David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, gwn y bydd yr Aelodau’n falch o glywed bod adolygiad annibynnol wedi canfod bod pob £1 a fuddsoddwyd wedi arwain at oddeutu £3 mewn arbedion. Mae hynny’n wirioneddol dda ac yn arwydd o gryn arloesedd. Rydym yn awyddus i weld mwy o hynny. Fodd bynnag, 0.4 y cant yn unig o fuddsoddiad o bron £14 miliwn y mae tai wedi’i gael o dan y cynllun hyd yn hyn. Tybed a...
David Melding: Mae’n rhaid i mi ddweud bod llawer o’r dadleuon hyn yn gyfarwydd iawn. Rwy’n credu bod y rhai ohonom sydd wedi gwasanaethu ers 1999 yn cael ein galw’n ‘garcharorion oes’ yn y Cynulliad—[Chwerthin.]—ac mae’n teimlo felly weithiau. Gwelaf fod dau garcharor oes arall yn y Siambr. Yn wir, etholwyd Dr Lloyd yn gyntaf yn 1999, ond oherwydd ei ymddygiad da, cafodd gyfnod byr o...
David Melding: Yn y rhaglen gyflenwi, rydych chi’n dweud y bydd dadansoddiad pellach o ddulliau eraill yn lle iawndal yng Nghymru, ac rwyf yn gofyn i chi adolygu’r cam i ddileu’r terfyn uchaf. Fe glywsom ni dystiolaeth glir gan yr undebau ffermio y bydd hyn yn cael effaith wael ar fuddsoddiad ac yna ansawdd y gwartheg. Ac mae'n doriad eithaf llym o £15,000 i £5,000. Rydych chi’n iawn nad yw'n...
David Melding: 2. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o’r effaith y bydd cynyddu cyfranogiad rhieni yn ei chael ar lefelau cyrhaeddiad mewn ysgolion? (OAQ51127)
David Melding: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n ofynnol i ysgolion gynnwys manylion yn eu cynlluniau datblygu ynglŷn â sut y byddai’r corff llywodraethu yn ceisio bodloni targedau gwella ysgolion ar gyfer y flwyddyn drwy weithio gyda theuluoedd disgyblion yn yr ysgol. Mewn arolwg gan PTA Cymru, canfuwyd mai 66 y cant yn unig o rieni a ddywedodd fod ysgol eu plentyn yn cyfathrebu’n dda â hwy, o...
David Melding: Rwy’n gobeithio nad y caneri yw cinio’r gath. Mae’r daith rydych yn ei gwneud yn swnio’n ddiddorol. Fel Tori ofnadwy o faleisus, rwy’n amheus o nwyddau am ddim, ac wrth gwrs, un o’r nwyddau rhataf sydd gennym yw’r ffyrdd. Pan fyddwn yn gwneud buddsoddiad cyhoeddus gwirioneddol enfawr fel hyn, rwy’n credu bod angen inni edrych ar yr holl dystiolaeth a rhagweld beth sy’n...
David Melding: Prif Weinidog, rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i ganmol gwaith y Wallich. Mewn adroddiad diweddar a lansiwyd yn y Cynulliad yr wythnos diwethaf, rwyf wedi canfod y bu cynnydd i’r rhai sy’n cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd ac Abertawe a bod y rhai sy'n cysgu ar y strydoedd 70 gwaith yn fwy tebygol o farw o gamddefnyddio sylweddau ac 11 gwaith yn fwy tebygol o farw o ganlyniad i...
David Melding: Rwy’n cytuno â’r Aelod. Credaf fod defnyddio Deddf cenedlaethau’r dyfodol yn ffordd bwysig o asesu’r gwahanol opsiynau ger ein bron. Ymddengys i mi fod y tri llwybr i liniaru tagfeydd ar yr M4 yng Nghasnewydd yn cynnig eu hunain i ddull o’r fath, a byddai’r dadansoddiad cymharol hwnnw, gan fod angen inni wneud rhywbeth, yn ddefnyddiol iawn tu hwnt.
David Melding: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Yn wir, yng ngoleuni ailddosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i'r sector cyhoeddus, mae Plaid Geidwadol Cymru yn credu y dylid cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Yn amlwg, byddwn yn rhoi sylw manwl i'r manylion yn y pwyllgor, ond rwy’n credu mai’r farn wleidyddol gyffredinol yw...
David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd, ac rwy'n falch o gynnig gwelliant 3 yn enw Paul Davies. Mae hi’n gamp nodedig fod Cymru'n wlad flaenllaw mewn ymdrechion byd-eang i gynyddu cyfraddau ailgylchu, ac mae hyn yn gydnabyddiaeth o waith a phenderfyniad Llywodraeth Cymru, y Cynulliad Cenedlaethol, cynghorau lleol ac, yn wir, i bobl ledled Cymru sydd wedi ymateb i'r her hon gyda brwdfrydedd. Rwy’n...
David Melding: Os bydd hynny'n symud pethau yn eu blaenau, efallai bod hynny er gwell wedi’r cwbl. Wrth gefnogi gwelliant 4, nid ydym yn cymeradwyo mewn unrhyw ffordd yr ymdriniaethau o ran cyllideb sydd wedi digwydd. Nid oes gen i syniad pa gyfaddawdau sydd wedi bod, felly nid wyf i’n mynd i fod â rhan yn hynny o gwbl. Fe fyddwn ni’n gwrthwynebu gwelliant 5 mewn gwirionedd oherwydd, er ein bod yn...
David Melding: Nid oes gennyf amser i ymhelaethu ar ein brwdfrydedd am gynllun adneuo, ond bydd gennym ddiddordeb mawr yn yr hyn sy'n digwydd gyda'r ymgynghoriad ar hyn o bryd. Efallai y bydd modd i’r Gweinidog ddweud rhywbeth am hynny wrth gloi. A, hefyd, sut y bydd y cynllun peilot yn cael ei gynnal—byddwn yn gwerthfawrogi pe byddai hi'n rhoi mwy o fanylion neu yn ysgrifennu ataf i am hynny. Eto,...
David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe, buoch yn sôn am, ac yn wir, pleidleisiodd eich plaid o blaid treth ar blastigau na ellir eu hailddefnyddio ac na ellir eu hailgylchu yng Nghymru. Tybed a allwch roi rhywfaint o eglurhad inni ynghylch manylion ac ymarferoldeb y bwriad hwn a sut y gallech fwrw ymlaen â hynny, neu ai rhyw sicrwydd amwys i Blaid Cymru ydoedd fod ganddynt...
David Melding: Rwy’n ffyddiog y byddwch yn cynnal asesiad llawn, oherwydd yn y gorffennol, rydych wedi dweud bod angen i gynllun dychwelyd blaendal asesu goblygiadau hynny i filiau’r cartref o ddydd i ddydd, ac a allwch roi sicrwydd inni, mewn unrhyw dreth newydd y gallech fod yn ei hystyried, unwaith eto, y byddai’r effaith y byddai hynny’n ei chael ar filiau’r cartref yn cael ei hystyried yn llawn?
David Melding: Rwy’n cytuno â hynny, ac mae’n bwysig iawn, ond mae’r modd y defnyddir unrhyw dreth yn bwysig hefyd. Fel rwyf wedi’i ddweud eisoes, yn dechnegol, gellir ailddefnyddio cynhwyswyr bwyd polystyren. Credaf fod angen inni fod yn fanwl iawn o ran y camau rydym yn ceisio’u cymryd i sicrhau canlyniadau o ran lleihau llygredd o blastigion. Tybed a fyddech yn agored i gynnig mwy radical, un...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr y byddwch yn croesawu’r cap ar brisiau ynni a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn ogystal â’r broses barhaus o gyflwyno mesuryddion deallus. Credaf fod gan fesuryddion deallus rôl enfawr i’w chwarae yn rhoi mwy o reolaeth i berchnogion tai dros faint o ynni y maent yn ei ddefnyddio, a’u hannog hefyd i newid darparwr. Fodd bynnag, mae rhywfaint o...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, ymwelais â’r tŷ Solcer ym Mhen-y-bont ar Ogwr fel rhan o waith y pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, ac roeddwn yn frwdfrydig iawn i weld y posibilrwydd o adeiladu cartrefi sydd erbyn hyn yn cynhyrchu mwy o ynni nag y maent yn ei ddefnyddio mewn gwirionedd. Nawr, mae’r tŷ hwnnw’n costio tua dwywaith cymaint â thŷ wedi ei...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n cytuno â’r Aelod sydd newydd ofyn y cwestiwn fod angen edrych yn ofalus ar amddiffyn tenantiaid. Yn Lloegr, o ganlyniad i Ddeddf Dadreoleiddio 2015, ni all landlordiaid gyflwyno hysbysiadau adran 21 i breswylwyr os yw’r adeilad o safon wael ac os nad yw’n bodloni safonau deddfwriaethol. Ymddengys efallai fod hon yn ffordd briodol yn awr o reoleiddio’r...
David Melding: Mae’n bleser cael cefnogi’r cynnig hwn ac rwy’n falch fod y dadleuon Aelodau unigol yn parhau i ddod â syniadau diddorol iawn i’r Cynulliad, a syniadau sydd at ei gilydd yn cael cefnogaeth drawsbleidiol. Rwy’n credu ein bod i gyd yn ymwybodol iawn o’r cysylltiadau agos rhwng lefelau uchel o dagfeydd a llygredd aer, ac rwy’n credu y bydd cerbydau trydan yn cynnig ffordd i...
David Melding: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd yn y niferoedd sy'n cysgu ar y stryd yng Nghanol De Cymru?