Lesley Griffiths: Ie, pan oeddwn yn bresennol ar safle’r arllwysiad—ar Ddydd Sadwrn 8 Hydref rwy’n credu—cyfarfûm â Valero a Cyfoeth Naturiol Cymru, ac roeddwn yn falch iawn o weld y ffordd roeddent yn gweithio gyda’i gilydd. Ond rydych yn hollol gywir; ar y pryd, nid oedd achos yr arllwysiad wedi’i ganfod, ond mae’n bwysig—mae’n biblinell hir iawn—mae’n wirioneddol bwysig ei bod yn...
Lesley Griffiths: Diolch. Byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y mater hwn yfory. Byddwn yn ymchwilio i’r posibilrwydd o gyflwyno cynllun, megis cofrestru neu drwyddedu, ar gyfer arddangosfeydd symudol o anifeiliaid, gan gynnwys syrcasau, sy’n arddangos anifeiliaid domestig ac egsotig yng Nghymru. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal yma yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Lesley Griffiths: Mae wedi bod yn broblem dros amser maith, ac mae’n rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb arbennig ynddo ers i mi gychwyn yn y swydd ym mis Mai. Yn ddiweddar, cyfarfûm â Gweinidog DEFRA, oherwydd roeddwn eisiau cymryd rhan mewn trafodaethau gyda hwy i weld a allem gael rhyw fath o gynllun a mentrau ar y cyd yn y dyfodol. Roedd yn awyddus iawn hefyd i siarad â’r Alban a Gogledd Iwerddon i...
Lesley Griffiths: Wel, fel y dywedaf, mae’n rhywbeth rwyf wedi cymryd diddordeb arbennig ynddo, wyddoch chi, chwe mis—wel, saith mis—i mewn i’r swydd. Rwyf wedi cael nifer o drafodaethau. Rwyf wedi cyfarfod â Gweinidog DEFRA bellach. Rydym wedi bod yn aros i weld—. Nid oes gennym unrhyw syrcasau trwyddedig yma yng Nghymru mewn gwirionedd; maent yn cael eu trwyddedu yn Lloegr. Felly, rwy’n credu ei...
Lesley Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn eich bod wedi cyflwyno’r pwnc hwn, Bethan, ar gyfer eich dadl fer heddiw. Fel y dywedwch, fe wnaethoch ei ddwyn i fy sylw mewn cwestiwn llafar yn ôl ym mis Hydref a’r wythnos diwethaf, atebais gwestiwn ysgrifenedig a gyflwynwyd gan Paul Davies, sydd yn y Siambr. Dywedais wrth y ddau ohonoch nad oedd yn rhywbeth roeddwn wedi ei ystyried erioed,...
Lesley Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mewn ymateb i achosion o ffliw adar H5N8 pathogenig iawn ar draws Ewrop, gogledd Affrica a'r dwyrain canol, fel mesur rhagofalus, gwnes i ddatgan Cymru gyfan yn barth atal ffliw adar ar 6 Rhagfyr 2016. Mae'r parth atal yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r holl bobl sy’n cadw dofednod, ac adar caeth eraill, gadw eu hadar dan do, neu gymryd pob cam priodol i’w cadw...
Lesley Griffiths: Ni allaf roi digon o bwyslais ar yr angen i’r rhai hynny sy'n cadw heidiau o ddofednod ac adar domestig barhau’n effro i arwyddion o’r clefyd, i gysylltu â'u milfeddygon preifat os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon ac i arfer y lefelau uchaf o fioddiogelwch.
Lesley Griffiths: Diolchaf i Paul Davies am ei gwestiynau a’i sylwadau. Rwy'n credu ei bod yn dda iawn eich bod chi, i ryw raddau, wedi ailadrodd yr hyn a ddywedais am y risg i iechyd y cyhoedd: mae'n isel iawn, ni chafwyd yr un achos cyhoeddus o’r straen hwn o ffliw, ac mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dweud ei bod hi’n ddiogel iawn i fwyta dofednod ac wyau. Rwy'n credu ein bod ni wedi...
Lesley Griffiths: Os caf i ddechrau drwy ateb cwestiynau olaf Simon Thomas: a ydw i'n hyderus bod pawb a chanddyn nhw hyd yn oed un aderyn yn gwybod amdano? Byddwn i’n dweud 'nac ydw'. Dyna pam mae hi mor bwysig, fel y gwnaethoch chi ddweud, ein bod ni fel gwleidyddion yn rhannu’r wybodaeth honno. Cynhaliodd y Prif Swyddog Milfeddygol rownd sylweddol o gyfweliadau yr wythnos diwethaf. Ymddangosodd hi...
Lesley Griffiths: Diolch. Yn sicr, nid wyf i eisiau cael fy nghymharu ag Edwina Currie, felly rwy’n croesawu eich sylwadau ynglŷn â mesurau cymesur. Rydych chi'n hollol iawn: ceir amrywiaeth o straeniau o ffliw adar ac mae’r un yma yn un llwybr uchel, yr H5N8 hwn. Rwy’n credu eich bod chi’n codi pwynt diddorol yn ymwneud â’r cyhoedd yn gyffredinol, oherwydd, wyddoch chi, mae hi wedi bod yn...
Lesley Griffiths: Diolch i chi, Joyce Watson, am y sylwadau a’r cwestiynau yna. Rwy’n credu eich bod chi’n hollol iawn: mae angen i ni sicrhau bod y cyhoedd yn deall os ydyn nhw’n dod ar draws aderyn marw neu grŵp o bump o adar marw, y dylen nhw adrodd am hynny, ond mae angen iddyn nhw wybod wrth bwy i adrodd. Felly, ceir llinell gymorth Prydain Fawr, ond rydych chi’n hollol iawn: gallan nhw...
Lesley Griffiths: Diolch. Gair ynglŷn â chwestiynau’r Aelod yn ymwneud â brechu, ni cheir yr un brechlyn mewn gwirionedd yn erbyn H5N8 sydd wedi’i awdurdodi i'w ddefnyddio yn y DU ar hyn o bryd. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwynt pwysig iawn i’w nodi. Fe wnes i sôn, mewn ateb blaenorol, am awdurdodau lleol, ac yn sicr yn Sir Gaerfyrddin, dywedodd fy swyddogion yn arbennig pa mor gyflym y buont yn...
Lesley Griffiths: Yn ffurfiol.
Lesley Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r testun ar gyfer y ddadl heddiw ac i’r Aelodau am eu cyfraniadau. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau’n deall fy mod wedi fy nghyfyngu o ran yr hyn y gallaf ei ddweud am brosiectau neu gynigion penodol, o gofio fy rôl statudol o dan gyfundrefnau cynllunio gwlad a thref a thrwyddedau morol. Y mis diwethaf yn y Siambr hon,...
Lesley Griffiths: Yn ffurfiol.
Lesley Griffiths: Diolch, Lywydd. Diolch i bawb am gymryd rhan yn y ddadl heddiw. Bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn dweud droeon fod amlder casgliadau gwastraff gweddilliol yn fater i awdurdodau lleol unigol, ac mae hyn yn caniatàu iddynt ystyried anghenion lleol ac adlewyrchu blaenoriaethau lleol. Gwyddom fod y Blaid Geidwadol yn frwd ynglŷn â lleoliaeth ac ymreolaeth mewn llywodraeth leol, ond fel eu...
Lesley Griffiths: A wnewch chi gymryd ymyriad?
Lesley Griffiths: Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi dweud wrthyf fod y treial yn mynd yn dda iawn. Os gallwch ddarparu tystiolaeth yn erbyn hynny, rhowch wybod i mi.
Lesley Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r ddadl hon yn ymwneud â sut y gallwn sicrhau gwelliannau hanfodol i ansawdd bywyd pobl ac i'w lles. Rwyf eisiau tynnu sylw at y cysylltiadau rhwng llawer o faterion amgylcheddol lleol sy'n cyfuno i wneud lleoedd yn ddigalon ac yn afiach. Gall y materion hyn gael effaith hefyd ar gydlynu cymunedol, rhagolygon buddsoddi a’r gallu ar gyfer buddsoddiant a’r...
Lesley Griffiths: Diolch, Lywydd. Diolch i'r Aelodau am y ddadl adeiladol iawn, ac mae'n dda cael cefnogaeth pawb. Mae'n rhaid i mi ddweud, ers i mi ddechrau yn y swydd, mae’n debyg mai ansawdd yr aer sy’n llenwi’r rhan fwyaf o fy mag post gan Aelodau’r Cynulliad eu hunain. I droi yn gyntaf at welliant y Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n hapus iawn i gefnogi hwnnw. Soniodd Gareth Bennett am yr Ardaloedd...