Delyth Jewell: Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Rwy'n siŵr, fel y mae newydd ei ddweud, ei fod wedi bod yn dilyn nid yn unig canlyniad etholiad yr Unol Daleithiau, ond y sylw diddorol sydd wedi bod iddo yn y cyfryngau. Rwyf i wrth fy modd â buddugoliaeth y Democratiaid yn erbyn Llywydd gwaethaf yr Unol Daleithiau mewn hanes, yn ôl pob tebyg, ac rwy'n falch bod y Prif Weinidog wedi ymuno â mi i...
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Rydym ni wedi cyflwyno'r gwelliannau hyn i newid y system bleidleisio mewn llywodraeth leol i un tecach. Mae'r dadleuon wedi'u trafod o'r blaen, ac ymddiheuraf i aelodau'r pwyllgor sydd efallai wedi fy nghlywed yn cyflwyno'r dadleuon hyn o'r blaen, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig eu datgan eto nawr. Mae system y cyntaf i'r felin wedi creu llawer o ganlyniadau annemocrataidd....
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Wel, diolch i bawb am gymryd rhan yn y ddadl. Mae'n siomedig i glywed bod y Llywodraeth yn colli cyfle unwaith eto i greu system bleidleisio decach, a byddwn ni'n gwthio ein gwelliannau yma i bleidlais. Diolch.
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Mae'n bleser cael arwain y ddadl ar y grŵp yma a chynnig yn ffurfiol y pedwar gwelliant sydd yn y grŵp—y pedwar ohonynt wedi cyflwyno yn fy enw i ar ran Plaid Cymru. Pedwar gwelliant sydd i gyd mewn dwy set, sef gwelliannau 158 a 159, a gwelliannau 165 a 166. Bwriad y set gyntaf hon yw dileu'r anomali yn y gyfraith sy'n golygu nad ydy swyddogion canlyniadau etholiadau, na...
Delyth Jewell: Oes. Diolch, Llywydd. Diolch i'r Gweinidog am hynny. Rwyf yn siomedig i glywed bod y Gweinidog yn dweud bod y Llywodraeth yn barod i gytuno mewn egwyddor, ond ddim yn fodlon gweithredu ar hyn yn syth yn y dull dŷn ni'n rhoi ymlaen. Ond rwyf yn clywed beth mae'n ei ddweud, ac mae rhai pethau yna, yn amlwg, rŷn ni yn croesawu. Buaswn i jest yn dweud eto fod y Llywodraeth wedi derbyn y...
Delyth Jewell: Symud.
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Rwy'n siarad am yr holl welliannau yn y grŵp hwn, sydd wedi eu cyflwyno yn dilyn trafodaethau gyda sefydliadau allanol, sydd, fel minnau, yn wastadol siomedig o ran y diffyg amrywiaeth mewn llywodraeth leol. Yng Nghyfnod 2 cyflwynais nifer o welliannau treiddgar ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gweithio gyda ni ar yr agenda hon, ni...
Delyth Jewell: Diolch i'r Gweinidog. Dwi'n cymryd y pwyntiau am y pethau a all ddigwydd fel canlyniad i'r gwelliannau sydd yn anfwriadol. Dwi yn croesawu rhai o'r pethau mae'r Gweinidog yn eu dweud, ond oherwydd pa mor bwysig yw'r egwyddorion hyn, byddwn ni yn gwthio'r gwelliannau yma i bleidlais. Diolch.
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Roeddem ni'n awyddus i gyflwyno gwelliannau i ddileu pŵer y Gweinidog i orfodi awdurdodau lleol i ffurfio cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae rhai o'r gwelliannau hynny wedi eu cyflwyno gan Mark Isherwood, felly mae ein gwelliannau ni yn welliannau canlyniadol i'r rhai hynny, ond fe'u cyflwynwyd gyda'r un bwriad polisi ac, wrth gwrs, maen nhw wedi'u drafftio gan y gwasanaethau...
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Yn gynharach yn y ddadl ac yng Nghyfnod 2, mae'r Gweinidog wedi gwneud pwyntiau am ganlyniadau anfwriadol a allai fod i rai gwelliannau, ac roeddwn wedi derbyn y pwynt hwnnw. Rwyf yn derbyn pwynt y Gweinidog yn y fan yma ei bod yn ddigon posibl mai bwriad y pŵer cyfyngedig hwn i orfodi awdurdodau lleol yw ei ddefnyddio mewn ystyr gyfyngedig iawn. Ond, unwaith eto, byddwn i'n...
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. I wanted to speak very briefly to this group of amendments and to welcome the Minister's commitment, given at Stage 2, to explore the potential for guidance to be issued that would strengthen the role of democratic services within local government, including the potential for a research service function, as has just been mentioned by Mark Isherwood. In that respect, amendment...
Delyth Jewell: Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i bob dyn a menyw sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd. Mae gwahaniaeth sylfaenol rhwng dathlu rhyfel a nodi aberth unigolion. Yr olaf y byddwn i'n dymuno ei wneud. Pan oeddwn yn gweithio fel ymchwilydd yn San Steffan, gweithiais yn agos gydag Elfyn Llwyd a'n cyfaill rydym yn gweld ei golli'n fawr, y diweddar Harry Fletcher, ar faniffesto ar gyfer...
Delyth Jewell: 'Celfyddyd o hyd mewn hedd—aed yn uwch / O dan nawdd tangnefedd; / Segurdod yw clod y cledd, / A rhwd yw ei anrhydedd.'
Delyth Jewell: Gellir aralleirio'r cwpled olaf yn llac fel, Mae cleddyf ar ei orau pan fo'n segur a'r rhwd arno sy'n ei wneud yn wych.
Delyth Jewell: Diolch, Lywydd. Weinidog, adroddwyd bod chwarter y rhai sy'n cysgu ar y stryd a gafodd le i aros yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf nôl yn cysgu ar y stryd. Pam fod hynny wedi digwydd?
Delyth Jewell: Wel, diolch am hynny, Weinidog. Hoffwn ategu eich teyrnged i'r gweithwyr yn y trydydd sector ac awdurdodau lleol am yr holl waith y maent wedi'i wneud ar hyn. Ac rwy'n falch eich bod wedi egluro'r sefyllfa. Yn amlwg, gallwch weld o ble y cawsom y ffigurau hynny. Ond rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaethoch hefyd ei bod yn amlwg fod un person sy'n dychwelyd i fyw ar y stryd yn un person yn ormod....
Delyth Jewell: Iawn. Diolch ichi am hynny, Weinidog. O ran y newid diwylliant sydd ei angen, yn amlwg, nid staff awdurdodau lleol, sy'n cynllunio ac yn comisiynu gwasanaethau, yn unig sydd angen y ddealltwriaeth honno a'r tosturi rydych newydd gyfeirio ato. Yn ddiweddar, mae—. Rydym wedi gweld sylwadau anffodus gan gynghorydd awdurdod lleol yng ngogledd Cymru sydd fel pe baent yn awgrymu nad oedd pobl...
Delyth Jewell: Rŷn ni fel plaid yn gefnogol o nifer o agweddau'r ddeddfwriaeth hon, yn enwedig y mesurau i estyn yr hawl i bleidleisio ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed a hefyd pobl sydd wedi dewis gwneud eu cartref yma yng Nghymru. Mae hynny i'w glodfori ac yn bwysig, a byddwn ni'n falch o bleidleisio o blaid y ddeddfwriaeth heno. Ond rhaid dweud bod cyfle hefyd wedi ei golli yma. Roedd cyfle i...
Delyth Jewell: Mae cymaint o realiti economaidd y Cymoedd yn ystod y 40 mlynedd diwethaf wedi deillio o ddinistrio'r diwydiannau glo a'r diwydiannau cysylltiedig yn fwriadol gan Lywodraeth Thatcher. Roedd y brad hwnnw fel daeargryn ac mae wedi arwain at sawl ôl-gryniad. Nid yw ein hysbryd cymunedol erioed wedi pylu, ond mae ein lefelau diweithdra'n dal yn ystyfnig o uchel ac mae ein canlyniadau iechyd yn...
Delyth Jewell: 2. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o gymal 49 o Fil Marchnad Fewnol y DU? OQ55917