Huw Irranca-Davies: Suzy, rwy'n diolch ichi am y cwestiwn hwn, ac nid oes swyddogion wedi codi gyda mi ar hyn o bryd unrhyw bryderon am unrhyw ddiffyg o ran capasiti, ond byddaf yn siŵr o roi mwy o ystyriaeth i hynny ac ymchwilio i hynny eto. Rwy'n gwybod mai'r diben sydd wrth wraidd y broses newydd ger ein bron, yn amodol ar basio'r offerynnau statudol hyn heddiw, mewn gwirionedd yw creu system fwy cyfeillgar...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirpwy Lywydd, eto.
Huw Irranca-Davies: Hoffwn i agor fy nghyfraniad i'r ddadl hon fel y Gweinidog dros blant drwy roi teyrnged i waith cyn-Ysgrifennydd y Cabinet, Carl Sargeant. Roedd Carl yn daer dros wella bywyd plant a phobl ifanc ledled Cymru, yn benderfynol o wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w lles nhw ac i'w gobeithion nhw i'r dyfodol. Roedd ef yn sylweddoli yr effaith ddinistriol a gaiff profiadau andwyol plentyndod a...
Huw Irranca-Davies: Edrychaf ymlaen at gael sgwrsio â'r comisiynydd plant, ag ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant ac, yn bwysicaf oll, â phlant a phobl ifanc ynghylch sut y gwnawn ni hynny. Diolch yn fawr.
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn i chi i gyd. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
Huw Irranca-Davies: Rwy'n falch iawn o gael ymateb i'r ddadl hon. Dim ond un peth yr wyf yn siŵr ohono eisoes—dydw i ddim yn credu y bydd modd i mi ymateb i bob pwynt a godwyd yn ystod yr amser sydd ar gael, ond fe wnaf fy ngorau. A gaf i yn gyntaf ddiolch i bawb am eu geiriau caredig a'u sylwadau am Carl Sargeant a'r etifeddiaeth y mae'n ei gadael yn y maes hwn? Nodwyd sawl gwaith heddiw—ar draws y...
Huw Irranca-Davies: Os caf i droi at y materion yn, fwy na thebyg, y munud neu fwy sy'n weddill, cododd Hefin y mater o p'un a fyddem yn parhau i gael deialog gyda'r comisiynydd plant ar faterion fel gofal plant cyffredinol, hyblygrwydd Dechrau'n Deg, ACEs ac ati—hollol gywir wrth ddweud nad yw ACEs yn holl hanfod a diben popeth, rhyw fath o ddull dadansoddol digyfaddawd, amrwd: mae angen iddynt gael eu...
Huw Irranca-Davies: Diolch am y cwestiwn. Fel y gŵyr Neil, rydym wedi blaenoriaethu gofal cymdeithasol fel sector o bwysigrwydd cenedlaethol strategol, ac mae'r ymrwymiad hwnnw wedi'i ategu gan gyllid ychwanegol: darparwyd cyfanswm o £55 miliwn o gyllid ychwanegol rheolaidd i awdurdodau lleol ei ddefnyddio mewn gwasanaethau cymdeithasol yn 2017-18, ac rydym hefyd, wrth gwrs, wedi ymrwymo i ddyblu'r cyfalaf...
Huw Irranca-Davies: Mae Neil yn nodi pwynt pwysig yma, ac rydym yn credu'n gryf fod yn rhaid i Gyngor Sir Ceredigion, fel unrhyw gyngor arall, gynllunio eu darpariaeth ofal yn ddigonol yn seiliedig ar anghenion lleol ac ymdrin â'r materion sydd wedi eu codi. Nawr, rwy'n derbyn, a dylai pob un ohonom fod yn ymwybodol, fod hwn wedi bod yn gyfnod anodd i bawb yr effeithiwyd arnynt gan hyn, yn enwedig...
Huw Irranca-Davies: Diolch am eich cwestiwn. Roeddech yn iawn i godi mater teneurwydd poblogaeth a'r heriau o ddarparu unrhyw wasanaethau cyhoeddus, heb sôn am ofal cymdeithasol i blant a gofal cymdeithasol i oedolion, mewn rhanbarth o'r fath, ond wrth gwrs, nid yw hynny'n lleihau'r angen i sicrhau bod pob unigolyn, er gwaethaf natur wledig yr etholaeth honno, yn cael gofal priodol. Soniais yn fy ateb...
Huw Irranca-Davies: Simon, rwyf wedi ymrwymo i rannu popeth y gallaf ei rannu gydag Aelodau'r Cynulliad. Yn gyntaf oll, mae angen iddo fynd at Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru er mwyn iddynt ei ystyried. Bydd angen i minnau ei weld yn gyntaf hefyd, ond er tryloywder, rwy'n awyddus i sicrhau bod popeth y gallaf ei rannu gydag Aelodau'r Cynulliad yn cael ei rannu gan ei bod hefyd yn bwysig,...
Huw Irranca-Davies: Wel, diolch am eich cwestiwn. A gaf fi ddweud, yn gyntaf oll, o ran eitemau unigol yr achos hwnnw, os hoffech eu dwyn i fy sylw, naill ai ysgrifennwch ataf, neu os ydych yn awyddus i gyfarfod â mi, rwy'n fwy na pharod i'w trafod, a gweld beth y gellir ei wneud yn yr achos unigol hwnnw? Un o'r ffactorau mwyaf sy'n ein hwynebu yw'r mater o oedi wrth drosglwyddo gofal, wrth gwrs. Nid wyf yn...
Huw Irranca-Davies: Wel, unwaith eto, diolch i chi am y cwestiwn pellach. Ac mae'n broblem go iawn, ac yn fater rydym yn buddsoddi arbenigedd a chymhwysedd yn ogystal ag arian ynddo, ac yn gweithio gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol ar lawr gwlad. Rydym wedi gweld cynnydd yn ystod mis Awst, ac mae'n gynnydd nad oeddem wedi'i weld yn y 18 mis blaenorol. A dwy o'r ardaloedd hynny oedd Prifysgol Abertawe...
Huw Irranca-Davies: Diolch i chi, unwaith eto, am y cwestiwn atodol hwnnw. Ac fel y trafodwyd yn y pwyllgor yn gynharach y bore yma, mae llawer iawn y gallwn ei wneud o fewn yr adnoddau sy'n bodoli drwy weithredu'n fwy clyfar. Ac mae hynny'n cynnwys y defnydd o weithio mewn partneriaeth ranbarthol i gomisiynu gwasanaethau ar y cyd, mae'n cynnwys y defnydd o gyllidebau cyfun, fel y gallwn rannu beth yw'r...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Llyr am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, a hefyd am amlinellu'r heriau sydd o'n blaenau, yn ogystal â rhywfaint o'r gwaith da sy'n mynd rhagddo, ac am ei chyflwyno'n bwyllog ac yn ystyrlon, ond hefyd gydag angerdd ynglŷn â goresgyn yr heriau hyn mewn gwirionedd a cheisio gwelliannau yn y maes? Ac yn yr un modd, y pwyntiau a nododd fy...
Huw Irranca-Davies: Gwnaf, fe ildiaf.
Huw Irranca-Davies: Mae fy nghyfaill yn hollol gywir. Credaf y bu cydnabyddiaeth yma yn y Siambr heddiw o'r gwaith da sy'n mynd rhagddo, ond nid yw'n digwydd ym mhobman. Dyna'r mater y mae grŵp cynghori'r Gweinidog yn edrych arno. Mae'r adroddiad hwn yn gyfraniad at hynny sydd i'w groesawu. Ond mae'n wir ein bod yn gwybod beth sy'n gweithio, a gallwn ei weld yn gweithio, a ni sydd wedi ariannu llawer ohono....
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein dull cydweithredol o wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru. Mae'n amlwg y ceir consensws ymhlith yr Aelodau o'r holl bleidiau y dylai plant sy'n derbyn gofal gael yr un dechrau mewn bywyd a chyfleoedd â phob plentyn arall. Rydym yn nodi hyn yn glir fel ein...
Huw Irranca-Davies: I wella canlyniadau ar gyfer plant sydd eisoes yn derbyn gofal, gwyddom fod lleoliadau sefydlog yn hanfodol i blant deimlo'n ddiogel, i gael ymdeimlad o berthyn a gallu cyflawni eu potensial. Felly, mae gennym ni gynllun addysg a gwasanaethau cymdeithasol tair blynedd, o'r enw 'Codi uchelgais a chyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru'. Cefnogir y cynllun hwn gan fuddsoddiad...
Huw Irranca-Davies: Diolch i David am ei sylwadau, yn enwedig ynghylch ein cyn gyd-Aelod, Carl, a'i waith yn y maes hwn, a llawer o feysydd eraill hefyd. Mae'n iawn i ddweud, yn y gorffennol, na chafodd y maes hwn y sylw dyledus mae'n debyg. Roedd yn hawdd ei anwybyddu. Mae hi mor hawdd anghofio'r mater cyfan o blant a phobl ifanc mewn lleoliadau gofal, oherwydd dim ond pan aiff rywbeth o chwith y mae'n cyrraedd...