Suzy Davies: Ychydig fisoedd yn ôl—ac rwy’n meddwl efallai fy mod wedi sôn am hyn fwy nag unwaith yn barod, felly ymddiheuriadau—euthum gyda chyd-Aelodau i weld y peiriant gwrthdaro hadronau mawr yn CERN yn Genefa. Mae’r cyfleuster yn enfawr, ond yn llai na brycheuyn yn hanes y bydysawd. Mae’r gwaith, wrth gwrs, y mae miloedd o’n pobl ddisgleiriaf o bob cwr o’r byd wedi ymrwymo iddo yn...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gan gyfeirio at yr ymgynghoriad a’r mater hwn o gysondeb, roeddwn i’n meddwl tybed a allech chi ystyried cynnwys cwestiynau am ryddid gyrwyr cabiau/gyrwyr tacsi i gymryd cyfrifoldeb am eu penderfyniadau eu hunain ar gynnal a chadw y cabiau hynny—sef, y dylent fod yn rhydd i fynd i unrhyw garej leol, ar yr amod bod ganddi enw da...
Suzy Davies: Mae’n bleser eich gweld yn ôl.
Suzy Davies: Fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, nad yw cyfarwyddeb yr UE ar ddiogelu safleoedd bridio llamidyddion wedi cael ei throsglwyddo i gyfraith y DU, a gobeithiaf y gall Llywodraeth Cymru, ar ôl Brexit, naill ai ddewis cyflwyno ychydig o’i hamddiffyniadau ei hun, neu weithio gyda Llywodraeth y DU i wneud hynny. Mewn gwirionedd, gobeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn arwain ar hyn ar ran...
Suzy Davies: Rwy’n cydnabod y gwaith a wnaed yn Ynysforgan, mewn gwirionedd. Cafodd tua 300 o gartrefi eu diogelu yno. Eto i gyd, yn y blynyddoedd diwethaf, rydym hefyd wedi gweld adeiladu newydd ar safleoedd sy’n ymddangos fel pe baent ar dir isel yn agos at yr afon. Ar y llaw arall, yn fy ngwaith blaenorol, rwy’n cofio gorfod esbonio i fenthycwyr dro ar ôl tro, er bod eu chwiliadau amgylcheddol...
Suzy Davies: Yn ystod y ddadl ar y rhaglen Cefnogi Pobl y llynedd, fe ddywedoch ei bod yn ‘yn helpu i leihau galwadau diangen ar y GIG’, yn enwedig wrth siarad am iechyd meddwl, fel y byddwch yn cofio mae’n siŵr. Rwy’n credu ein bod i gyd yn derbyn ei bod yn hynod o anodd dangos tystiolaeth a phrofi bod dulliau atal yn gweithio, ond a oes gennych unrhyw ddata a all eich helpu i hyrwyddo gwariant...
Suzy Davies: Yn yr un modd ag y mae cronfa datblygu rhanbarthol Ewrop yn cymryd casgliad penodol o feini prawf i rannu Cymru’n ddwy ran, felly hefyd y mae model y fargen ddinesig, er ei holl fanteision, mewn perygl o wneud yr un peth. Mae’n anodd dychmygu, a dweud y gwir, sut y bydd y rhan fwyaf o Bowys yn teimlo effeithiau y buddsoddiad trefol mawr yng Nghymru ei hun. Mae Russell George yn llygad ei...
Suzy Davies: Nid oes gennyf ond 20 eiliad, mae’n ddrwg gennyf, David. Y tro hwn, mae’r cynnydd araf yn Llundain wedi cuddio oedi difrifol yma, ac nid wyf yn credu y byddai unrhyw un ohonom yn falch os mai cyfrifoldebau datganoledig fyddai’r unig reswm dros oedi ar y morlyn llanw. A chydag Wylfa B o’n blaenau, nid wyf yn credu mai am drwyddedau morol y dylai pawb ohonom fod yn siarad yn nes ymlaen.
Suzy Davies: 4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch gweithfeydd Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr? OAQ(5)0638(FM)
Suzy Davies: Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Ym mis Mawrth, dywedodd eich Ysgrifennydd Cabinet wrthym fod rheolwyr Ford wedi dweud wrtho y byddai niferoedd cyflogaeth yn aros fwy neu lai yr un fath tan 2021. Dywedodd hefyd ei fod yn meddwl y gallai rheolwyr Ford gyfathrebu'n well gyda’u gweithwyr a'u haelodau ynglŷn â'r amcanion hirdymor ar gyfer y gwaith. Ers hynny, a allwch chi ddweud...
Suzy Davies: Cadeirydd.
Suzy Davies: Diolch yn fawr. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Lynne Neagle.
Suzy Davies: Diolch, ac rwy’n gobeithio bod yr Aelodau'n deall ei bod yn bwysig bod Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn cael y cyfle i roi sylwadau am y ffigurau a gyhoeddwyd ar ôl cyhoeddi adroddiad y pwyllgor. I call on the Chair of the Constitutional and Legislative Affairs Committee, Huw Irranca-Davies.
Suzy Davies: Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ymateb i’r ddadl.
Suzy Davies: Roeddwn yn mynd i ymyrryd ar Huw Irranca-Davies, felly rwy'n falch fy mod wedi cael y cyfle i siarad, mewn gwirionedd. Rwy'n cytuno ei bod yn amser i ni fod yn adolygu pwrpas ein tirweddau dynodedig ac adolygu cryfder yr amddiffyniadau sydd wedi'u hymgorffori ynddyn nhw ar hyn o bryd. Hynny yw, nid yw mor bell yn ôl pan oeddem yn sefyll yma yn siarad am y parciau cenedlaethol ac anhryloywder...
Suzy Davies: Wel, wynebodd yr arweinwyr sy’n gyfrifol am y cais hwn ddiwydrwydd dyladwy trwyadl iawn gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac rwy’n siŵr eich bod wedi rhagweld cerrig milltir penodol yn cael eu gosod er mwyn nodi cynnydd a addawyd, yn gyntaf o ran darparu’r strwythur llywodraethu hwnnw roeddech yn sôn amdano, ac yn ail o ran y math o rawiau trosiadol yn y ddaear, os mynnwch, a...
Suzy Davies: Nid ydym yn adeiladu digon o gartrefi, a hyd yn oed os nad ydym yn cytuno ar y ffigurau a’r targedau, rwy’n credu ei bod yn ymddangos y gallwn gytuno nad lladd ar broses y cynllun datblygu lleol yw’r ateb. Yn gynyddol, mae mater tai yn fy ardal yn cael ei ystyried yn gyfystyr ag ymchwiliadau cynllunio. Fel y gwelsom ym Mhenlle’r-gaer a Phontarddulais, mae cyngor Abertawe yn cyrraedd...
Suzy Davies: Wel, wrth gwrs, fe wyddoch nad dyna yw polisi’r Ceidwadwyr bellach, ac rydym yn sôn am gyfnod o 30 mlynedd, sy’n ddwy genhedlaeth mewn perthynas ag adeiladu tai. Nid wyf yn credu ei bod yn deg rhoi’r bai ar y Llywodraeth Geidwadol yn awr am adeg pan oeddwn i yn yr ysgol, ac rwy’n ddigon hen bellach i gael gwyliau Saga. Mae cost y datblygiadau newydd hyn mewn mannau nad ydynt,...
Suzy Davies: Ie, iawn.
Suzy Davies: Ie, gydag ‘ie’ ychwanegol, Jenny. Rwy’n sicr yn cytuno â hynny. Ond rwy’n credu bod y mater hwn ynglŷn â’r gallu i addasu eiddo yn rhywbeth y mae angen i ni fod o ddifrif yn ei gylch yn bendant oherwydd, yn aml ar yr ystadau hyn, yn enwedig y rhai mawr, fe welwch fod eiddo pobl hŷn, os caf eu galw’n hynny—pobl sydd eisiau symud i dŷ llai ac sydd â rhywfaint o broblemau...