Caroline Jones: Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cyflyrau niwrolegol yn effeithio ar ddegau o filoedd o bobl yng Nghymru a gobeithio y bydd y cynllun cyflawni diweddaraf hwn yn adeiladu ar y gwelliannau a wnaed i'r gwasanaethau a gynlluniwyd i gynorthwyo'r bobl hynny. Er bod nifer o gyflyrau niwrolegol yn bresennol ar enedigaeth, gall nifer mawr ddod i’r amlwg ar unrhyw amser yn...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r cynnig hwn heddiw. Mae strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru yn anelu at wella iechyd a lles yng Nghymru. Fel y Ceidwadwyr Cymreig, rwy’n siomedig nad oes unrhyw dargedau clir, mesuradwy ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Rwy’n croesawu’r uchelgais sy’n sail i strategaeth Llywodraeth Cymru, ond heb ganlyniadau clir, mesuradwy,...
Caroline Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail oedran yng Nghymru?
Caroline Jones: Prif Weinidog, mae llais cleifion annibynnol yn hanfodol, yn enwedig i’r rheini na allant gael gwrandawiad. Rydym ni wedi gwneud cynnydd enfawr o ran darparu eiriolwyr i bobl â phroblemau iechyd meddwl, ond mae gwasanaethau eiriolaeth cleifion hefyd yn hanfodol i bobl â dementia. Bu galwadau i bawb â dementia gael mynediad at eiriolwr medrus ac annibynnol sy'n deall dementia ac sy’n...
Caroline Jones: Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i adolygu strwythurau llywodraethu yn y GIG?
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, fel y darganfuom yn y pwyllgor iechyd, mae pobl ifanc yng Nghymru sy’n astudio meddygaeth yng Nghymru yn fwy tebygol o aros yng Nghymru, a dyna pam ei bod yn hanfodol bwysig ein bod yn gwella cyfleoedd addysg feddygol yng ngogledd Cymru. Nid yn unig fod prinder meddygon a nyrsys yng Nghymru, ond mae radiolegwyr yn brin iawn hefyd. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae...
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mis Hydref yw mis ymwybyddiaeth o ganser y fron ac i nodi’r achlysur, mae Breast Cancer Now wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy’n edrych ar lwybr cleifion canser y fron, ac yn gwneud argymhellion i wella canlyniadau i gleifion. Rydym bellach yn gwneud cynnydd o ran gwella cyfraddau goroesi canser y fron. Mae cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn a phum...
Caroline Jones: Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Un o’r gwelliannau mwyaf y gallwn ei wneud i ofal canser y fron—a holl ddiben y mis ymwybyddiaeth—yw gwneud y cyhoedd yn ymwybodol o arwyddion a symptomau canser y fron. Mae canfod canser y fron yn gynnar yn gwella eich gobaith o oroesi, fel y gwn o brofiad personol. Mae hi bellach yn ddeng mlynedd ers i mi gael canser y fron ac...
Caroline Jones: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym i gyd yn gwybod bod atal yn well na gwella. Er y gallwn roi camau ar waith i fynd i’r afael â rhai o’r ffactorau risg sy’n gysylltiedig â chanser y fron, mae Breast Cancer Now yn tynnu sylw at y ffaith na allwn fynd i’r afael â’r ffactorau risg mwyaf: bod yn fenyw a mynd yn hŷn. Fodd bynnag, gallwn roi camau ar waith i leihau’r risg...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, er ei bod yn siomedig fod Jaguar Land Rover wedi penderfynu cynhyrchu eu hinjans yn fewnol, nid oedd unrhyw sicrwydd y byddai Ford wedi ennill y contract pan oedd i fod i gael ei adnewyddu ym mis Rhagfyr 2020. Felly, mae gennym ddwy flynedd a hanner i fod yn gadarnhaol a dod o hyd i gontractau ychwanegol ar gyfer safle Pen-y-bont ar Ogwr. Yr hyn nad oes ei angen yn awr...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon a’r cyfle i siarad ynddi. Rwy’n cytuno â’r teimlad sy’n sail i’r cynnig hwn. Mae prinder staff o fewn y GIG yn niweidiol i ofal cleifion. Nid oes diwrnod yn mynd heibio pan nad ydym yn wynebu erthyglau newyddion sy’n amlinellu effaith prinder staff ar y GIG yng Nghymru. Rydym wedi gweld cynnydd o 400 y cant yn nifer y...
Caroline Jones: Fe wnaf mewn munud—yn anghynaliadwy ac rwy’n annog Llywodraeth Cymru i gynllunio i wneud mwy o ddefnydd o staff banc. Gyda’r pwyntiau hyn mewn golwg, bydd UKIP yn cefnogi’r cynnig yn ogystal â gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig. Byddwn yn ymatal ar welliant Llywodraeth Cymru gan ei fod yn cydnabod yr effaith y mae prinder staff yn ei chael ar ein staff ymroddedig yn y GIG, ond mae’n...
Caroline Jones: Roedd hi eisiau ymyrryd.
Caroline Jones: Na, na, roedd hi eisiau ymyrryd.
Caroline Jones: Ydw. Byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru—
Caroline Jones: Fe ildiais i chi.
Caroline Jones: Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Ni fyddai unrhyw un yn y Siambr yn anghytuno ag egwyddorion cyffredinol eich cynllun chi, sy'n cynnwys gwella profiad y claf trwy gadw costau gofal ar lefel resymol. Ac yn hyn o beth, mae'r gwelliant 1000 o Fywydau i helpu Llywodraeth Cymru a GIG Cymru i sefydlu gwasanaethau cynaliadwy a sicrhau profiad gwell i gleifion mewn...
Caroline Jones: Diolch ichi am eich datganiad, Weinidog. Mae'r ymgyrch 1000 o Fywydau wedi dangos yr hyn sy'n bosibl pan fyddwn ni'n unedig wrth ymgyrraedd at un nod—nod o wella profiad pob claf o'r gofal y mae’n ei dderbyn. Mae’n wych gweld brwdfrydedd ac ymrwymiad y timau gofal iechyd. Gan gydweithio mewn ffordd sydd â thystiolaeth yn sail iddi, maen nhw wedi parhau i sicrhau canlyniadau...
Caroline Jones: Diolch, Gadeirydd. Rwy’n falch o gynnig y cynnig ger eich bron heddiw. Cyn i mi ddechrau mewn gwleidyddiaeth, roeddwn yn berchennog busnes bach, yn gweithredu busnesau ar y stryd fawr ym Mhen-y-bont yr Ogwr a Phorthcawl, a chefais brofiad personol o’r heriau sy’n wynebu busnesau ar ein strydoedd mawr. Mae’r cynnig a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelodau a minnau yn ceisio lliniaru rhai...
Caroline Jones: A wnewch chi dderbyn ymyriad?