Caroline Jones: Diolch. A fyddech yn cytuno â mi ei fod yn ymwneud â Llywodraethau’n gweithio gyda’i gilydd, ac felly, pan fyddwn yn gadael yr UE a bod modd gostwng y trothwy TAW a’r ardrethi i annog pobl i fuddsoddi yn ein gwlad, fod angen i Lywodraethau weithio gyda’i gilydd ar fater ardrethi busnes a TAW? Oherwydd pan dynnodd Gordon Brown 5 y cant i ffwrdd, a’i ostwng o 20 y cant i 15 y cant,...
Caroline Jones: Mae’r cyhoeddiad a wnaed ddydd Iau diwethaf gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd mewn perthynas â threfniadau indemniad ar gyfer meddygon teulu yn Lloegr yn creu her bosibl i Gymru. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn bwriadu cyflwyno cynllun indemniad a gefnogir gan y wladwriaeth ar gyfer ymarfer meddygol yn Lloegr, ac mae hefyd wedi datgan bod y trefniadau indemniad yn fater...
Caroline Jones: A gaf fi ofyn i rywun egluro sefyllfa Mark Reckless o fewn y Blaid Geidwadol? Diolch.
Caroline Jones: Rwy’n synnu ein bod yn cael y ddadl hon heddiw oherwydd nid oedd unrhyw sôn am dreth dwristiaeth ym maniffesto Llafur Cymru 2016—maniffesto y cawsant eu hethol arni fel y blaid fwyaf i’r Cynulliad hwn. Pan gafodd Llywodraeth Lafur ei hethol hefyd ar lefel y DU, cafwyd addewid i beidio â chodi rhai trethi, ond cafodd yr addewid hwn ei dorri a chyflwynwyd llu o drethi llechwraidd eraill...
Caroline Jones: Iawn. Yn ôl adroddiad yn 2014 gan Geoff Ranson o’r grŵp ymgyrchu Cut Tourism VAT—mae’n dweud, yn benodol: Y DU yw’r uchaf o gymharu â’r gwledydd eraill ac mae bron i 3% yn uwch na’r Almaen a thros 5.5% o gymharu ag Iwerddon sef yr isaf o’r gwledydd cymharol, a gafodd wared ar dreth maes awyr i dwristiaid ar 1 Ebrill 2014. Ystyriwch yr adroddiad hwn, ynghyd â datganiad a...
Caroline Jones: Ydw, diolch, Dirprwy Lywydd. Ni ddylid llyffetheirio ein diwydiant twristiaeth gan dreth dwristiaeth, heb sôn am dreth sy’n cynyddu’n barhaus o fewn amgylchedd treth uchel y DU a Chymru. Felly, rwy’n gobeithio bod yr ystyriaethau a gyflwynais heddiw, yn annibynnol ar fodelau unrhyw economegydd Llywodraeth Cymru, yn dangos nad yw diwydiant twristiaeth Cymru angen y dreth, nid yw...
Caroline Jones: Prif Weinidog, dylai ardaloedd menter fod yn ffordd wych o adfywio rhai o ranbarthau mwyaf difreintiedig Cymru, ond mae'r realiti braidd yn wahanol. Mae rhai o'r ardaloedd yn gweithio'n dda, gan ddenu buddsoddiad preifat ac adfywio eu heconomi leol. Mae eraill yn gweithredu oherwydd cyllid y Llywodraeth yn unig, ac yn cynnal llond llaw o swyddi. Prif Weinidog, pe byddai'r ardaloedd menter yn...
Caroline Jones: Yn gyntaf oll, hoffwn longyfarch y Gweinidog ar ei swydd newydd a chydnabod ymrwymiad rhagorol Carl Sargeant i’r rôl. Hoffwn ddiolch i'r comisiynydd plant a'i thîm am eu gwaith caled parhaus i sefyll dros hawliau plant a phobl ifanc Cymru. Fel y mae’r comisiynydd wedi’i nodi, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn holl argymhellion yr adroddiad 'Y Gofal Iawn' ac mae Llywodraeth Cymru wedi...
Caroline Jones: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n mynd i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt? OAQ51270
Caroline Jones: 1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau nifer y derbyniadau i ysbytai sy'n gysylltiedig â chyffuriau? OAQ51272
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ym mis Mawrth eleni, fe gawsoch sylw gan y wasg am siarad am gydraddoldeb a bwlio mewn ysgolion. Roedd y cyhoeddiadau'n canolbwyntio'n bennaf ar fwlio homoffobig, biffobig a thrawsffobig yn yr ysgolion. A all y Gweinidog gadarnhau nad yw unrhyw fath o fwlio yn dderbyniol, ac er bod yr erthygl yn iawn i ganolbwyntio ar fynd i'r afael â bwlio o'r...
Caroline Jones: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn y sylw a gawsoch yn y cyfryngau ar yr adeg honno, roeddech yn iawn i siarad am y niwed y gall bwlio ei wneud i ddysgu a chynnydd plant yn yr ysgol. A fuasech yn cytuno â mi y gallai bwlio ymhlith athrawon, ar wahân i'r gofid y byddai'n ei achosi i fywyd personol a phroffesiynol yr athro, effeithio'n negyddol hefyd ar ein plant ysgol, gan y...
Caroline Jones: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, a wnewch chi ymgymryd â'r gwaith o archwilio pa mor gyffredin yw bwlio ymhlith staff ysgolion er mwyn sicrhau bod ysgolion yn barthau di-fwlio nid yn unig o ran y plant, ond o ran pob math o staff sy'n ymwneud â gwaith yr ysgol, ac ystyried llwybr disgyblu penodol ar gyfer ymchwilio i honiadau o fwlio, gan roi'r statws arbennig a...
Caroline Jones: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ôl y swyddog mynediad yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, nid oes gan fyfyrwyr Cymru ddigon o hyder i ymgeisio am le yn Rhydychen a Chaergrawnt, ac er bod rhaglen Seren yn helpu rhai myfyrwyr, nid ydym yn gwneud digon o hyd i herio ein disgyblion gorau a mwyaf disglair. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod myfyrwyr...
Caroline Jones: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cynnydd enfawr wedi bod yn nifer y canabinoidau synthetig, megis Spice, er gwaethaf newid yn y gyfraith. Mae ysbytai ledled Cymru bellach yn trin mwy na thri o bobl y dydd mewn perthynas â'r sylweddau hyn. Mae pobl o dan ddylanwad Spice wedi dod yn olygfa rhy gyffredin o lawer yn ein trefi a'n dinasoedd, ac mae'r effeithiau wedi arwain at...
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Gweinidog, pan oeddwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr wythnos diwethaf, cysylltodd—dywedodd—etholwr wrthyf fod eu cymydog wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty ychydig ddyddiau'n unig ar ôl cael strôc, ond unwaith eto, nid oedd cynllun gofal ganddynt ar waith. Nid oedd gan yr unigolyn dan sylw unrhyw deulu gerllaw a bu'n rhaid iddynt ofalu am eu hunain. Yn anffodus, nid yw...
Caroline Jones: Diolch i chi am eich ateb, Gweinidog. Wrth gwrs, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i fod i drawsnewid y modd y darperir gofal cymdeithasol, a sicrhau bod pawb sydd angen gofal yn cael gofal. Yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn wir. Nid yn unig ein bod yn gweld cleifion yn cael eu hanfon adref heb neb i helpu i ddiwallu eu hanghenion gofal, ond mae gennym hefyd...
Caroline Jones: Diolch i chi am eich ateb, Gweinidog. Rydym yn ymwybodol iawn fod gofal cymdeithasol yn wynebu galw cynyddol. Yn anffodus, nid ydym yn ateb y galw hwnnw. Amlygir hyn yn glir iawn yn adroddiad diweddar Age Cymru 'Care in Crisis'. Canfu Age Cymru nad oedd pobl hŷn mewn rhai rhannau o Gymru yn cael yr asesiadau gofalwyr angenrheidiol, a bod amrywio enfawr rhwng awdurdodau lleol. Roedd...
Caroline Jones: Prif Weinidog, yn ôl Iechyd yng Nghymru, mae dementia yn effeithio ar dros 42,000 o bobl dim ond yng Nghymru, ac amcangyfrifir, mewn ychydig flynyddoedd yn unig, gallai hyn gynyddu gan o leiaf traean. Mae'n hanfodol felly bod Cymru'n dod yn genedl ystyriol o ddementia cyn gynted â phosibl, er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n byw gyda'r cyflwr ofnadwy hwn, a'u teuluoedd, yn cael eu cefnogi ar...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae camddefnyddio sylweddau yn difetha bywydau—nid dim ond bywyd yr unigolyn sy'n defnyddio'r sylwedd ond mae’r uned deuluol gyfan i gyd yn dioddef. Does neb yn ennill o dan yr amgylchiadau hyn, oni bai bod yr unigolyn yn cael y cymorth sydd ei angen. Yn ystod fy amser yn gweithio mewn carchar, gallaf eich sicrhau fy...