Rhianon Passmore: Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd, Lynne Neagle, a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am gyflawni gwaith gwerthfawr a thaflu goleuni ar yr agwedd hon ar raglen Dechrau'n Deg. Nodaf hefyd â diddordeb yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. Un o'r grymoedd ysgogol ar gyfer mynd i fyd gwleidyddiaeth, buaswn yn gobeithio, i bawb yn yr ystafell hon, yw helpu ym mha bynnag ffordd i ddileu tlodi yn ein...
Rhianon Passmore: A all Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â chyfanswm y buddsoddiad cyfalaf yn Ysbyty Athrofaol y Grange, ysbyty newydd a fydd yn gwasanaethu'r bobl sy'n byw yn ne-ddwyrain Cymru?
Rhianon Passmore: Diolch, Llywydd. Diolch. Yn gyntaf oll, a gaf i groesawu'n fawr iawn y fenter gyffrous hon a hefyd yr egwyddorion sy'n sail iddi? A gaf i ofyn pa effaith gaiff y buddsoddiad o £7 miliwn o fewn menter parc rhanbarthol y Cymoedd ar hen gymoedd diwydiannol Islwyn, gyda'r holl harddwch naturiol, y tirweddau y cyfeiriwyd atynt eisoes a'i dreftadaeth? Yn benodol, rhaid imi grybwyll pwll glo'r...
Rhianon Passmore: Diolch, Llywydd. Yn gyntaf, rwy'n croesawu yn fawr iawn ddatganiad y Gweinidog dros blant yn dathlu wythnos mabwysiadu, a'r bwrlwm o waith arloesol sy'n digwydd nawr ledled Cymru, mewn cartrefi ac yn ein hasiantaethau. Mae'r Gweinidog, ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet, wedi hyrwyddo ers peth amser yr egwyddor o gydweithio rhwng asiantaethau sy'n bartneriaid inni, fel y pwysleisiwyd yn 'Cymru...
Rhianon Passmore: 8. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i wella cyfraddau goroesi yn dilyn ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty yn Islwyn? OAQ52789
Rhianon Passmore: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr wythnos diwethaf yn y Siambr, fe gyhoeddoch chi fod Llywodraeth Cymru yn sefydlu partneriaeth strategol, yn debyg i'r un yn yr Alban, o'r enw Achub Bywydau Cymru. Mae ymgyrch arloesol 'Adfywio Calon' gwasanaeth ambiwlans Cymru, a lansiwyd yr hydref diwethaf, wedi dysgu bron i 13,000 o blant ysgol sut i gyflawni dadebru cardio-anadlol, sy'n gallu achub...
Rhianon Passmore: Sut y bydd Parc Rhanbarthol arfaethedig y Cymoedd o fudd i economi Islwyn?
Rhianon Passmore: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o sut y bydd Trafnidiaeth Cymru yn effeithio ar gymunedau Islwyn?
Rhianon Passmore: Fel aelod o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, hoffwn ddechrau drwy ganmol ymdrechion ein Cadeirydd, Bethan, a chyd-aelodau'r pwyllgor a'r clercod am eu gwaith diwyd a phwysig yn cynhyrchu'r adroddiad hwn. Yn aml, gofynnir i mi pam rwy'n rhoi cymaint o flaenoriaeth i addysg cerddoriaeth, ac er nad fi yw'r unig un, yn ystod mis Medi 2016, cyn i mi wasanaethu ar y pwyllgor, fel y...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad, os gwelwch yn dda?
Rhianon Passmore: Ie, iawn. O ystyried y nifer o elfennau gwahanol a'r mentrau da iawn sy'n datblygu, a ydych chi felly'n cydnabod yr angen am strategaeth neu gynllun cydlynol i allu tynnu'r holl fentrau hyn at ei gilydd o dan un weledigaeth strategol ar gyfer addysg cerddoriaeth yng Nghymru?
Rhianon Passmore: Wrth i ni nesáu at yr wythnos hon o goffadwriaeth i'n cenedl, a gaf i groesawu, yn fawr, ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet yn amlinellu'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i nodi'r cyfnod pwysig a chofiadwy hwn gydol y flwyddyn? Yn fy etholaeth i, Islwyn, mae'r pwysigrwydd y mae'r cymunedau yn ei roi ar beidio ag anghofio a'u hawydd i ddod at ei gilydd yn yr ysbryd hwnnw i'w gael mewn...
Rhianon Passmore: 4. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r diwydiant llaeth yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ52867
Rhianon Passmore: 2. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i helpu cyn-filwyr yn Islwyn? OAQ52865
Rhianon Passmore: Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am ariannu gwasanaethau llywodraeth leol yn Islwyn?
Rhianon Passmore: Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Ac fel y nodwyd gennych yn y sioe laeth flynyddol yn ddiweddar, ni fu erioed fwy o angen paratoi ar gyfer byd ar ôl Brexit, wrth i Gymru wynebu tswnami ei effeithiau. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y mae Llywodraeth Cymru yn asesu bod y prosiect HerdAdvance newydd, sy'n rhan o raglen gwella llaeth £6.5 miliwn Llywodraeth Cymru, yn mynd i helpu ffermwyr yn...
Rhianon Passmore: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd cymunedau Islwyn yr wythnos hon yn talu teyrnged i'r rheini a fu farw ac i'r dynion a'r menywod dewr yn ein lluoedd arfog sydd wedi bod yn barod i aberthu popeth er mwyn amddiffyn ein rhyddid gwerthfawr a drysorwn i'r fath raddau. Ochr yn ochr â miloedd o'n dinasyddion, byddaf yn mynychu gwasanaethau coffa ar hyd a lled fy etholaeth a thu hwnt....
Rhianon Passmore: Rwy'n croesawu'r ddadl hon ar ein lluoedd arfog yn ystod yr wythnos bwysig hon o gofio cenedlaethol ac rwy'n codi i gefnogi gwelliant y Llywodraeth. Hoffwn ddechrau ar nodyn personol. Gwn fod yr Aelod dros Orllewin Clwyd hefyd yn ffrind a chydweithiwr i Carl Sargeant. Flwyddyn wedi marw Carl, gwn fod ei ddiffuantrwydd a'i bresenoldeb yn byw o hyd i'r rhai ohonom yma heddiw a oedd yn malio...
Rhianon Passmore: Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i helpu cynhwysiant digidol mewn gofal iechyd yn Islwyn?
Rhianon Passmore: 3. Sut y mae'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn trawsnewid y dirwedd ddigidol yn Islwyn? OAQ52905