Canlyniadau 301–320 o 2000 ar gyfer speaker:Alun Davies

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Academi Lywodraeth Genedlaethol (29 Tach 2017)

Alun Davies: Rydw i’n ystyried yr opsiynau ar gyfer symud ymlaen ar hyn fel rhan o’r cytundeb dwy flynedd ar y gyllideb gyda Phlaid Cymru. Mae Academi Wales yn darparu cymorth i’r Llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus ym meysydd arwain, llywodraethu, gwella a newid, ac yn datblygu perthynas tymor hir gyda sefydliadau academaidd allweddol.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Academi Lywodraeth Genedlaethol (29 Tach 2017)

Alun Davies: Rydw i'n falch iawn i ddweud bod Academi Wales wedi bod yn datblygu llu o berthnasau gwahanol gyda sefydliadau ac academyddion mewn sefydliadau gwahanol ar draws Cymru a thu hwnt i'n ffiniau ni. Rydw i yn ymwybodol o safbwynt Gerry Holtham, ac nid wyf i'n anghytuno ag e. Rydw i'n gwybod bod hyn yn rhywbeth yr ydych chi wedi bod yn ei bwysleisio ers rhai blynyddoedd. Rydw i'n hapus iawn i...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Academi Lywodraeth Genedlaethol (29 Tach 2017)

Alun Davies: Rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonom yn ddigon hael i weld a gwerthfawrogi'r hyn y mae eraill yn ceisio ei gyflawni, ac rwy'n credu bod chwilio am benawdau tabloid yn tanseilio'r uchelgais hwnnw yn ôl pob tebyg. Rwy'n gobeithio y bydd Darren Millar yn myfyrio ar ei gyfraniad i'r cwestiwn hwn, ac y bydd yn myfyrio hefyd ar yr uchelgais a rennir gan bawb ohonom, sef cael yr arweinyddiaeth...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' (29 Tach 2017)

Alun Davies: Mae cynllun cyflawni’r Cymoedd yn cynnwys y Cymoedd yn etholaeth Gorllewin De Cymru, fel cwm Dulais a chwm Llynfi. Mae’n dangos sut bydd blaenoriaethau’r tasglu’n cael eu cyflawni, pwy fydd yn cymryd rhan, y manteision rydym ni’n disgwyl eu gweld a’r amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' (29 Tach 2017)

Alun Davies: Rwy'n synnu braidd at y cwestiwn gan yr Aelod dros Orllewin De Cymru. Mae wedi bod yn Aelod hirdymor yn y lle hwn, a gŵyr mai gwaith craffu yw'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd mewn gwirionedd. Rwy'n synnu nad yw'n cydnabod hynny. Gall graffu arnaf yn ystod y cwestiynau ac mewn pwyllgorau, pan fo'n dewis gwneud hynny. Rwy'n mynychu pob pwyllgor pan gaf wahoddiad i wneud hynny. Rwyf am...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' (29 Tach 2017)

Alun Davies: Roedd y cyfarfod a gynhaliwyd yn yr ardal honno, rwy'n credu, yn gyfarfod bywiog lle y mynegwyd llawer o'r safbwyntiau hynny. Rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn cynnal digwyddiadau cyhoeddus ledled rhanbarth y Cymoedd, i sicrhau ein bod yn gallu gwrando a bwrw ymlaen ar sail yr hyn rydym yn ei glywed. Un o'r pethau rydym wedi'i ganfod yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf o ymgysylltu...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' (29 Tach 2017)

Alun Davies: Wel, gadewch i mi ddweud mai fi sy'n gyfrifol am gyflawni'r cynllun yn ei gyfanrwydd, a gallwch graffu ar fy ngwaith ar hynny. Ond gadewch i mi ddweud bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn gyflym iawn i ddweud wrthyf beth y maent yn ei ddisgwyl gennyf hefyd. Nid wyf yn credu ei fod yn ymwneud yn gymaint â fi'n dweud beth roeddwn ei eisiau ganddynt hwy; roeddent yn sicr...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Effaith Awtomeiddio (29 Tach 2017)

Alun Davies: Mae yna gyfleoedd sylweddol i dechnoleg ddigidol gefnogi'r broses o drawsnewid gwasanaethau yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Dylid rhoi ystyriaeth i gynnwys atebion digidol neu awtomataidd wrth ddatblygu polisïau neu wasanaethau newydd.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Effaith Awtomeiddio (29 Tach 2017)

Alun Davies: A gaf fi ddweud, Lywydd, fy mod yn hapus iawn i wneud hynny? Rwy'n hapus iawn i edrych ar sut y gall ein gwasanaethau cyhoeddus gyflawni trwy gyfrwng technoleg ddigidol a sicrhau y manteisir i'r eithaf ar y cyfleoedd hynny. Buaswn yn hapus iawn i barhau â'r sgwrs gyda'r Aelod os oes ganddo syniadau ynglŷn â sut y gellid cyflawni hynny. Gwn ei fod wedi cyfweld yr Ysgrifennydd Parhaol ar...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Effaith Awtomeiddio (29 Tach 2017)

Alun Davies: Rwy'n cytuno'n llwyr â sylwadau'r Aelod. Rwyf am ddweud fy mod yn gweld cyfleoedd digidol fel ffordd o ymestyn, dyfnhau ac ehangu'r cyfleoedd sydd gennym i wasanaethu'r cyhoedd ac i alluogi'r cyhoedd i gael mynediad at wasanaethau'n haws nag sy'n bosibl ar hyn o bryd. Buaswn yn annog yr holl ddarparwyr gwasanaethau i edrych ar sut y gallant ddarparu gwasanaethau mewn ffordd gadarnhaol a...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cefnogi'r Lluoedd Arfog (29 Tach 2017)

Alun Davies: Lywydd, deallaf eich bod wedi caniatáu i gwestiynau 6 a 7 gael eu grwpio. Ein blaenoriaeth yw sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau effeithiol sy'n diwallu anghenion teuluoedd aelodau o'r lluoedd arfog mewn meysydd megis iechyd, tai a chyflogaeth. Enghreifftiau o'r rhain yw'r llwybr tai, GIG Cymru i Gyn-filwyr a datblygiad llwybr cyflogaeth ar gyfer personél sy'n gadael y lluoedd...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cefnogi'r Lluoedd Arfog (29 Tach 2017)

Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ei sylwadau caredig, ac rwy'n siŵr y bydd pob un ohonom yn ymuno â chi i longyfarch Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar eu gwobr. Gwn ei bod yn wobr uchel ei bri, sy'n cydnabod y cymorth rhagorol y mae'r cyngor wedi'i roi i gymuned ein lluoedd arfog. Rwy'n siŵr fod pawb yn falch iawn o'r gwaith y mae Rhondda Cynon Taf yn ei wneud, ac rwy'n siŵr y...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cefnogi'r Lluoedd Arfog (29 Tach 2017)

Alun Davies: Lywydd, mewn ymateb i'r ddadl yr wythnos ddiwethaf, rhoddais addewid y buaswn yn ystyried pob un o argymhellion y grŵp trawsbleidiol gyda meddwl agored. Rwy'n ailadrodd yr ymrwymiad hwnnw y prynhawn yma. Rwyf wedi cytuno hefyd i fynychu cyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog, ac rwy'n ailadrodd fy ymrwymiad i wneud hynny, ac i barhau â'r sgwrs a ddechreuasom yr wythnos diwethaf...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cefnogi'r Lluoedd Arfog (29 Tach 2017)

Alun Davies: Mae cyflawni'r cyfamod yn rhywbeth rwyf wedi'i drafod yr wythnos diwethaf, ac rwy'n hapus i ailadrodd y pwyntiau a wneuthum yr wythnos diwethaf. Nid yw'r cyfamod yn cael ei gyflawni'n syml drwy araith neu ddangos ewyllys da neu drwy ddadl. Caiff ei gyflawni gan weithwyr gwasanaethau cyhoeddus a'r gymuned gyfan ddydd ar ôl dydd. Rydym yn sicrhau ein bod yn monitro cyflawniad ein...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cefnogi'r Lluoedd Arfog (29 Tach 2017)

Alun Davies: Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da a phwysig iawn. Mae'n bwynt a wnaed hefyd gan yr Aelod dros Gwm Cynon. Rwy'n derbyn y pwynt y mae'n ei wneud. Mae ymchwil cyfredol yn cyfeirio at driniaeth yn y gymuned, yn agos at gartref a chymuned yr unigolyn, fel y driniaeth fwyaf effeithiol. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gynharach y mis...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cefnogi'r Lluoedd Arfog (29 Tach 2017)

Alun Davies: Lywydd, rwyf wedi addo y byddaf yn trafod y mater hwn gyda'r grŵp trawsbleidiol, a byddaf yn sicr yn gwneud datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ar ôl i mi gael cyfle i gael y trafodaethau hynny gyda'r grŵp.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cefnogi'r Lluoedd Arfog (29 Tach 2017)

Alun Davies: Lywydd, rwy'n credu bod Aelodau ar draws y Siambr gyfan wedi talu teyrnged i waith Carl Sergeant yn ystod ein dadl yr wythnos ddiwethaf, ac roeddwn yn sicr yn falch iawn o ychwanegu fy llais at y teyrngedau hynny. Carl, mewn llawer o ffyrdd, a arweiniodd waith y Llywodraeth gyfan yn y maes hwn, ac mae'r ffaith bod Cymru'n cael ei chydnabod fel y wlad sydd ar y blaen yn y Deyrnas Unedig...

7. Dadl ar ddeiseb 'Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar' ( 6 Rha 2017)

Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi yn gwrando'n ofalus ar y ddadl a gynhaliwyd y prynhawn yma, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am yr amser y maent wedi'i roi i gymryd rhan yn y ddadl, ac rwy'n ddiolchgar hefyd i'r Pwyllgor Deisebau a'r deisebwyr, sydd wedi rhoi amser i ddwyn y mater hwn i sylw'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r cynnig ger ein bron heddiw yn gofyn i ni...

7. Dadl ar ddeiseb 'Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar' ( 6 Rha 2017)

Alun Davies: Deallaf y pwynt y mae'r Aelod wedi'i wneud, a gwnaeth y pwynt hwnnw i mi yn ein cyfarfodydd preifat. Rwy'n ddiolchgar iddo am ei ailadrodd y prynhawn yma. Yn amlwg, nid yw'r mesurau a roddwyd ar waith a'r dadleuon a'r trafodaethau sydd wedi digwydd yn rhagdybio y bydd y cais cynllunio yn llwyddiannus, nac ychwaith yn rhagdybio y caiff y tir ei werthu. Nid oes unrhyw gamau a gymerwyd gan...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.