Lesley Griffiths: Diolch. Mae ‘Polisi Cynllunio Cymru’ yn glir y dylai’r system gynllunio hyrwyddo arfer amgylcheddol da sy’n cynnwys lleihau peryglon llygredd. Mae canllawiau ar lagwnau slyri ar gael gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r broses o weithredu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010.
Lesley Griffiths: Gyda phob parch, nid oes rhaid i mi gael unrhyw drafodaethau gyda fy nghyd-Aelodau Cabinet gan mai fi sy’n gyfrifol am gynllunio hefyd. Felly, gallaf ailstrwythuro polisi cynllunio, yn enwedig yng ngoleuni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael ymrwymiad strategol hirdymor o fewn y system gynllunio i hyrwyddo...
Lesley Griffiths: Nid wyf wedi cael yr un drafodaeth yn bersonol, ond gwn fod fy swyddogion wedi’u cael. Rydym wedi gweithio gyda’r Gymdeithas Ymchwilio a Gwybodaeth y Diwydiant Adeiladu hefyd. Rydych yn nodi pwynt pwysig iawn ynglŷn â chapasiti’r lagwnau, o ran faint y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw adeg. Rwy’n credu bod hynny’n rhan o’r ymgysylltu cynnar, cyn ymgynghori.
Lesley Griffiths: Diolch. Fel rhan o’r datblygiad ar gyfer y cynllun morol cenedlaethol cyntaf i Gymru, mae asesiadau amrywiol wedi’u cynnal. Mae’r rhain wedi nodi potensial cyfleoedd ynni adnewyddadwy o fwy na 6 GW ar hyd arfordir Cymru.
Lesley Griffiths: Wel, yn amlwg rydym yn disgwyl penderfyniad gan Lywodraeth y DU. Rwy’n gwybod bod yna lawer o sgyrsiau ar y gweill rhwng y cwmni, ynghyd â Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwyf wedi cyfarfod â’r cwmni i ddangos ein bod, mewn egwyddor, yn gwbl ymroddedig i gefnogi’r gwaith o ddatblygu diwydiant môr-lynnoedd llanw cynaliadwy yma yng Nghymru.
Lesley Griffiths: Ydw, mae’r sgyrsiau hynny yn sicr yn barhaus ac rydym yn gwneud cynnydd.
Lesley Griffiths: Fel y dywedais yn fy ateb cynharach i Dai Lloyd, rydym yn aros, yn amlwg, am benderfyniad Llywodraeth y DU ar hyn. Rwyf wedi eu cyfarfod i ddangos ein bod, mewn egwyddor, wedi ymrwymo i gefnogi môr-lynnoedd llanw yma yng Nghymru. Yn sicr, o’r trafodaethau rwyf wedi’u cael, rydych chi’n iawn: mae’n dechnoleg newydd, felly mae angen i ni wybod mwy amdano. Ond rwy’n sicr yn credu y...
Lesley Griffiths: Byddaf, yn sicr. Roeddem wedi gobeithio y buasai adroddiad Hendry wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth y DU ychydig yn gynt na’r wythnos diwethaf. Roeddem yn gobeithio y câi ei gyflwyno ddechrau mis Tachwedd, yn sicr. Rwy’n falch iawn ei fod ganddynt bellach. Rydym yn edrych ymlaen at glywed eu barn ar yr adroddiad. Rwyf wedi gofyn, ochr yn ochr â fy nghyd-Aelod Ken Skates, am i ni gael...
Lesley Griffiths: Diolch. Rydym yn mynd i’r afael â llygredd sŵn ac aer mewn nifer o ffyrdd. Mae’r rhain yn cynnwys drwy reoli ansawdd aer lleol, rheoleiddio diwydiant, y gyfundrefn gynllunio a hyrwyddo teithio llesol. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus sy’n gofyn am farn y cyhoedd ar beth arall y gallwn ei wneud yng Nghymru.
Lesley Griffiths: Nid wyf wedi clywed unrhyw gwynion am y cwestiynau na’r ffordd y cafodd yr ymgynghoriad ei roi at ei gilydd. Os ydych wedi derbyn un neu fwy, buasai gennyf ddiddordeb mawr mewn cael nodyn gennych er mwyn i mi allu edrych ar hynny. Mae llawer iawn o feddwl wedi mynd i’r ddogfen ymgynghori honno, ac rwy’n credu bod y cwestiynau rydym wedi eu gofyn yn gwbl briodol.
Lesley Griffiths: Ar hyd a lled Caerdydd, mae yna rai ardaloedd lleol lle y mae llygredd aer yn broblem, yn bennaf, rwy’n credu, o ganlyniad i allyriadau traffig ar y ffordd. Yn y lleoliadau hyn, mae gennym ardaloedd sydd wedi’u datgan yn ardaloedd rheoli ansawdd aer gan yr awdurdod lleol. Eu dyletswydd hwy yw mynd i’r afael ag ansawdd aer lleol. Rwyf wedi cael fy sicrhau y bydd eu cynlluniau gweithredu...
Lesley Griffiths: Yn hollol. Rwy’n credu bod Birmingham yn ystyried trydaneiddio eu fflyd tacsi, felly bydd yn ddiddorol iawn gweld yr hyn y byddant yn ei wneud. Mewn perthynas â cherbydau trydan, rwy’n awyddus iawn i’n gweld yn symud at fwy o gerbydau trydan, ond wrth gwrs, un maen tramgwydd neu rwystr yw’r diffyg pwyntiau gwefru. Felly, rwy’n edrych i weld os gallaf, efallai, ddod o hyd i swm bach...
Lesley Griffiths: Diolch. Ein polisi yw cyflwyno rhaglenni sy’n dod â phobl, grwpiau, busnesau a sefydliadau lleol at ei gilydd i ddarparu gwasanaethau i wella lle y maent yn byw neu’n gweithio. Mae hyn yn cynnwys ein rhaglen eco-sgolion, sy’n cynnwys 20 o ysgolion yng nghanol Casnewydd, sy’n grymuso ac yn ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i’w bywydau.
Lesley Griffiths: Diolch. Rydym yn sicr yn cydnabod pwysigrwydd cyfleoedd i sicrhau mynediad i gymunedau er mwyn hyrwyddo gwell iechyd a lles. Mae llwybr arfordirol Cymru wedi bod yn boblogaidd gyda thwristiaid, ond yn bendant hefyd, mae wedi bod yn boblogaidd gyda chymunedau lleol a phobl ledled Cymru. Rydym yn darparu cyllid i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer cynnal a gwella’r llwybr, ac mae rhaglen waith...
Lesley Griffiths: Diolch. Roeddwn yn meddwl bod yr Aelod am fy ngwahodd i ymuno ag ef mewn sesiwn gasglu sbwriel, a buaswn yn fodlon iawn i wneud hynny, ac rwyf wedi cymryd rhan mewn sawl un dros yr ychydig fisoedd diwethaf. [Chwerthin.] Ond rwy’n sicr yn llongyfarch y grŵp. Mae wedi bod mor dda gweld cymunedau’n dod at ei gilydd ac yn dangos cymaint o falchder. Euthum draw i gasglu sbwriel mewn ardal yng...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae ymrwymiad y meiri i wahardd cerbydau diesel o’r pedair dinas erbyn 2025 yn un ymateb i ymwybyddiaeth gynyddol y cyhoedd o effeithiau llygredd aer ar iechyd. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ein polisïau ansawdd aer, yn dilyn ein hymgynghoriad ar y pwnc, a ddaeth i ben ar 6 Rhagfyr.
Lesley Griffiths: Nid wyf yn siŵr a oeddech yn y Siambr pan dynnodd Simon Thomas sylw at fater tebyg yn ymwneud â hyn, David, ac roeddwn yn dweud, wyddoch chi, eich bod yn hollol gywir. Mae gennym y grŵp hwn o feiri—a chyfarfûm â nifer ohonynt pan oeddwn yng Nghynhadledd y Partïon 22—sy’n uchelgeisiol iawn gyda’u targedau ar gyfer dod â’r defnydd o geir diesel i ben erbyn 2025. Roeddwn yn...
Lesley Griffiths: Wel, rwy’n credu mai’r hyn y maent yn galw hynny yw gwyddoniaeth a symud ymlaen a dysgu. Buaswn yn sicr yn hoffi gosod targed i gael gwared ar geir tanwydd ffosil erbyn dyddiad penodol, ond i wneud hynny mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr fod gennym y metro, er enghraifft, lle y mae gennym y drafnidiaeth gynaliadwy honno ar waith i’r cyhoedd ei defnyddio. Ond yn sicr, y ffordd ymlaen yw...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae asesiad o’r arllwysiad olew yn Nantycaws ar y gweill ar hyn o bryd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd yr asesiad yn ymchwilio i achosion yr arllwysiad, ei effeithiau ac unrhyw gamau gweithredu ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru o dan ei bwerau fel rheolydd. Hyd nes y bydd yr ymchwiliad wedi ei gwblhau, ni allaf roi sylwadau pellach.
Lesley Griffiths: Diolch. Rwyf wedi cael gwybod na fydd yr ymchwiliad gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei gwblhau tan ddiwedd mis Mawrth, ac yn amlwg mae cryn dipyn o amser nes hynny. Felly, rwy’n hapus iawn i ofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi’r hyn a allant cyn yr amser hwnnw. Gwn eich bod yn cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru ddydd Gwener, felly byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod yn ei wneud cyn...