Canlyniadau 301–320 o 800 ar gyfer speaker:Hannah Blythyn

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Llosgydd Biomas y Barri ( 9 Mai 2018)

Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod ac rwy'n falch eich bod wedi derbyn y llythyr yn dilyn eich cwestiwn yn ystod y cwestiynau busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf a gobeithio bod hwnnw wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi o ran ein sefyllfa ar hyn o bryd. Fel y dywedais wrth yr Aelod yn gynt, ni allaf wneud sylwadau ar fwriad y datblygwr i ddechrau gweithredu erbyn diwedd y flwyddyn, ond...

6. Dadl Plaid Cymru: Sefydlu Cwmni Ynni Cyhoeddus ( 6 Meh 2018)

Hannah Blythyn: Yn ffurfiol.

6. Dadl Plaid Cymru: Sefydlu Cwmni Ynni Cyhoeddus ( 6 Meh 2018)

Hannah Blythyn: Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn groesawu'r cyfle i drafod yr achos yma heddiw, a hoffwn roi diolch i Plaid Cymru am gynnig y ddadl hon.

6. Dadl Plaid Cymru: Sefydlu Cwmni Ynni Cyhoeddus ( 6 Meh 2018)

Hannah Blythyn: Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am ddadl ddiddorol a difyr heddiw. Dywedodd Simon Thomas wrth agor nad yw'n ymddiheuro am ailgylchu'r ddadl hon. Wel, mae gennym record anrhydeddus am ailgylchu yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'n glir ein huchelgais i drawsnewid y system ynni yng Nghymru, er mwyn inni symud at system garbon isel. Drwy wneud hyn, credaf y gallwn sicrhau mantais...

6. Dadl Plaid Cymru: Sefydlu Cwmni Ynni Cyhoeddus ( 6 Meh 2018)

Hannah Blythyn: Yn amlwg, mae hon yn drafodaeth barhaus o ran beth sy'n gweithio yng Nghymru. Gobeithio y gallaf sôn ymhellach am hynny yn yr ymateb hefyd. Ers 2011, mae Cartrefi Clyd Nyth wedi darparu cyngor diduedd a chymorth i dros 98,000 o aelwydydd. Er nad oes unrhyw dystiolaeth uniongyrchol, mae'n debygol fod y cyngor hwn wedi helpu i hybu cyfraddau newid cyflenwr, sy'n isel yng Nghymru, i sefyllfa...

6. Dadl Plaid Cymru: Sefydlu Cwmni Ynni Cyhoeddus ( 6 Meh 2018)

Hannah Blythyn: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei ymyriad? Mae'n debyg mai fi yw'r dirprwy actor heddiw. Edrychwch, dywedais ar gychwyn y ddadl fod hyn yn creu llawer o syniadau diddorol ac arloesol a chreadigol, a chredaf fod angen i bob un ohonom ddatblygu'r ddadl honno i weld sut y gall Cymru arwain y ffordd o ran ein hymagwedd tuag at ynni adnewyddadwy a ffynonellau ynni yn y dyfodol. Os caf symud...

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Amgylchedd (13 Meh 2018)

Hannah Blythyn: The Environment (Wales) Act sets the overarching framework for managing Wales’ natural resources and environment sustainably.  Collaborative working across a range of organisations is at the heart of the action needed to both tackle the risks and realise the opportunities Wales’ natural resources provide for well-being and prosperity.

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Amgylchedd (13 Meh 2018)

Hannah Blythyn: The Welsh Government’s ambition is to become the world’s first Refill nation, last week we announced a commitment to start by delivering Refill in key communities along the Wales Coast Path. We are continuing to investigate the feasibility of strategically placed water fountains in key locations such as transport hubs.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Meh 2018)

Hannah Blythyn: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, a Lywydd cyn i mi ateb, os caf dalu teyrnged i Martin Bishop, rheolwr cenedlaethol Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd, a oedd yn aelod gwerthfawr o grŵp rhanddeiliaid bwrdd crwn Ysgrifennydd y Cabinet ar Brexit, ac yn hyrwyddwr brwd i'r sector coedwigaeth, a fu farw mewn damwain dros y penwythnos yn anffodus? Rwy'n siŵr y bydd Aelodau, ac yn...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Meh 2018)

Hannah Blythyn: Mae'r Aelod yn llygad ei le fod angen i ni gymryd camau i atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth a'i wrthdroi, yn ogystal â hyrwyddo gwerth ein hecosystemau, bioamrywiaeth a'n cynefinoedd i gymunedau a busnesau fel ei gilydd. Mae'r contract economaidd a'r galwadau am gamau gweithredu yn rhoi llwyfan i ni i wneud yn siŵr ein bod yn ymgorffori, fel y dywedwch, y nodau yn Neddf Llesiant...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Meh 2018)

Hannah Blythyn: Mae'r Aelod yn cyfeirio at WWF, ac rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda hwy fel rhanddeiliaid o fewn y sector, ac mae yna werth mewn cydweithio, nid yn unig â WWF, ond ar draws y sector ac ar draws y Llywodraeth mewn perthynas â—. Ac rydych yn amlwg yn gywir—rydym yn iawn i fod yn falch o'n deddfwriaeth flaengar a'r uchelgeisiau a'r dyheadau a gynhwysir yn y ddeddfwriaeth honno, ond yn...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Pryfed yn Llanelli (13 Meh 2018)

Hannah Blythyn: Mae adran diogelu'r cyhoedd y cyngor wedi lleoli ffynhonnell debygol y pla diweddar ac wedi trefnu bod y safle'n cael ei drin. Mae'r cyngor yn gweithio'n agos gyda rheoleiddiwr y safle, Cyfoeth Naturiol Cymru. Nid ydynt wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am gymorth ar y pwynt hwn.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Pryfed yn Llanelli (13 Meh 2018)

Hannah Blythyn: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn dilynol? Cydymdeimlaf yn llwyr â'r gofid a achosodd hyn i drigolion yn Llanelli, ac yn enwedig yr ardal sydd agosaf at y lle y digwyddodd, ac mae'n rhaid bod hynny wedi bod yn ofnadwy i bobl ar y pryd. Yn sicr, mae yna bob amser wersi i'w dysgu o'r pethau hyn a gallwn wella'r hyn rydym wedi'i wneud bob amser. Fel y dywedais, nid yw'r cyngor wedi...

7. Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Meicrobelenni) (Cymru) 2018 (19 Meh 2018)

Hannah Blythyn: Diolch, Dirprwy Lywydd. Y rheoliadau a roddwyd gerbron y Cynulliad ar gyfer eich ystyriaeth heddiw yw Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018. Cyflwynwyd y rheoliadau hyn o dan bwerau a gynhwysir yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 a Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Chosbau 2008. O dan y rheoliadau hyn bydd yn drosedd yng Nghymru, o 30 Mehefin 2018 ymlaen, i unrhyw un...

7. Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Meicrobelenni) (Cymru) 2018 (19 Meh 2018)

Hannah Blythyn: Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i David Melding a Simon Thomas am eu cyfraniadau i'r ddadl hon, ac am y gefnogaeth a ddangoswyd o bob rhan o'r Siambr i'r gwaharddiad ar ficrobelenni. Bwriad y gwaharddiad yw gwarchod yr amgylchedd morol rhag mwy o lygredd, meithrin hyder defnyddwyr yn y cynnyrch y maen nhw'n ei brynu, sicrhau na fydd niwed i'r amgylchedd, a chefnogi busnesau...

7. Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Meicrobelenni) (Cymru) 2018 (19 Meh 2018)

Hannah Blythyn: Ar 5 Mehefin, yn uwchgynhadledd Volvo Ocean, roeddwn yn falch o lofnodi Addewid Moroedd Glân y Cenhedloedd Unedig ynghylch plastig ar ran Llywodraeth Cymru. Mae cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon sy'n  gwahardd microbelenni yn cefnogi'r addewid hwn ac mae'n rhan o becyn ehangach o gamau gweithredu sydd eisoes ar waith gan Lywodraeth Cymru, a thrwy weithio mewn partneriaeth, i leihau lefelau...

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Ansawdd Aer (20 Meh 2018)

Hannah Blythyn: Diolch, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am gyflwyno hyn, y ddiweddaraf mewn cyfres o ddadleuon ar ansawdd aer. Mae'n bwnc y mae pawb ohonom wedi dweud o'r blaen, ac yr wyf fi fel Gweinidog yr Amgylchedd wedi dweud, sy'n flaenoriaeth uchaf nid yn unig i mi yn fy mhortffolio fy hun ond ar draws y Llywodraeth hefyd. Credaf fod y ddadl heddiw a noddwyd gan Aelodau o bob plaid yn dyst i'r...

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Ansawdd Aer (20 Meh 2018)

Hannah Blythyn: A'r ail yw addysgu plant a rhieni ynglŷn â materion ansawdd aer ac archwilio atebion ar y cyd, megis rhannu ceir a pholisïau dim segura o amgylch ysgolion. I ategu'r canllawiau hyn, byddaf yn darparu arian i godi ymwybyddiaeth o ansawdd aer drwy'r fenter Eco-Sgolion a phrosiect y Dreigiau Ifanc. Yn wir, cyfarfûm â disgyblion a staff yn Ysgol Pen-y-bryn yng Nghaerdydd y bore yma i weld...

8. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Y Strategaeth Goetiroedd (26 Meh 2018)

Hannah Blythyn: Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw hoffwn gyhoeddi newidiadau i bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer coetiroedd. Mae'n amserol gwneud hynny yn awr. Wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd daw llawer o heriau i'n rhan, ond cawn hefyd gyfrwng i gynyddu'r enw da sydd gan Gymru o safbwynt nwyddau a gwasanaethau o ansawdd uchel, wedi'u seilio ar adnoddau naturiol cadarn. Rwy'n dymuno sicrhau bod gan y...

8. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Y Strategaeth Goetiroedd (26 Meh 2018)

Hannah Blythyn: Diolch. Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac am ei gyfraniad, a'r mewnbwn gwerthfawr yn awr, yn arbennig wrth ichi gyfeirio at eich cyd-Aelod, David Melding a'r holl waith a wnaeth yn y maes hwn. Wrth gwrs, fel y nodais yn glir yn fy natganiad, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth lle, os ydym ni am gyflawni'r hyn y dymunwn ar gyfer Cymru, nid oes gan neb fonopoli ar syniadau da, a dyna pam mae'n...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.