai lesddeiliaid fod yn...
Delyth Jewell: Weinidog, rwy'n gwerthfawrogi eich gonestrwydd yn nodi'r anawsterau. Rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol eich bod wedi cadarnhau bod angen pwerau pellach ar Gymru er mwyn rhoi mwy o amddiffyniad, ac yn amlwg, byddai Plaid Cymru yn cefnogi'r Llywodraeth i geisio sicrhau'r pwerau ychwanegol hynny. Rydych wedi nodi rhai o'r darpariaethau rydych yn bwriadu eu cyflwyno o fewn pwerau'r Llywodraeth...
Delyth Jewell: Wel, unwaith eto, diolch am eich ymateb i'r cwestiwn hwnnw, Weinidog.
Delyth Jewell: Na, diolch am egluro hynny, Weinidog. Nid wyf yn credu i chi roi'r argraff honno, ond mae'n amlwg yn dda cofnodi hynny. Nid wyf yn amau natur gymhleth hyn am eiliad. Byddwn yn eich annog i beidio ag aros i weithredu ar y mater oherwydd mae'n amlwg ein bod eisiau gallu rhoi gobaith i breswylwyr. Ond rwy'n falch o glywed eich bod yn ystyried amrywiaeth o'r gwahanol opsiynau hyn, ac fel y...
Delyth Jewell: Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn ddiweddar y bydd yn ymuno â Chynghrair yr Economi Llesiant—cam yr ydym ni wedi ei groesawu—a bwriedir i hyn wneud llesiant yn ganolog i benderfyniadau economaidd. Gyda hyn mewn golwg, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud os bydd penderfyniadau gwario a wneir gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i'r Bil hwn yn cael effaith andwyol ar ddangosyddion llesiant...
Delyth Jewell: Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd ar redeg safle'r Bryn yng Ngelligaer. Mae'r safle hwn yn cael ei redeg gan y Grŵp Bryn ac mae'n ymwneud, ymhlith pethau eraill, â rheoli gwastraff ac ailgylchu. Bu'n rhaid i'r grŵp ymddiheuro'n gyhoeddus yn ystod y dyddiau diwethaf oherwydd halogiad plastig yn y pridd. Rwyf wedi ei weld fy hun, ac mae'n ddinistriol iawn. Mae gwastraff...
Delyth Jewell: Rwy'n cefnogi'r mesur hwn am nifer o resymau sydd wedi cael eu hamlygu eisoes. Mae'n siom, wrth gwrs, ein bod ni'n gorfod gwneud hyn, ond mae hyn yn fesur angenrheidiol, mae'n rhywbeth brys, a dwi wir yn meddwl y dylai'r bobl sydd yn bwriadu peidio â chefnogi'r mesur yma ailystyried eu blaenoriaethau. Ddylen ni fyth bod yn ystyried unrhyw farwolaeth o COVID-19 fel rhywbeth sydd yn anochel, a...
Delyth Jewell: Yn ystod y cyfyngiadau symud ledled y DU yn gynharach yn y flwyddyn daeth yn amlwg nad oedd rhai pobl yn cael eu diogelu gan y cynllun ffyrlo. Un enghraifft yw Aled o Ystrad Mynach yn fy rhanbarth. Sefydlodd fusnes flwyddyn yn ôl, a olygai nad oedd yn gymwys ar gyfer y cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig a oedd yn mynnu bod ffurflenni treth dwy flynedd ariannol ar gael er mwyn gallu ei...
Delyth Jewell: Diolch, Lywydd dros dro. Rwy'n credu ein bod i gyd mewn perygl o anghofio pa mor anodd y gall fod i fod yn berson ifanc. Mae cymaint o bwysau y mae cymdeithas yn eu rhoi ar yr ifanc—arholiadau ie, ond hefyd straen a disgwyliadau ynglŷn â sut y dylent edrych, delfrydau ynghylch delwedd y corff wedi'u trwytho gan hysbysebion ac Instagram, bwlio, a phwysau i gael y lleoliad gyrfa cywir neu...
Delyth Jewell: Lywydd dros dro, mae ein cynnig yn mynd ymhellach. Mae'n ymdrin â chynnwys y cwricwlwm ei hunan, gan ddweud y dylai pob disgybl gael dealltwriaeth o hunaniaeth a hanes Cymru a'r straeon amryw sydd wedi'u gweu at ei gilydd i greu ein cenedl. Ac mae ein cynnig yn ceisio rhoi'r hawl i blant Cymru ddysgu drwy'r iaith Gymraeg. Eleni, mae plant a phobl ifanc Cymru wedi gorfod wynebu straen a...
Delyth Jewell: Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gyda sefydliadau perthnasol i sicrhau bod etholwyr Cymru yn wybodus am faterion gwleidyddol cyn etholiad y Senedd yn 2021?
Delyth Jewell: Hoffwn i ychwanegu fy llais i at rywfaint o'r hyn sydd wedi ei ddweud, oherwydd hoffwn i hefyd alw am ddatganiad ar frys gan Weinidog yr economi sy'n mynd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i berchnogion busnes am hyn, Trefnydd, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu cymorth dros dro i'r cwmnïau hynny a oedd yn dibynnu ar gyllid cam 3 y gronfa cadernid economaidd. Nawr, rwy'n gwybod bod...
Delyth Jewell: Iawn, Llywydd. Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog wedi dweud yn gynharach fod angen eglurder arno ynghylch symiau canlyniadol Barnett ar hyn, ond byddwn i'n croesawu mwy o eglurder ynghylch yr hyn yr oedd yn ei olygu, gan ei fod yn ymddangos bod hon yn fformiwla ar gyfer arian sydd eisoes wedi ei ddarparu. Felly, hoffwn i gael y datganiad hwnnw, os gwelwch yn dda, ar frys gan y Gweinidog, gan...
Delyth Jewell: Diolch, Gweinidog, am y datganiad.
Delyth Jewell: Rydym ni'n amlwg yn croesawu adeiladu mwy o dai cymdeithasol a dulliau mwy arloesol o wneud hynny. Mae llawer yn y datganiad yr ydym ni'n ei groesawu. Rwyf i hefyd yn falch o weld bod hwn wedi'i ddefnyddio wrth ôl-ffitio, gan fod hwnnw hefyd yn faes pwysig iawn i fynd iddo. Efallai, Gweinidog, y gallech chi amlinellu pa un a fyddai modd defnyddio dull tebyg i sicrhau bod cartrefi gwag yn...
Delyth Jewell: Rwy'n hoffi geiriad y ddeiseb gyntaf rŷn ni'n ei thrafod y prynhawn yma'n arbennig. Mae'r pwynt wedi cael ei wneud bod yr iaith yma yn gyfoethog ac yn bwysig. Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am hanes Cymru y bydd pob disgybl yn ei ddysgu, ac, wrth gwrs, mae'r ail ddeiseb yn gysylltiedig, gan ei bod yn gofyn i hanesion pobl dduon a phobl o liw gael eu...
Delyth Jewell: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o wleidyddiaeth yng Nghymru? OQ55848