Canlyniadau 321–340 o 2000 ar gyfer speaker:Mark Reckless

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Treth trafodiadau tir ar dir masnachol ( 9 Mai 2018)

Mark Reckless: Wel, y rheswm rydym yn gwrthwynebu'r gwelliant yw ei fod yn dechrau gyda 'dileu popeth' gan gyfeirio at ein cynnig. Hefyd, mae gennym rai pryderon ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn cael ei thrin o gymharu ag awdurdodau lleol a chyrff eraill o bosibl, a'r gwahaniaethau posibl rhwng treth trafodiadau tir a threth dir y dreth stamp a'r effeithiau canoli y credwn y gallai hynny eu cael ar...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Treth trafodiadau tir ar dir masnachol ( 9 Mai 2018)

Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Treth trafodiadau tir ar dir masnachol ( 9 Mai 2018)

Mark Reckless: A all egluro sut y bydd yn cael y dreth hon drwy godi'r gyfradd o 5 y cant i 6 y cant pan fo'r bobl sy'n buddsoddi yn cael cyfle i beidio â'i thalu o gwbl drwy fynd i Reading neu Fryste neu Birmingham yn lle hynny?

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Treth trafodiadau tir ar dir masnachol ( 9 Mai 2018)

Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Treth trafodiadau tir ar dir masnachol ( 9 Mai 2018)

Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Treth trafodiadau tir ar dir masnachol ( 9 Mai 2018)

Mark Reckless: Ond onid yw'n wir, drwy gamu i mewn a phrynu'r safle hwn, fod Llywodraeth Cymru, nad yw'n talu treth oherwydd esemptiad y Goron, yn osgoi treth a fyddai'n cael ei thalu o bosibl gan un arall o'i phartneriaid? Dywed y canllawiau ar y dreth trafodiadau tir os caiff y tir ei brynu ar y cyd ag awdurdod cyhoeddus arall nad yw'n esempt yn y fath fodd, e.e. awdurdod lleol, ni fydd yr esemptiad yn...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Treth trafodiadau tir ar dir masnachol ( 9 Mai 2018)

Mark Reckless: A wnaiff y Gweinidog ildio? Rwy'n deall bod prynu'r safle hwn ar 28 Mawrth, a rhoi'r brydles 999 mlynedd ar 29 Mawrth, wedi digwydd o dan drefn treth dir y dreth stamp. Pe bai wedi digwydd dri diwrnod yn ddiweddarach, ni fyddai Gweinidogion wedi osgoi eu cyfundrefn eu hunain. Rwyf wedi codi pwyntiau difrifol iawn ynglŷn â beth sy'n digwydd i awdurdodau lleol, beth sy'n digwydd i gyrff...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Treth trafodiadau tir ar dir masnachol ( 9 Mai 2018)

Mark Reckless: Ni ddywedais hynny. Ni wnaethom ddweud hynny.

7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Isafbris am alcohol ( 9 Mai 2018)

Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?

7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Isafbris am alcohol ( 9 Mai 2018)

Mark Reckless: Fe ddywedoch ar ddechrau'r araith hon fod hyn yn debyg i dreth. Onid y gwahaniaeth mawr o gymharu â Sgandinafia yw ei bod hi'n dreth yno, ac o leiaf fe ellir defnyddio'r refeniw i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel? Yma, byddai'r arian a godir ond yn creu elw uwch i'r cwmnïau preifat sy'n eu cynhyrchu a'u gwerthu.

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (15 Mai 2018)

Mark Reckless: Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o allu siarad heddiw o blaid Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi ein cydsyniad deddfwriaethol i Fil ymadael yr Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, dyma ddull deddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer gadael yr UE yn y ffordd sy'n rhoi mwyaf o sicrwydd, parhad a'r reolaeth, ac rwy'n falch iawn ei gefnogi. Yn sesiwn gwestiynau cyntaf y Prif Weinidog ar ôl yr haf, roeddwn...

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (15 Mai 2018)

Mark Reckless: Diben Plaid Cymru yw sefydlu Cymru annibynnol, gan chwalu'r Deyrnas Unedig. Rwy'n parchu, ond nid wyf yn cytuno â'ch amcan. I ddychwelyd at y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yr ydym ni'n ei drafod heddiw, mae'r Bil hwn wedi gwella yn aruthrol drwy ymdrechion, ie, Llywodraeth Cymru, ond hefyd, rwy'n credu, rhai eraill, a hoffwn longyfarch Mark Isherwood a David Melding ynglŷn â sut maen nhw...

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (15 Mai 2018)

Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (15 Mai 2018)

Mark Reckless: Onid yw'n wir, yn ogystal â'r cytundeb rhynglywodraethol, bod gennym ni, o ran confensiwn Sewel, ymestyniad i'r pwerau gwneud rheoliadau a gofyniad bod yn rhaid i Dŷ'r Arglwyddi eu cymeradwyo hefyd?

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (15 Mai 2018)

Mark Reckless: Diolch. Dywedodd mai'r dewis arall oedd dychwelyd at ddrafft anfoddhaol y Bil blaenorol, ond onid yw hi'n wir, mewn gwirionedd, bod ei Lywodraeth wedi diogelu pobl yr Alban a'u setliad datganoli, ac mai ei negodi ef o'r hyn y mae wedi cytuno arno ar gyfer Cymru a fydd yn berthnasol bellach i'r Alban, er nad yw Nicola Sturgeon wedi gwneud y peth synhwyrol y mae ei Lywodraeth ef wedi ei wneud?

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ: Hyrwyddo Cynhwysiant Digidol (16 Mai 2018)

Mark Reckless: Arweinydd y tŷ, mae Casnewydd wedi bod yn denu buddsoddiad i'r sector digidol ac mae'n awyddus i ddenu llawer mwy gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Fe sonioch chi am yr academi feddalwedd a'r potensial ar gyfer cymwysterau lefel gradd. A oes angen sicrhau hefyd fod hyd yn oed mwy o bwyslais ar hyfforddiant ar gyfer pobl sydd, efallai, mewn swyddi ar gyflogau is ar hyn o bryd, ac sy'n...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (22 Mai 2018)

Mark Reckless: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cydbwysedd rhwng buddsoddiad cyhoeddus a phreifat yng Nghasnewydd?

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: 'Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol. Rhan un: safbwynt o Gymru' (23 Mai 2018)

Mark Reckless: A yw'n ymwybodol y byddai hyn yn haws o lawer i'w weithredu ar ffin Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon nag ydyw yn y Swistir? Soniodd yr Aelod fod 10 gwaith y nifer o bobl yn croesi ffin y Swistir, ond o ran nwyddau, mae'r ffigur ar gyfer y nwyddau sy'n croesi ffin Gogledd Iwerddon oddeutu un rhan o gant o'r nwyddau sy'n croesi ffin y Swistir.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.