Lynne Neagle: A gaf fi ofyn pa drafodaethau y bydd y Gweinidog yn eu cael gyda'r Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a pha sicrwydd y gallwch ei roi fod sicrhau cyllid digonol ar gyfer ein hysgolion yn flaenoriaeth i chi?
Lynne Neagle: Credaf ei bod yn anodd i unrhyw beidio â chael ei ysbrydoli, mewn gwirionedd, gan yr hyn a welsom y penwythnos hwnnw. Roedd yn llwyddiant ysgubol a hanesyddol ac roeddwn yn arbennig o falch fod dau o'r meysydd a nodwyd fel blaenoriaethau—sgiliau bywyd yn y cwricwlwm ac iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc—yn faterion y mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg eisoes wedi...
Lynne Neagle: Prif Weinidog, mae colli rhywun annwyl i hunanladdiad yn brofedigaeth unigryw o ddinistriol yn fy marn i, ac eto nid yw gwasanaethau cymorth i'r rhai sy'n dioddef profedigaeth drwy hunanladdiad yn bodoli i raddau helaeth yng Nghymru. Mae sefydliadau fel Sefydliad Jacob Abraham yn gwneud gwaith rhagorol yn cefnogi teuluoedd heb geiniog o arian cyhoeddus. Ceir patrwm hefyd yr wyf i'n ei weld yn...
Lynne Neagle: 2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau fydd yn cael eu rhoi i ysgolion ym mis Ebrill ynghylch trafod hunanladdiad? OAQ53576
Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effeithiolrwydd y broses gwynion yng Nghymru ar gyfer pobl sy'n anfodlon â'r driniaeth a gawsant gan y GIG?
Lynne Neagle: A yw'r Prif Weinidog yn cytuno na allai'r Undeb Ewropeaidd fod wedi dweud yn gliriach nad oes posibilrwydd o ailnegodi pellach, ac felly, fod tri opsiwn sylfaenol gennym: gadael heb unrhyw gytundeb, a fyddai'n drychinebus; cefnogi cytundeb y Prif Weinidog, rhywbeth y mae Tŷ'r Cyffredin yn gwrthod ei wneud; neu gynnal pleidlais y bobl? Ac a yw'n cytuno bod hynny yr un mor wir i hyrwyddwyr...
Lynne Neagle: Diolch, Weinidog. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd y canllawiau a argymhellwyd gan 'Cadernid Meddwl' yn cael eu cyhoeddi ym mis Ebrill. Rwy'n croesawu eich ymrwymiad hefyd i weithio gyda'r grŵp cynghori i sicrhau bod y canllawiau'n cael eu hyrwyddo'n helaeth. Fodd bynnag, fel y gwyddoch, i lawer o athrawon, am resymau dealladwy, maent yn amharod i siarad am hunanladdiad. Mae'n hanfodol felly...
Lynne Neagle: 2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am baratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit heb gytundeb? OAQ53629
Lynne Neagle: Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Ac yn wir, fe fyddai Brexit 'dim bargen' yn drychinebus i Gymru, a dyna un o'r rhesymau pam y byddaf yn falch o orymdeithio ddydd Sadwrn dros bleidlais y bobl, i geisio atal trychineb pellach. [Torri ar draws.] Na, na; pleidlais y bobl ar fargen Brexit, gydag opsiwn i aros. Fel y gwyddoch, un o fy mhrif bryderon mewn perthynas â Brexit yw'r effaith ar y cannoedd...
Lynne Neagle: Diolch ichi, Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Gradd ar Wahân?', sy'n trafod effaith Brexit ar addysg uwch ac addysg bellach. Bydd Aelodau'r Siambr hon yn gwbl ymwybodol o fy safbwyntiau ar Brexit, ond ar ddechrau'r ddadl hon, mae'n bwysig i mi bwysleisio fy mod yn cyfrannu y prynhawn yma fel Cadeirydd y pwyllgor. Mae'r...
Lynne Neagle: Mae'n anodd gwybod ble i ddechrau dadl ar effaith Brexit pan fo cymaint yn dal yn aneglur, ond nid wyf am inni ganolbwyntio ein trafodaethau ar i ba raddau rydym yn cytuno â Brexit neu ar y pleidleisiau sy'n digwydd yn Senedd y DU. Yn hytrach, ein nod wrth gyflwyno'r ddadl hon heddiw yw trafod yr effaith bosibl y gallai Brexit ei chael ar fyfyrwyr a darparwyr addysg yng Nghymru, yn seiliedig...
Lynne Neagle: Oherwydd y camau hyn ar lefel y DU, efallai na fydd angen yr argymhelliad penodol a wnaed gan y pwyllgor mwyach, ond mae'r egwyddorion sy'n sail iddo yn parhau'n bwysig. Yn ei hymateb diweddar, amlinellodd y Gweinidog y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud yn ceisio cyfrannu at, a llywio datblygiad polisi mewnfudo yn y DU. Mae'n destun pryder, fodd bynnag, fod safbwynt y...
Lynne Neagle: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi siarad yn y ddadl heddiw. Gwerthfawrogir eich cyfraniadau'n fawr, gan gynnwys cyfraniad y Gweinidog. A gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i'r holl sefydliadau a fu'n ymwneud â'n hymchwiliad ac sydd wedi darparu tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig mor graff, a hoffwn fachu ar y cyfle hefyd i ddiolch i'n tîm clercio ac...
Lynne Neagle: 2. Pa asesiad y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i wneud o'r pwysau ariannol sy'n wynebu'r trydydd sector yng Nghymru? OAQ53688
Lynne Neagle: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am baratoadau ar gyfer pleidlais y bobl ar gytundeb terfynol Brexit?
Lynne Neagle: Gweinidog, roeddwn i'n falch iawn ddydd Sadwrn o orymdeithio â miliwn neu fwy o ddinasyddion y Deyrnas Unedig, gan gynnwys miloedd lawer o bobl o Gymru. Rwy'n siŵr y byddwch chithau hefyd wedi gweld y 5.5 miliwn o bobl sydd wedi llofnodi'r ddeiseb yn galw am ddirymu erthygl 50. O ystyried yr adlach ddemocrataidd ddigynsail o ran y mater hwn, a ydych chi'n cytuno â mi ei bod yn bryd erbyn...
Lynne Neagle: Diolch ichi, Dirprwy Weinidog. Un o'r themâu clir a ddaeth i'r amlwg i mi yn ymchwiliadau diweddar y pwyllgor oedd bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn dibynnu fwyfwy ar sefydliadau'r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau ond nad ydynt yn aml yn darparu cyllid cynaliadwy ar gyfer y gwasanaethau hynny. Mae hyn wedi digwydd yn ymchwiliadau'r pwyllgor plant ar iechyd meddwl amenedigol, ar...
Lynne Neagle: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y pwysau ariannu mewn llywodraeth leol? OAQ53674
Lynne Neagle: Weinidog, yn sgil cyni'r Torïaid, nid oedd dewis gan gyngor Torfaen ond cynyddu'r dreth gyngor eleni er mwyn diogelu gwasanaethau hanfodol, sef gofal cymdeithasol ac addysg. Rwy'n falch iawn fod gennym, yn Nhorfaen, gyngor Llafur sy'n barod i wneud y penderfyniadau hynny i ddiogelu ein gwasanaethau lleol. Nid yw arweinydd UKIP yn gwybod dim am y pwysau ariannol sy'n wynebu'r awdurdod lleol...
Lynne Neagle: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn allu croesawu'r ddadl heddiw gan y Ceidwadwyr Cymreig oherwydd rwy'n credu bod llywodraeth leol yn wynebu ei chyfnod anoddaf ers datganoli yn 1999, ond anwybyddu'r eliffant yn yr ystafell fyddai diolch i'r Torïaid am y cyfle i siarad am hyn oherwydd mai eu hagenda cyni hwy, y dewis gwleidyddol hwnnw i amddifadu gwasanaethau o gyllid, sydd wedi arwain at y...