Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar iawn o gael cyfle i gyfrannu at y datganiad heddiw ac ymateb iddo. Fel nodwyd eisoes, mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn ddiwrnod yr ydym ni'n cofio am bob un o'r bywydau hynny a gollwyd yn yr Holocost yn drist iawn. Am mai'r thema eleni yw 'pobl gyffredin', mae hi'n werth cofio am y bobl gyffredin hynny a phwy oedden nhw. Roedd tua chwe miliwn o Iddewon, hanner miliwn o bobl...
Samuel Kurtz: Diolch i'r Gweinidog am roi golwg o'r datganiad imi o flaen llaw—diolch yn fawr. Roedd canlyniadau cyfrifiad 2021 yn siom, o ystyried uchelgais y Llywodraeth Cymru hon: miliwn o siaradwyr erbyn 2050, rwy'n ei gweld fel setback sylweddol bod Cymru wedi mynd yn ôl ar gyrraedd ein targed. Felly mae'n bwysig nad ydyn ni'n gadael i'r setback yma danseilio'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni....
Samuel Kurtz: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, arwyddodd ColegauCymru a Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu gytundeb cydweithio hirddisgwyliedig yng Ngholeg Sir Benfro. Disgwylir i'r cytundeb gryfhau'r berthynas rhwng cynrychiolwyr colegau addysg bellach yng Nghymru a chynrychiolwyr y diwydiant adeiladu, a chydnabyddiaeth fod gan y ddau sefydliad ddiddordeb cyffredin mewn cefnogi'r diwydiant...
Samuel Kurtz: Mae'r Gweinidog wedi crybwyll yn y gorffennol ei strategaeth bwyd cymunedol, mater yr ydym wedi ei drafod mewn pwyllgor. Nawr, rydyn ni'n dal i aros am ddatblygiad y strategaeth, ac, fel mae'n sefyll, nid oes ganddi ddyfnder na sylfaen go iawn. Sylwaf fod dymuniadau clodwiw Jenny Rathbone yn cyd-fynd yn berffaith â Bil Bwyd (Cymru) Peter Fox, sydd ar ei hynt drwy'r broses ddeddfwriaethol ar...
Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am roi golwg ymlaen llaw i mi o'r datganiad y prynhawn yma. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod bod yn rhaid inni ddatblygu strategaeth bolisi integredig er mwyn cyflawni 'Cymraeg 2050' a fydd yn gweld Llywodraeth Cymru'n cydweithio ag awdurdodau lleol, a vice versa, nid mewn seilos ar wahân. Er nad oes gen i wrthwynebiad i'r hyn y mae'r cynlluniau...
Samuel Kurtz: Fel sydd wedi ei sefydlu, mae Cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg yn ddull gan Lywodraeth Cymru o sicrhau bod pob un o'r 22 o awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau er budd amcanion a thargedau Llywodraeth Cymru ei hun, yn yr achos hwn, 'Cymraeg 2050'. Mae awdurdodau lleol yn cyflwyno eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg i Lywodraeth Cymru, sy'n penderfynu os ydyn nhw'n...
Samuel Kurtz: Weinidog, mae'n ymddangos fy mod yn ailadrodd hyn ymhob datganiad ynghylch y Gymraeg. Rwy'n rhannu eich uchelgais ar gyfer ein hiaith. Rwyf am ei gweld yn ffynnu ymhob lleoliad ledled Cymru, boed hynny yn yr ystafell ddosbarth, ar hyd y stryd fawr, neu wrth ddesg y swyddfa. Ond, i wneud hyn, mae'n rhaid inni ddod â phawb ar y daith gyffredin hon, a gallwn wneud hynny drwy ddatblygu polisïau...
Samuel Kurtz: Rwy'n sicr yn croesawu'r cyfle i siarad ar BVD a'r clafr, dau glefyd dinistriol sy'n gofyn yn haeddiannol am sylw Llywodraeth Cymru. Rwy'n falch o glywed nifer y cyhoeddiadau yr ydych chi wedi'u gwneud y prynhawn yma, Gweinidog, ac yn croesawu'r rhai a fydd yn helpu i gefnogi'r gymuned amaethyddol yn eu hymdrechion eu hunain i frwydro yn erbyn yr anhwylderau hyn, felly diolch. Mae eich...
Samuel Kurtz: I symud y pwyslais at les anifeiliaid nad ydyn nhw'n anifeiliaid anwes, rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol yn eich swyddogaeth fel y Gweinidog materion gwledig bod dyfrgwn a llwynogod wedi'u dynodi'n gludwyr y ffliw adar pathogenig iawn H5N1. Yn ôl data'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, mae 66 o famaliaid wedi eu profi hyd yma ar gyfer y clefyd, a chanfuwyd bod naw o ddyfrgwn...
Samuel Kurtz: Fel bob amser, rwy'n ddiolchgar iawn am gael y cyfle i gyfrannu yn y ddadl y prynhawn yma. Byddwn yn pleidleisio o blaid egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Fel y soniwyd eisoes, mae hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth nodedig i gymuned amaethyddol Cymru. Am y tro cyntaf erioed, mae Cymru ar fin manteisio ar gael ei deddfwriaeth amaethyddol gyntaf, a luniwyd yma yng Nghymru, wedi'i theilwra i natur y...
Samuel Kurtz: 3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno Cwricwlwm i Gymru Llywodraeth Cymru? OQ59074
Samuel Kurtz: Weinidog, un o'r ffyrdd gorau o gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yw annog ei defnydd mewn lleoliad anffurfiol. Mae gweithio gyda sefydliadau fel y clwb Ffermwyr Ifanc ledled sir Gaerfyrddin yn gallu bod yn rhan allweddol o’r gwaith o sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targed Cymraeg 2050. Yn ddiweddar, rwyf i wedi codi gyda’r Gweinidog materion gwledig y ffaith mai’r unig gymorth ariannol y...
Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am eich ateb, Weinidog. Ers cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio mai pwrpas asesu disgyblion yw llywio'r ffordd y mae athrawon yn cefnogi disgyblion. Ond mae diffyg fframwaith asesu amlwg a chlir wedi achosi i un pennaeth lleol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro deimlo'n bryderus am gyfnod pontio disgyblion o addysg gynradd i...
Samuel Kurtz: Rwyf bob amser yn ddiolchgar iawn am gael siarad o blaid rhywbeth rwy’n angerddol yn ei gylch yn y Siambr hon, ac rwyf wedi ailysgrifennu’r araith hon bedair neu bum gwaith yn fy mhen, ar ôl gwrando ar y cyfraniadau y prynhawn yma, a chan gofio'r edrychiad a gefais gan y Dirprwy Lywydd ychydig wythnosau yn ôl, byddaf yn ofalus i gadw fy nghyfraniad yn gadarnhaol ac yn galonogol y...
Samuel Kurtz: Diolch i'r Aelod am ei hymyriad, ac mae'n debyg i ymyriadau'r Aelod dros Ogwr o fy mlaen—'Pam fod angen y rhain arnom? Gellir gwneud y pethau hyn beth bynnag.' Ond credaf fod hynny'n camddeall y pwynt o ran yr hyn y mae'n ei wneud. Mae'n gatalydd. Ydy, mae'n bosibl y gall y diwydiannau hyn ffynnu a goroesi heb gais porthladd rhydd a heb y buddion a ddaw yn sgil porthladd rhydd. Ond yr hyn y...
Samuel Kurtz: Sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio gwella mynediad at fannau gwyrdd cymunedol trefol ledled Cymru?
Samuel Kurtz: Diolch, Lywydd. Bob blwyddyn ers pum mlynedd, mae dros 10,000 o wartheg wedi cael eu difa, a dros 50,000 wedi marw oherwydd TB Gwartheg yng Nghymru, ac mae hyn yn cynnwys gwartheg cyflo a laddwyd oherwydd prawf TB positif. Fe wnaeth ffermwr sôn wrthyf am yr adeg y gwyliodd eu buwch a oedd bron â dod â llo yn cael ei lladd ar y fferm gan ddefnyddio dryll 12 bôr i saethu rhwng llygaid yr...
Samuel Kurtz: Diolch. Nid wyf yn credu mai'r hyn a ddisgrifiais fyddai'r ffordd orau ymlaen, felly rwy'n eich annog yn gryf i gael golwg ar hyn eto. Rwy'n gwybod bod prif swyddog milfeddygol newydd yn dechrau ym mis Mawrth, ac rwy'n eich annog i weithio gydag ef i wneud yn siŵr fod yr arfer annynol hwn yn cael ei ddwyn i ben ac y gall y gwartheg hyn loia gydag ychydig o urddas. Yn Sioe Sir Benfro y...
Samuel Kurtz: Mae'n drueni na chafodd y rheolau caffael llawn hynny eu dilyn pan brynwyd Fferm Gilestone. Mae'n ymddangos fel pe bai'n un rheol i un a rheol arall i'r llall. Enghraifft arall sy'n dangos nad yw Llywodraeth Cymru yn yr un cae â ffermwyr yw nad oedd un fferm o Gymru wedi cymryd rhan yn nhreial brechlyn CattleBCG yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Pe bai Llywodraeth Cymru o...
Samuel Kurtz: Rwy'n falch o glywed bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau'r defnydd o blaladdwyr niweidiol, yn enwedig pan fo bygythiad i iechyd pobl, ond gall gwyddoniaeth, technoleg ac arloesi gynnig yr ateb yma, a dyna pam cefais fy ngadael yn rhwystredig gan na roddwyd caniatâd i'r Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl). Gall y ddeddfwriaeth hon gynorthwyo ein cydnerthedd yn erbyn rhai o'r heriau...