Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mark Reckless: A gaf fi ofyn, o ystyried termau'r cynnig, yn ogystal â'r ddadl, a yw'n ceisio pleidlais ar y mater hwn?
Mark Reckless: Prif Weinidog, pan es i â phwyllgor Cynulliad i Ddulyn a chyfarfod y Taoiseach, dysgais sut mae Iwerddon yn elwa ar £2 biliwn oherwydd mynediad breintiedig at ein marchnadoedd cig eidion a chynhyrchion llaeth yn yr undeb tollau, gyda chwarter ein cig eidion yn dod o Iwerddon. Onid yw'n wir mai ein dewis ni y tu allan i undeb tollau fyddai masnachu'n rhydd a phrynu cig eidion yn rhatach o...
Mark Reckless: Diolch, Llywydd. Rwy'n cytuno â'r Ysgrifennydd dros gyllid bod bendant angen i ni edrych yn fanylach ar y dreth dir gwag hon. Mae'n dweud y byddai'r dreth dir gwag yn gymwys i dir sydd eisoes wedi'i nodi fel tir sy'n addas i'w ddatblygu. Ai goblygiadau hynny felly yw ei fod yn dir sydd wedi ei nodi yn y CDLl, ac os felly, a yw'n briodol mewn gwirionedd, o ran y rhagolwg 15, 20 mlynedd sydd...
Mark Reckless: Lywydd, a gaf fi ymddiheuro am yr anghwrteisi o fod wedi methu cwestiwn yn y sesiwn flaenorol? Nid wyf yn siŵr a yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod gyda David Melding a Jane Hutt yn darllen yr adroddiadau hyn, ond efallai y gall ddweud wrthym hefyd a fydd yr adroddiad ar ddatgelu answyddogol neu fel arall ar yr ad-drefnu yn cael ei gyhoeddi, o ystyried ei ymrwymiad newydd i fod yn agored a...
Mark Reckless: 1. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau ar ôl cyrraedd pa gost y bydd Llywodraeth Cymru'n edrych ar ddewisiadau amgen i gynlluniau arfaethedig presennol ar gyfer ffordd liniaru'r M4? OAQ51826
Mark Reckless: Dywedodd y Prif Weinidog wrthym yn 2015 y byddai'r prosiect yn costio, a dyfynnaf, 'ddim yn agos at £1 biliwn.' Mae'n debyg, mewn un ystyr, bod hynny'n gywir gan y nodwyd bod y gost tua £1.4 biliwn erbyn hyn. Os bydd y Cynulliad yn cefnogi'r llwybr du yn y bleidlais yr ydym ni'n mynd i'w chael nawr, sut gallwn ni ymddiried yn Llywodraeth Cymru i'w ddarparu am gost dderbyniol pan nad ydych...
Mark Reckless: Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, mae diddordeb arbennig gen i yn y rhwydwaith Seren i gefnogi dysgwyr abl a thalentog i fynd i'r brifysgol, fel y byddwch yn ymwybodol o bosibl o nifer fy nghwestiynau ysgrifenedig ar y—[Torri ar draws.] Diolch. Yn gyntaf, hoffwn i ofyn a ydych chi wedi cynnal unrhyw asesiad o'r gwersylloedd haf y mae rhai o'r prifysgolion mwyaf blaenllaw yn eu cynnig, gan...
Mark Reckless: Arweinydd y tŷ, rwyf wedi cael gwybod bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gohirio'r broses o osod band eang cyflym iawn drwy godi ffioedd cynllunio gormodol a rhenti tir am y blychau cyflym iawn. Mae hyn yn peryglu darpariaeth gyflym iawn, nid yn unig yng Nghaerffili, gan gynnwys Islwyn, ond mewn ardaloedd cyfagos yn ogystal. A fyddech yn sicrhau bod Caerffili yn rhoi'r gorau i beryglu...
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mark Reckless: A yw'r Aelod yn derbyn bod aelodaeth o undeb tollau'r UE hefyd yn galw am fod yn aelod o'r UE a'i strwythurau cyfreithiol, ac anwybyddu canlyniad y refferendwm a'r modd y pleidleisiodd Cymru?
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mark Reckless: A yw'n ymwybodol, ar gyfartaledd, bob tro y bydd menyw'n prynu bra, fod yn rhaid iddi dalu treth o £1 i'r Undeb Ewropeaidd, er nad ydym yn cynhyrchu bras yn y wlad hon?
Mark Reckless: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed o ran hyrwyddo masnach Cymru ag Unol Daleithiau America? OAQ51877
Mark Reckless: Aeth y Prif Weinidog i'r Unol Daleithiau i hyrwyddo cytundeb masnach rydd rhwng y DU a'r Unol Daleithiau. Daeth yn ôl yn dweud wrthym fod yn rhaid i ni ei adael i'r UE. Onid y gwir yw bod ei bolisi o undeb tollau newydd gyda'r UE yn cynnig y gwaethaf o'r ddau fyd, o'r safbwynt na fyddai gennym ni bolisi masnach annibynnol ac eto ni fyddai gennym ni unrhyw ddylanwad a dim pleidlais dros...
Mark Reckless: Rwy’n ddiolchgar i Estyn am eu hadroddiad blynyddol sylweddol. Wrth ddarllen drwyddo, nid oeddwn i bob amser yn glir a yw Estyn yn fecanwaith i Lywodraeth Cymru ei ddefnyddio i geisio sicrhau eu hamcanion polisi, ynteu a yw'n sefydliad ar wahân, o ran ei ymreolaeth a’i annibyniaeth, ac i ba raddau y gallai fod yn barnu goblygiadau ei feini prawf asesu ei hun. Felly, er enghraifft,...
Mark Reckless: Os caf i gymryd un enghraifft—mae'n faes lle'r wyf i'n meddwl y gallai fod fy marn i ac efallai farn llawer o bobl, o leiaf yn y grŵp Ceidwadol, yn wahanol i’ch un chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ac i’r Llywodraeth Lafur, ond mae’n ymwneud ag atebolrwydd i ysgolion a thryloywder dros sut maent yn gwneud. Mae gennym asesiad Estyn eu hunain a’r sgôr mae'n ei roi. Wedyn mae gennym y...
Mark Reckless: Wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ildio?
Mark Reckless: Yn hytrach na’r egwyddor abl honno, lle nad wyf yn meddwl y byddwn ni'n dod i gytundeb, beth yw pwynt y ffordd ganol hon lle mae Estyn yn dweud wrthych chi beth yw’r canlyniadau os oedd yr arolygiad ar ôl 2014, ond nid cyn hynny, a sut y mae hynny'n helpu unrhyw un os yw rhieni’n cymharu ysgolion ar sail data sydd ddim yn gywir neu’n gyfoes?
Mark Reckless: 9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a fydd y ddadl a'r bleidlais ar ffordd liniaru'r M4 a gyhoeddwyd mewn llythyr at Aelodau'r Cynulliad yn gyfrwymol neu'n gynghorol? OAQ51855