Bethan Sayed: 7. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru? OAQ51527
Bethan Sayed: Diolch. Rydym ni wedi sylwi, fel Aelodau Cynulliad, eich bod chi wedi gwneud cyhoeddiad cyn y Nadolig o £10 miliwn ychwanegol i ddigartrefedd ieuenctid, gyda'r bwriad o ddileu hynny mewn 10 mlynedd gyda £10 miliwn. Roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi roi ychydig mwy o fanylion am hynny, oherwydd fe ofynnais i Llamau, y mae'n ymddangos yw'r unig sefydliad sy'n gysylltiedig â'r cyhoeddiad...
Bethan Sayed: Tybed a allwn ni gael datganiad gan Ysgrifennydd yr amgylchedd ynglŷn â dosbarthu gorlifdiroedd yng Nghymru. Bydd pobl yn ymwybodol, yr wythnos diwethaf, a thros gyfnod y Nadolig, mewn gwirionedd, bu llawer mwy o broblemau draenio yn ardal Baglan Moors, sef yr ardal sy'n cael ei chynnig ar gyfer adeiladu'r carchar. Mae llu o weithwyr Drainforce wedi bod yno. Mae trigolion wedi anfon lluniau...
Bethan Sayed: Diolch am y briff a roesoch imi ddoe, roedd yn ddefnyddiol. Rwyf wedi bod falch o gefnogi’r ymdrechion hyn yn y gorffennol, fel y mae Plaid Cymru, pan oeddem yn ymgyrchu am hyn—cyn-Aelodau Cynulliad fel Lindsay Whittle a llawer o Aelodau Cynulliad o bob plaid wleidyddol. Rwy’n meddwl ei bod yn hollbwysig datgan, o'r cychwyn cyntaf, nad wyf o blaid cosbi rhieni am ddisgyblu eu plant, ac...
Bethan Sayed: Hoffwn i ddweud ei fod yn bleser gyda ni i gael y ddadl yma heddiw, ond yn anffodus mae'n rhywbeth nad ydym yn hapus i'w gael fel trafodaeth yma heddiw, oherwydd ni ddylai rhywbeth fel digartrefedd fodoli yn ein cymdeithas ni, o feddwl bod ein cymdeithas yn un o'r rhai mwyaf cyfoethog yn y byd. Rwy'n credu bod digartrefedd yn adlewyrchu yn wael ar gymdeithas, a dylem ni wneud mwy yn ein gallu...
Bethan Sayed: Mae camau gweithredu Llywodraeth Cymru hyd yma wedi bod yn gymysg wrth ymateb i'r argyfwng cynyddol hwn. Er ein bod wedi gweld peth deddfwriaeth solet sy'n flaengar ac yn ataliol a photiau o arian wedi'u cyhoeddi dros y blynyddoedd, mae angen edrych yn fwy trylwyr ar sut y gallwn newid a gwella ein polisïau. Er enghraifft, fel y dywedais ddoe, nid yw cyhoeddi potiau o arian cyn y Nadolig...
Bethan Sayed: Diolch i chi, a diolch i bawb am gyfrannu. Roeddwn yn meddwl ei bod yn ddadl ystyriol a diddorol. Fe ddechreuaf gyda'r hyn rwy'n cytuno ag ef: yr hyn a ddywedodd y Gweinidog mewn perthynas â'r comisiwn. Rwy'n cytuno na fyddai angen unrhyw oedi wrth weithredu gwaith yn y dyfodol ar y maes hwn, ac o glywed yr hyn a ddywedodd David Melding mewn perthynas â thai yn gyntaf, beth sydd o'i le...
Bethan Sayed: Yr hyn na chlywais gydag argyhoeddiad gan y Gweinidog, mae arnaf ofn, yw'r mater sy'n ymwneud â chlustnodi arian Cefnogi Pobl. Clywsom Leanne Wood yn ymyrryd ac yn gofyn i chi a oeddech wedi penderfynu clustnodi. Cawsoch eich gwthio i egluro ond rydych yn dal i fod heb benderfynu. A chredaf y byddai'r rhai yn y sector a ninnau ar y meinciau hyn yn bryderus ynglŷn â hynny, oherwydd o...
Bethan Sayed: 5. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y gall Llywodraeth Cymru wella sicrwydd ariannol ar gyfer pobl yng Nghymru? OAQ51579
Bethan Sayed: Diolch. Mae marchnad fwy eang ar gyfer undebau credyd mewn gwledydd datblygedig eraill. Rŷm ni'n edrych ar Iwerddon: 77 y cant y flwyddyn diwethaf; a 50 y cant yn yr Unol Daleithiau. Mae'r ffigurau i Gymru o ran aelodaeth undebau credyd: 69,000 o aelodau yma, ond 561,000 yng Ngogledd Iwerddon ynddo'i hun. Tybed a fedrai Llywodraeth Cymru wneud mwy i hwyluso datblygiad undebau credyd yng...
Bethan Sayed: Mae tro cyntaf i bopeth.
Bethan Sayed: Tybed a allem ni gael datganiad o ran y cynnig gofal plant. Rwyf wedi clywed—nid gan etholwyr; yn fy swydd fel deiliad y portffolio—bod canllawiau ariannu Llywodraeth Cymru ynghylch y cynnig gofal plant bellach wedi newid i adlewyrchu'r rhai yn Lloegr, sy'n golygu na fydd gwarchodwyr plant cofrestredig mwyach yn gallu cynnig lleoedd gofal plant a ariennir, i berthynas. Roedd y rheoliadau...
Bethan Sayed: Yn y dyfodol, yn ogystal â gwasanaethau cyngor a chymorth, dylem edrych yn gyntaf ar gartrefi mwy clyfar a mwy effeithlon. Rwy'n deall bod safon ansawdd tai Cymru wedi mynnu effeithlonrwydd gwell mewn tai cymdeithasol, ond mae angen i ni edrych ar ddull gweithredu ehangach. Mae'r Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe wedi creu cynllun ar gyfer cartrefi fel gorsafoedd...
Bethan Sayed: Roeddwn eisiau parhau â'r cwestiwn mewn perthynas â'r gofrestr cam-drin anifeiliaid. Yn amlwg, rydym wedi mynd yn bell yn y maes penodol hwn gyda'r gweithgor a arweinir gan RSPCA, ond tybed a oeddech wedi ystyried fy mhryderon y tro diwethaf ynglŷn ag a fyddai'r rhai a ddechreuodd yr ymgyrch, megis lloches anifeiliaid Tŷ Nant a Maxine Berry o Justice for Chunky, yn rhan o'r gweithgor...
Bethan Sayed: Prif Weinidog, bydd Llywodraeth yr Alban, yn rhan o Gomisiwn Smith, yn gweld mwy o bwerau eto dros les yn cael eu datganoli i'w Llywodraeth. Yn y gorffennol, mae eich Llywodraeth wedi dweud nad ydych chi eisiau cael pwerau dros les oherwydd y goblygiadau cost, ond, fel rydym ni wedi wedi ei ailadrodd dro ar ôl tro mewn dadleuon yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, fe'n harweiniwyd i...
Bethan Sayed: Ond nid dyna ddywedais i.
Bethan Sayed: Cawsom ddatganiad ysgrifenedig yn ystod yr ychydig ddiwrnodau diwethaf ar gaffael dur, ac rwy'n croesawu hynny. Ond roeddwn i'n meddwl tybed a allem ni gael datganiad ysgrifenedig neu lafar ar elfennau eraill y cytundeb â Phlaid Cymru a wnaethom o ran y diwydiant dur, yn benodol ar gyllid ar gyfer gwaith pŵer? Rwy'n awyddus i wybod beth yw'r sefyllfa ynglŷn â hyn. Yn ystod yr wythnos...
Bethan Sayed: Fe sonioch eich bod yn cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy'n meddwl tybed pa Weinidogion eraill rydych yn ymgysylltu â hwy. Rwy'n meddwl yn benodol ynglŷn â chanfod cynnar, ac arwyddion o ymddygiad yn rhywun a fyddai'n cam-drin anifail, er enghraifft. Rwyf wedi codi hyn o'r blaen gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd, oherwydd mae ymchwil yn dangos, os ydynt yn cam-drin...
Bethan Sayed: Roeddwn yn meddwl tybed a allech wneud gwaith i edrych ar sut y mae menywod sydd wedi cael plant ac wedi dod yn ôl i weithio yn dioddef gwahaniaethu. Cyn i Siân gael y ddadl hon, dywedodd un o aelodau ein plaid ei bod wedi wynebu gwahaniaethu lle na allai gael dyrchafiad yn ei gweithle oherwydd y math hwnnw o—weithiau gan fenywod di-blant neu fenywod nad ydynt yn deall yr heriau hynny....
Bethan Sayed: Prif Weinidog, mae galwadau i weithredu wedi'u cynnwys yn eich contract economaidd, y bydd yn ofynnol i fusnesau eu dilyn os byddant eisiau cael cymorth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Ond nid oes yr un o'r galwadau hynny i weithredu yn ymwneud yn benodol â mynnu cyflog byw nac unrhyw fathau o gymhellion ynghylch cyflogau yn benodol. O gofio bod Cymru yn wlad cyflog isel, â chyflogau...