Canlyniadau 281–300 o 400 ar gyfer speaker:Samuel Kurtz

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (10 Ion 2023)

Samuel Kurtz: Diolch, Llywydd. Blwyddyn newydd dda i chi ac i bawb.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (10 Ion 2023)

Samuel Kurtz: Dau ddatganiad, os caf i, Llywydd. Yn dilyn gohebiaeth ysgrifenedig gennych chi'ch hun, Gweinidog, rwy'n gofyn am ddatganiad am gynnydd syfrdanol mewn ffioedd a thaliadau rheoleiddiol Cyfoeth Naturiol Cymru. Fel y gwyddoch chi, bydd y tâl arfaethedig ar gyfer gwaredu dip defaid yn codi deg gwaith, gydag CNC yn darparu dim tystiolaeth yn sail i'r cynnydd hwn. Hefyd, bydd y tâl am drwyddedau...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Prosiectau Egni Adnewyddadwy Lleol (11 Ion 2023)

Samuel Kurtz: Weinidog, rwy'n cytuno â llawer o'r hyn rydych chi'n ei ddweud yno, felly byddai'n wych pe baech yn ymuno â ni nos Fawrth, oherwydd mae Cefin a minnau, Jane Dodds a Joyce Watson yn cynnal derbyniad nos Fawrth yma yn y Senedd o'r enw 'Derbyniad Clwstwr Ynni'r Dyfodol yn Nyfrffordd y Ddau Gleddau', i ganolbwyntio ar ynni gwynt arnofiol ar y môr a'r cyfleoedd sydd ar gael i ni yn sir Benfro,...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (11 Ion 2023)

Samuel Kurtz: Diolch, Llywydd. Blwyddyn newydd dda i chi, Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod yr un mor bryderus â minnau am y gostyngiad yn y defnydd o'r Gymraeg yn yr adroddiad a ddisgrifiwyd yng nghanlyniadau cyfrifiad 2021. Yn eich ymateb i gwestiwn gan Heledd Fychan ar y pwnc cyn y Nadolig, dywedaist ti fod rhai ffynonellau data yn dangos cynnydd yn y defnydd o'r Gymraeg, tra bod eraill, gan gynnwys y...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (11 Ion 2023)

Samuel Kurtz: Diolch i chi am eich ateb. Mae'n bwysig i ni yma, a phawb sydd eisiau i'r iaith lwyddo, ymddiried a gallu craffu ar y polisïau a'r data a ddefnyddir i'w cefnogi. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio data i fesur llwyddiant eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, neu'r WESPs, fel y clywom ni yn gynharach. Os yw'r data yn annibynadwy, fe allai rwystro eu hymdrechion i ddatblygu mwy o...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (11 Ion 2023)

Samuel Kurtz: Diolch, Weinidog. Mae'r ddau ohonom ni eisiau i'r Gymraeg gael ei defnyddio'n hyderus ac yn naturiol ym mhob sefyllfa, megis yn y Senedd hon, ar y stryd neu yn y dosbarth. Yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn digwydd. Er enghraifft, dim ond ar-lein y gellid cynnal cyfarfod cyngor llawn olaf sir Benfro ym mis Rhagfyr oherwydd nad oedd gwasanaethau cyfieithu amser real ar gael. Yn ogystal, mae...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ad-drefnu canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru (11 Ion 2023)

Samuel Kurtz: Diolch, Lywydd. Mae'n bleser mawr cael cau'r ddadl hon y prynhawn yma oherwydd fe glywsom gefnogaeth drawsbleidiol go iawn i rywbeth y credaf ei fod yn unigryw Gymreig. Mae'r Cymry'n ymfalchïo'n fawr yn y ffaith bod gennym berchnogaeth ar elusen sy'n effeithio ac sy'n gallu effeithio a dylanwadu ar fywydau pawb ym mhob cwr o'r wlad wych hon. Wrth agor y ddadl, siaradodd Russell am y...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ad-drefnu canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru (11 Ion 2023)

Samuel Kurtz: Clywsom gan Mabon a'i awydd i fod yn ffrind beirniadol yma, oherwydd mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei garu, felly rydym eisiau bod yn gefnogol o ran sut y gallwn sicrhau bod hyn ar gael i'r pedair rhan o Gymru, ac yn enwedig canolbarth a gogledd Cymru hefyd. Unwaith eto, soniodd am y straeon personol, a stori Mr Wilkes a Nia a'r llwyddiant yn sgil trasiedi Mr Wilkes, llwyddiant i gael canolfan...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Prosiectau Ynni Adnewyddadwy (17 Ion 2023)

Samuel Kurtz: 1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy yn y môr Celtaidd? OQ58979

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Prosiectau Ynni Adnewyddadwy (17 Ion 2023)

Samuel Kurtz: Diolch, Prif Weinidog. Ac a gaf i ddechrau drwy groesawu grŵp arweinyddiaeth wledig cymdeithas amaethyddol frenhinol Cymru sydd yn yr oriel gyhoeddus y prynhawn yma? Prif Weinidog, heno, mae gen i'r anrhydedd enfawr o gynnal derbyniad trawsbleidiol yn y Neuadd ar glwstwr ynni'r dyfodol Dyfrffordd y Ddau Gleddau. Mae'n dod â phrif gwmnïau ynni traddodiadol Dyfrffordd y Ddau Gleddau ynghyd...

12. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) (17 Ion 2023)

Samuel Kurtz: Rhaid i mi gyfaddef, mae gen i ofn bod yn rhaid i mi anghytuno â'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru ynghylch pam eu bod nhw wedi gosod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw ac rwy’n credu bod hyn yn wastraff amser y Senedd, ac nid fi yw'r unig un sy'n credu hynny. Mae manylion technegol y Bil, fel sydd wedi’u nodi yn atodiad A y nodiadau esboniadol, yn nodi'n glir nad yw Llywodraeth...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (18 Ion 2023)

Samuel Kurtz: A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar bolisi premiwm treth gyngor Llywodraeth Cymru?

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (18 Ion 2023)

Samuel Kurtz: Diolch, Lywydd. Weinidog, ym mis Medi 2021, fe gyhoeddoch chi y byddai'r cynllun taliad sylfaenol a chyllid Glastir ar gyfer Glastir uwch, tir comin a ffermio organig yn parhau tan fis Rhagfyr eleni, 2023. Yn gwbl briodol, rydych wedi pwysleisio o'r cychwyn na fydd ffermwyr Cymru'n wynebu dibyn ariannol cyn y cynllun ffermio cynaliadwy newydd yn 2025. Ar hyn o bryd mae gan Lywodraeth Cymru...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (18 Ion 2023)

Samuel Kurtz: Diolch. Rwy'n gwybod y bydd yna ffermwyr yng Nghymru sydd wedi cofrestru ar gynllun Glastir yn croesawu'r alwad honno. Yn ystod y cyfyngiadau symud, gwelsom gynnydd y ffermwr ddylanwadwr ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Gyda chyfres newydd ITV Wales, Born to Farm, a phresenoldeb seren TikTok Farmer Will—rwy'n siŵr eich bod i gyd yn ei adnabod—yn fila Love Island, mae ffermio a...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (18 Ion 2023)

Samuel Kurtz: Gwych. Byddaf yn anfon yr wybodaeth honno at brif weithredwr newydd CFfI Cymru, sy'n dechrau'n fuan iawn. Ond os ydym am ddenu newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant, Weinidog, mae'n rhaid inni sicrhau bod diogelwch a lles wedi'i ymgorffori yng ngwaith y sector. Mae ystadegau gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn dangos mai amaeth, ynghyd â choedwigaeth a physgota, sydd â'r gyfradd...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ynni adnewyddadwy ar y môr (18 Ion 2023)

Samuel Kurtz: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi ymateb i'r Gweinidog o'r blaen ar ddadl lle roeddwn yn cytuno â chymaint o'r hyn a ddywedai, ac am 30 eiliad y prynhawn yma, roeddwn yn cytuno â bron 100 y cant ohono, ac yna, Weinidog, teimlwn eich bod chi wedi methu deall nod yr hyn y ceisiem ei wneud gyda'r ddadl hon y prynhawn yma, a natur gydsyniol yr hyn y mae'n ei wneud. Neithiwr ddiwethaf, roedd...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ynni adnewyddadwy ar y môr (18 Ion 2023)

Samuel Kurtz: Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad gan yr Aelod dros Orllewin De Cymru.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ynni adnewyddadwy ar y môr (18 Ion 2023)

Samuel Kurtz: Yn sicr. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am ei ymyriad, ac rwy'n rhannu ei bleser ynghylch y cyhoeddiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Byddai wedi bod yn braf pe bai'r Gweinidog wedi crybwyll hynny yn ei datganiad yn gynharach, i gefnogi rhywbeth cadarnhaol. Nid wyf yn un i gilio rhag dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhywbeth da ar ryw bwynt—nid yw'n digwydd yn aml, rwy'n...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ynni adnewyddadwy ar y môr (18 Ion 2023)

Samuel Kurtz: Mae'n ddrwg gennyf, Weinidog, nid wyf yn bod yn nawddoglyd—[Torri ar draws.] Nid wyf yn bod yn nawddoglyd. Cynhyrchodd y DU 3 y cant yn unig o'r allbwn carbon deuocsid dynol byd-eang, ond eto, fel y dywedodd Andrew R.T. Davies, mae gennym ni'r ffarm wynt ar y môr fwyaf, yr ail fwyaf, y drydedd fwyaf a'r bedwaredd fwyaf. Rwy'n credu y dylem fod yn eithriadol o falch o'r hyn a gyflawnwyd...

9. Dadl Fer: Datblygu sector ynni hydrogen yng Nghymru (18 Ion 2023)

Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders, am roi munud o'i hamser i mi. Rwy'n falch iddi sôn am RWE yn fy etholaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro a'u prosiect hydrogen. Byddwn yn falch iawn o'ch croesawu i lawr i Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Janet, i weld prosiect arloesol RWE, ac estynnaf y gwahoddiad hwnnw i'r Gweinidog Newid Hinsawdd...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.