Mandy Jones: Weinidog, rydym wedi siarad o'r blaen yn y Siambr hon am y modd y mae'r diwydiant lletygarwch yn un o'r rhai mwyaf diogel rhag COVID yn ôl pob tebyg. Mae ffigyrau'n dangos bod pobl yn fwy tebygol o ddal COVID mewn ysbyty nag mewn tafarn neu fwyty. Weinidog, cafwyd buddugoliaeth i synnwyr cyffredin pan gollodd Llywodraeth y DU achos a gyflwynwyd gan ddiwydiant lletygarwch Manceinion mewn...
Mandy Jones: 4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o berfformiad Cadw ledled Gogledd Cymru? OQ56393
Mandy Jones: Diolch. Prif Weinidog, roedd Neuadd Cinmel yn y penawdau unwaith eto yn ddiweddar. Mae wedi cael ei alw yn Versailles Cymru, ond mae wedi dadfeilio i gyflwr peryglus, ac mae'r darn hwn o dreftadaeth Cymru mewn perygl difrifol iawn o gael ei golli am byth, er ei fod yn adeilad rhestredig gradd I. Rwy'n gweld mai un o flaenoriaethau cyntaf Cadw yw gofalu am yr amgylchedd hanesyddol. Prif...
Mandy Jones: 4. Sut mae'r Gweinidog yn defnyddio tystiolaeth i lywio penderfyniadau polisi Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â'r amgylchedd? OQ56392
Mandy Jones: Diolch. Weinidog, rwy'n synnu'n fawr o glywed yr ateb hwnnw, a chyfeiriaf yn benodol—ar wahân i'r ffaith fy mod yn ailadrodd cynifer o bobl eraill—at eich penderfyniad annealladwy ar barthau perygl nitradau. Cefais gyfarfodydd, fel y cafodd llawer o rai eraill, gydag undebau'r ffermwyr ychydig wythnosau'n ôl, a nodwyd ganddynt fod tystiolaeth ac argymhellion wedi'u darparu mewn...
Mandy Jones: Weinidog, yn ystod ymgyrch y refferendwm, ac ymhell ar ôl hynny, roeddwn bob amser yn teimlo anesmwythyd mawr gan mai un o’r dadleuon mawr dros aros, ac yna dros lesteirio’r bleidlais, oedd y modd y gallai ecsodus o weithwyr yn y GIG effeithio ar y GIG. Roedd hi bron fel pe bai arweinwyr dinesig a gwleidyddion yn dathlu'r ffaith bod gwasanaethau iechyd a hyfforddiant gwledydd eraill yn...