Suzy Davies: Pwy ar y ddaear yw’r miliwnyddion, felly?
Suzy Davies: Diolch, Mike. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ymateb i’r ddadl.
Suzy Davies: Diolch yn fawr, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Suzy Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Wel, gan ein bod yn sôn am gadw addewidion, arweinydd y tŷ, mae tua naw mis wedi mynd heibio bellach ers i fater tanau sglodion coed, a dympio sglodion coed yn anghyfreithlon, gael ei godi yn y Siambr hon. Mae'n fater sy'n effeithio’n arbennig ar fy rhanbarth i. A bod yn deg, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn cymryd hyn o ddifrif, wrth gydnabod...
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, am y datganiad heddiw. Rwy'n credu ei bod hi’n hen bryd i ni gael yr adolygiad hwn. Rwy'n eithaf balch o weld ei fod yn ehangach mewn gwirionedd nag yr oeddwn i’n ei ddisgwyl yn wreiddiol. Felly, rwy’n diolch i chi am hynny. Fy mwriad oedd gofyn yn gyntaf oll 'Pryd y gallwn ni ddisgwyl gweld yr adroddiad?' ond gallaf weld ei fod wedi...
Suzy Davies: Mae ychydig dros bedwar mis, mewn gwirionedd, ers i Aelodau o bob ochr i’r Senedd gefnogi fy nghynigion deddfwriaethol i gael sgiliau achub bywyd priodol i oedran yn rhan o’u haddysg—fel dysgwyr, nid fel Aelodau’r Cynulliad. Roeddwn yn falch, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod chi mewn gwirionedd ymhlith yr Aelodau Cynulliad yn y Cynulliad blaenorol a gefnogodd fy natganiad barn ar yr...
Suzy Davies: Rwy’n meddwl bod yna newid swyddogion wedi bod yn yr ardal benodol y soniwch amdani ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar, felly gobeithio y byddwn yn gweld rhywfaint o welliant. Ond roeddwn am ofyn i chi ynglŷn â rhywbeth arall. Rydych wedi cydnabod yn flaenorol y rôl y gall busnesau Cymru ei chwarae yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg ac yn wir, yn ysgogi’r galw am sgiliau mewn gwirionedd,...
Suzy Davies: Rwy’n mynd i’ch siomi yn y fan honno, Bethan—nid wyf yn mynd i ddechrau siarad am Ofcom. Ni fydd gennyf amser yn fy nghyflwyniad byr, mae arnaf ofn. Roeddwn am bwysleisio i gychwyn, mewn gwirionedd—er fy mod yn diolch i’r pwyllgor a’r staff am eu gwaith ar hyn—ei fod yn bwyllgor arloesol iawn, yr un rydym yn aelodau ohono ar hyn o bryd. Roeddwn eisiau sôn am hynny am eiliad,...
Suzy Davies: Diolch yn fawr am y datganiad ac am yr ymrwymiadau sydd ynddo. Rwyf yn gwerthfawrogi ein bod yn sôn yn bennaf am newid strwythurol, ond pwrpas y newid strwythurol yw gwella cyfleoedd ar gyfer dysgu, a dysgu sydd yn barod ar gyfer Cymru a fydd yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth fyd-eang, os mynnwch chi, yn ogystal â hybu yr economi leol. Os yw cynlluniau Llywodraeth Cymru o gael miliwn o...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Llywydd. Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. O dan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, o 30 Mai eleni ymlaen, gall awdurdodau lleol gofrestru pridiant tir lleol i ddiogelu eu hunain wrth adennill costau a llog am atgyweiriadau brys i adeiladau rhestredig. Yn amlwg, rwy’n meddwl am Theatr y Palas yn Abertawe, sydd wedi elwa o hynny yn y gorffennol, ond ceir...
Suzy Davies: Diolch am eich ateb, ac rwy’n gobeithio y gellir cyfiawnhau’r hyder hwnnw. Efallai, chwe mis yn ddiweddarach, y byddai’n werth gofyn a ydynt wedi penderfynu defnyddio’r pwerau hynny ar y sail eu bod ganddynt a’u bod yno ar gyfer eu diogelu. Gan symud yn awr at y llyfrgell genedlaethol, yn amlwg, mae ei rôl yn ehangu ar hyn o bryd, wrth iddi ymgymryd ag archif y BBC a helpu’r...
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn am eich ateb. Caf weld beth sy’n digwydd yr adeg hon y flwyddyn nesaf. Yn olaf, mae Blwyddyn y Chwedlau, wrth gwrs, wedi sbarduno cryn ddiddordeb, gobeithio, yng Nghymru fel lleoliad ffilm a theledu. Rwyf eisoes yn ymwybodol o’u hanes blaenorol, felly nid wyf yn arbennig o awyddus i glywed am hynny, ond rwy’n awyddus i wybod beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i...
Suzy Davies: A gaf fi ddiolch i’r pwyllgor? Yn amlwg, nid wyf yn aelod o’r pwyllgor, ond roeddwn o’r farn fod hwn yn waith clir a diamwys gyda ffocws go iawn, felly nid wyf yn synnu ei fod wedi bod yn ddylanwadol yn barod. Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet hefyd, oherwydd a barnu wrth y dystiolaeth a ddyfynnir yn yr adroddiad, roedd gennych ymagwedd agored ac ymatebol iawn i’r dystiolaeth a glywyd...
Suzy Davies: 9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r disgwyliadau ar awdurdodau lleol o ganlyniad i'r canllawiau rheoli ansawdd aer lleol yng Nghymru? OAQ(5)0155(ERA)
Suzy Davies: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi manylion y trefniadau pontio ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(5)0156(CC)
Suzy Davies: Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth gwrs, wedi dweud bod yr astudiaeth newydd hon yn ceisio ymdrin â chwestiynau nas atebwyd yn yr astudiaeth yn 2012. Pan ofynnais i’r Prif Weinidog am farwolaethau cocos yn ôl ym mis Chwefror, dywedodd fod yr ymchwiliadau i farwolaethau cocos yng Nghilfach Tywyn yn parhau ac y byddai adolygiad cynnydd o ymchwiliad...
Suzy Davies: Diolch am eich ateb defnyddiol iawn. Credaf mai ar 15 Mehefin, mewn gwirionedd, y cyhoeddoch y canllawiau, ac mae’r canllawiau hynny’n cynnwys dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynllunio ar gyfer y tymor hir ac atal problemau rhag gwaethygu neu godi yn y lle cyntaf. Mae hyn cyn eich llythyr, ond bedwar diwrnod yn ddiweddarach ar 19 Mehefin, dywedodd aelod cabinet Cyngor Abertawe dros yr...
Suzy Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf yn gwybod a ydych wedi clywed am sefydliad o’r enw Ffydd mewn Teuluoedd. Sefydliad ydyw sydd wedi’i leoli yn Abertawe—
Suzy Davies: Mae’n ddrwg iawn gennyf.
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn. Rwyf am droi’n ôl at Ffydd mewn Teuluoedd. Sefydliad ydyw sydd wedi’i leoli yn Abertawe ac sy’n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar gyda theuluoedd sy’n agored i niwed. Diolch i Cymunedau yn Gyntaf, mewn gwirionedd, maent wedi llwyddo i ailddatblygu tair o’u canolfannau teulu. Ers y cyhoeddiad y bydd Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben, maent mewn amgylchiadau ansicr...