Russell George: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl blynyddoedd lawer o geisio cael y wybodaeth hon gennych, rydych o'r diwedd wedi darparu dadansoddiad o niferoedd y swyddi a grëwyd, a ddiogelwyd ac a gynhelir gan wyth ardal fenter Cymru, a diolch ichi am y ffigurau hynny. Mae'r ardaloedd menter wedi dangos mai dim ond—mae'r ffigurau gennyf yma—2,998 o swyddi newydd a grëwyd ers i'r...
Russell George: Rwy'n gwerthfawrogi eich gonestrwydd o ran bod y darlun yn gymysg mewn perthynas ag ardaloedd menter. Rwy'n cydnabod hefyd ei bod yn bwysig diogelu swyddi, er bod yn rhaid i mi ddweud, mewn dogfen gennych yma, mae'n dweud, 'Nod yr Ardaloedd Menter yw: meithrin twf yn yr economi leol a darparu swyddi newydd'. Felly, dengys y data fod llai na thraean o'r swyddi a gefnogwyd gan ardaloedd...
Russell George: Er y cannoedd o filiynau o bunnoedd a fuddsoddwyd yn yr ardaloedd, mae economi Cymru, yn fy marn i, yn parhau i fod ar ei hôl hi o gymharu â'r rhan fwyaf o rannau eraill y DU. Roedd gwerth ychwanegol gros y pen yng Nghymru yn 2015 yn £18,000, ar waelod tabl cynghrair y gwledydd cartref o ran gwerth ychwanegol gros y pen, ac mae wedi bod ar waelod y tabl hwnnw am 20 mlynedd yn olynol....
Russell George: Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i. Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â seilwaith digidol yng Nghymru. I lawer o bobl, nid rhywbeth 'braf i'w gael' yw cysylltedd mwyach ar gyfer byw a gweithio yng Nghymru, gan gynnwys rhai o'r busnesau y siaradwyd â hwy fel rhan o'n hymchwiliad. Caiff ei ystyried yn wasanaeth hanfodol fel dŵr neu drydan bellach— hyd yn oed mewn rhai...
Russell George: Gwnaf.
Russell George: Wel, yn sicr, rydym wedi cael cadarnhad gan BT eu bod yn credu y bydd y cytundeb yn cael ei gyflawni, yn ôl y cytundeb, a byddaf yn mynd i'r afael â rhai o'r problemau cyfathrebu rydych wedi'u nodi tuag at ddiwedd fy nghyfraniad mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod yr hyn y mae Simon Thomas hefyd wedi'i ddweud yn peri pryder i lawer o Aelodau eraill yn ogystal, oherwydd mae'r perygl y...
Russell George: Diolch, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl hon y prynhawn yma. Carwn wneud sylw ar bob un o bosibl. Nawr, nododd Adam Price yn hollol gywir y gwahaniaeth rhwng cysylltedd yng nghefn gwlad Cymru yn benodol, a soniodd hefyd am Geredigion, sy'n bendant yn llusgo ar ôl rhannau eraill o Gymru a'r DU mewn cymhariaeth. A soniodd Adam am atebion amgen ac wrth...
Russell George: Ac roedd pawb yn dal i wrando ac nid oeddem eisiau ei dawelu. Nid oedd gan neb ddiddordeb mewn tawelu Mr Taylor am ei fod yn ysbrydoliaeth, ac roedd ei stori'n wych. Roedd yn ysbrydoliaeth, ac rwy'n credu, fel pwyllgor, ein bod yn credu bod angen Mr Taylor ar bob cymunedol. [Torri ar draws.] A glywsoch chi Mr Taylor? [Chwerthin.] Rhaid i mi ddweud fy mod yn gwyntyllu fy rhwystredigaethau...
Russell George: Wrth i Ddydd Sadwrn y Busnesau Bychain agosáu, rwyf i a'm cyd-Aelodau o'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu'r ddadl ar entrepreneuriaeth yng Nghymru, ac yn rhoi croeso gwresog iawn i'r egwyddorion sy'n sail i gynnig y Llywodraeth. Rwy'n cytuno bod rhyddhau entrepreneuriaeth yn hanfodol er mwyn creu economi gref a llewyrchus. Cytunaf hefyd bod gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth allweddol o ran...
Russell George: 1. O ystyried y cyhoeddwyd gorwariant o 23 y cant ar y prosiect i ddeuoli'r A465 rhwng y Fenni a Hirwaun, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau o ble y daw'r adnoddau ychwanegol i gyllido hyn? 73
Russell George: Yn sicr, croesawaf y cynllun newydd i fynd i'r afael â TB buchol. Credaf fod pob un ohonom yn awyddus i weld y clefyd creulon hwn yn cael ei ddileu mewn bywyd gwyllt ac mewn gwartheg. Fy mhryder i yw na ddylid rhoi pwysau ychwanegol ar ffermwyr sydd, ers llawer gormod o amser, wedi dioddef o ganlyniad i effeithiau TB buchol. Nawr, rydych eisoes wedi ateb cwestiynau ac wedi sôn am y...
Russell George: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Rydym wedi clywed gan fusnesau, wrth gwrs, a fydd yn wynebu anawsterau ariannol oherwydd oedi. Mae yna rwystredigaethau ac anghyfleustra amlwg i breswylwyr. A gaf fi ofyn: pryd y daethoch yn ymwybodol y buasai'r prosiect yn debygol o wynebu gorwariant? Pa ddarpariaethau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i dalu am orwariant posibl y cynllun? Hefyd,...
Russell George: Rwyf innau hefyd yn falch o gymryd rhan yn y ddadl hon. Diolch i Mick Antoniw ac eraill—Aelodau eraill—am gyflwyno hyn. Mae'n galonogol, i raddau, fod Aelodau eraill yn profi, neu ag etholwyr sydd wedi dioddef yr un problemau â fy etholwr i; nid wyf yn teimlo ar fy mhen fy hun. Rwy'n credu bod Dawn Bowden wedi cyfeirio at hynny yn ogystal. Yn fy nghyfraniad, hoffwn dynnu sylw at...
Russell George: Prif Weinidog, aeth 10,000 o gwmnïau i'r wal yng Nghymru y llynedd. Dim ond 43 y cant yw nifer y cwmnïau sydd dal mewn busnes ar ôl pum mlynedd, sy'n is na chyfartaledd y DU. Nawr, yn ddealladwy, bydd rhai cwmnïau yn mynd i'r wal oherwydd newidiadau yn y farchnad ac am resymau eraill, ond a gaf i ofyn beth yw eich esboniad chi o pam mae busnesau yn fwy tebygol o fynd i'r wal yng Nghymru,...
Russell George: A all arweinydd y tŷ roi gwybod i mi a fu trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn perthynas â thrwyddedau gwaith tymhorol yn dilyn Brexit, ac wrth gwrs, wrth edrych ar drefniadau yn y dyfodol?
Russell George: A gaf fi gytuno gyda'r cyfraniad gan Mick Antoniw? Buaswn yn dweud nad oes unrhyw Aelod yn y Siambr hon wedi llwyddo i newid meddwl banc pan fyddant wedi gwneud eu penderfyniad. Rwyf wedi siarad yn y Siambr yn flaenorol am y syniad y gallai'r Llywodraeth hwyluso trafodaethau rhwng y banc a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol a phartneriaid eraill i archwilio model bancio cymunedol a...
Russell George: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51454
Russell George: Prif Weinidog, rwyf i wedi derbyn nifer fawr o gwynion gan deithwyr rheolaidd ar reilffordd y Cambrian a weithredir gan Drenau Arriva Cymru. Bu nifer fawr o achosion o ganslo neu ganslo rhannol heb ddarparu unrhyw wasanaeth bws amgen, gan adael teithwyr mewn twll llwyr. Mae'r canslo yn aml yn digwydd funudau cyn bod y trên i fod i adael, sydd, wrth gwrs, yn ei gwneud bron yn amhosibl i...
Russell George: Diolch, Dirprwy Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf yn falch eich bod wedi lansio eich cynllun gweithredu economaidd o'r diwedd. Byddwn i'n dweud bod y cynllun wedi cyrraedd 19 mis ar ôl etholiadau'r Cynulliad yn 2016, pryd, wrth gwrs, y gwnaethoch chi ddatgan mai'r economi fyddai prif flaenoriaeth eich Llywodraeth. Dim ond y bore yma y derbyniodd Aelodau'r Cynulliad y ddogfen hon, ond fe...
Russell George: Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i roi croeso cyffredinol i ddiweddaru strategaeth trafnidiaeth Cymru Llywodraeth Cymru? Rwy’n meddwl ei bod yn briodol i ddiweddaru’r strategaeth er mwyn ystyried pwerau newydd a deddfwriaeth ddiweddar. Rwyf hefyd yn cytuno bod seilwaith trafnidiaeth di-dor yn allweddol i dwf economaidd. Wrth gwrs, ers blynyddoedd rydym ni wedi clywed...