Canlyniadau 321–340 o 2000 ar gyfer speaker:Mike Hedges

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg (12 Rha 2017)

Mike Hedges: Ceir tair lefel ar gyfer datblygu tair lefel o siaradwyr Cymraeg: yn dilyn y gwelliant aruthrol i addysgu Cymraeg mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg, ni ddylai unrhyw blentyn adael yr ysgol gynradd fel siaradwr uniaith Saesneg, nad oedd yn wir pan oeddwn i yn yr ysgol; y rhai sy'n cael eu haddysgu mewn ysgolion trwy gyfrwng y Gymraeg; a'r rhai sy'n astudio'r Gymraeg yn y brifysgol. Pa...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (12 Rha 2017)

Mike Hedges: Mae iechyd yn fwy nag ysbytai ac achosion brys; mae'n ymwneud â dewisiadau o ran ffordd o fyw. Mewn treialon, cafodd hanner y bobl a oedd wedi bod â diabetes math 2 ers llai na chwe blynedd eu gwella gan ddeiet yn unig. Rydym ni'n gwybod pa mor niweidiol yw ysmygu a pha mor bwysig yw deiet ac ymarfer corff. Trwy weithio gyda meddygon teulu, gallwn wella iechyd. Hoffwn ofyn am ddatganiad ar...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (13 Rha 2017)

Mike Hedges: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am arolygiadau Estyn yng Nghymru?

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (13 Rha 2017)

Mike Hedges: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion i atal diabetes math 2 yng Nghymru?

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd (13 Rha 2017)

Mike Hedges: Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar yr adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ein hymchwiliad i bolisïau coetiroedd yng Nghymru. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd blaenorol y Pwyllgor, Mark Reckless, a chyn-aelodau'r pwyllgor, Vikki Howells, Siân Gwenllian a Huw Irranca-Davies, am y gwaith a wnaethant ar yr adroddiad hwn, a chafodd y rhan...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd (13 Rha 2017)

Mike Hedges: Yn gyffredinol, canfu'r ymchwiliad fod rhanddeiliaid yn teimlo bod cyfeiriad polisi strategaeth 'Coetiroedd i Gymru' Llywodraeth Cymru yn briodol. Fodd bynnag, roeddent i gyd yn galw am ei adnewyddu ar frys er mwyn cynyddu'r cyfraddau plannu yn sylweddol. Rydym wedi gwneud 13 o argymhellion. Rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 12 o'r argymhellion hynny naill ai yn llawn neu...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd (13 Rha 2017)

Mike Hedges: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i David Melding, Simon Thomas, David Rowlands, Vikki Howells, Jayne Bryant, Mark Isherwood ac i'r Gweinidog am gymryd rhan yn y ddadl hon, ac yn bwysicaf oll, rwy'n credu, am y ffordd gadarnhaol a chydsyniol rydym wedi ei symud yn ei blaen? Credaf y gallwn eistedd yn awr a dweud, 'Wel, rydym i gyd yn cytuno, onid ydym?' Ond mae yna...

9. Dadl Fer: Y diwydiant adeiladu yng Nghymru (13 Rha 2017)

Mike Hedges: Roeddwn yn meddwl eich bod am ddweud hynny.

9. Dadl Fer: Y diwydiant adeiladu yng Nghymru (13 Rha 2017)

Mike Hedges: Nid yw'n beth da cael eich dewis ar gyfer yr wythnos olaf o'r tymor.

9. Dadl Fer: Y diwydiant adeiladu yng Nghymru (13 Rha 2017)

Mike Hedges: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gobeithio dangos pwysigrwydd y diwydiant adeiladu, pwysigrwydd prentisiaethau a chael gweithlu adeiladu medrus, pwysigrwydd cefnogi a thyfu cwmnïau adeiladu yng Nghymru a hefyd, pwysigrwydd prosiectau mawr fel y morlyn llanw yn Abertawe. Pe bawn wedi bod yn gwneud yr araith hon ddwy flynedd yn ôl, y peth trist yw y buaswn yn dal i fod wedi dweud 'pwysigrwydd...

9. Dadl Fer: Y diwydiant adeiladu yng Nghymru (13 Rha 2017)

Mike Hedges: Bydd yr ehangu hwn yn cael ei ysgogi gan amrywiaeth o brosiectau seilwaith mawr. Mae bron fel pe baem yn aros amdanynt, onid yw? Prosiectau seilwaith fel Wylfa—rydym yn dal i aros. Y morlyn llanw—rydym yn aros. Mae'r gwaith a wnaed gan awdurdodau lleol ar ysgolion a rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, sydd wedi bod yn llwyddiant mawr ac wedi cael cefnogaeth enfawr ar draws y...

9. Dadl Fer: Y diwydiant adeiladu yng Nghymru (13 Rha 2017)

Mike Hedges: Rwyf am ddweud hyn: adolygiad Hendry, y credai llawer ohonom sy'n besimistaidd ei fod yn ei wthio i'r naill ochr, yw'r mwyaf cadarnhaol a glywais erioed. Rwy'n dyfynnu: 'mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir, yn fy marn i, bod môr-lynnoedd llanw yn gallu bod yn rhan gost-effeithiol o gymysgedd ynni'r Deyrnas Unedig.' Yn y pen draw, mae Llywodraeth y DU yn wynebu '[p]enderfyniad strategol,...

9. Dadl Fer: Y diwydiant adeiladu yng Nghymru (13 Rha 2017)

Mike Hedges: O ran prentisiaethau, mae adeiladu angen gweithwyr medrus. Mae angen prentisiaid i ddod drwodd yn lle crefftwyr sy'n ymddeol. Aethom drwy gyfnod o amser heb ddigon o brentisiaid. Mae angen datrys hyn. Rwy'n ymwybodol iawn ac yn gwerthfawrogi'r gwaith a wneir gan CITB, a gwn fod Llywodraeth Cymru yn ceisio gweithio gyda chyflogwyr. Mae pob prentisiaeth yn cynnwys cymhwyster cymhwysedd...

7. Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru ( 9 Ion 2018)

Mike Hedges: Rwyf i ar yr ochr gadarnhaol. Mae dyfodiad y cynllun morol cyntaf erioed ar gyfer Cymru, rwy'n credu, yn foment arwyddocaol yn hanes Cymru fel cenedl forol. Er bod system gynllunio defnydd tir wedi bod ar waith ers 70 o flynyddoedd, ni chafwyd dull gofodol a arweinir gan gynllun strategol i reoli amgylcheddau morol y DU—gan gynnwys Cymru. Nid yw hynny'n golygu bod cynllunio defnydd tir...

7. Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru ( 9 Ion 2018)

Mike Hedges: Rydym wedi bod yn aros yn hir am gynllun i Gymru. Dechreuodd gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn ôl yn 2009, yn cynghori Llywodraeth Cymru ar ei dull gweithredu cychwynnol o gynllunio morol. Nid wyf yn mynd i feirniadu hynny. Mae bob amser yn well cael polisi yn iawn na chael polisi yn gyflym, felly nid wyf yn beirniadu’r amser hir; credaf ei bod yn bwysig ein bod wedi llwyddo i gael hyn yn...

3. Cwestiynau Amserol: Morlyn Llanw Bae Abertawe (10 Ion 2018)

Mike Hedges: A gaf fi ddweud fy mod yn croesawu gweithredu Llywodraeth Cymru yn fawr? Nid wyf yn credu ei bod yn bosibl gorbwysleisio pwysigrwydd y morlyn llanw i ddinas-ranbarth bae Abertawe. Gwn fod Aelodau ar draws y Siambr hon yn cefnogi'r morlyn llanw, ac mae Aelodau rwy'n anghytuno â hwy ar bron bob mater arall yn gwbl gytûn ynglŷn â pha mor bwysig yw hwn i Abertawe a dinas-ranbarth bae...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: 'Y Llanw'n troi? Adroddiad yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig' (10 Ion 2018)

Mike Hedges: Diolch, Lywydd. Credaf fod trafodaethau morol yn debyg i fysiau—rydych yn aros yn hir iawn am un ac mae dau'n cyrraedd yn gyflym iawn. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar yr adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru. Mae angen i mi ddiolch i Gadeirydd blaenorol y pwyllgor, Mark Reckless, ac aelodau o'r pwyllgor...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: 'Y Llanw'n troi? Adroddiad yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig' (10 Ion 2018)

Mike Hedges: Bydd Aelodau'r Cynulliad a rhanddeiliaid yn gweld yn yr ohebiaeth fod Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i’r afael â nifer fach o bryderon niferus y pwyllgor, ond mae’r rhan fwyaf o'n cwestiynau yn dal i fod heb eu hateb. Ond rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i’r afael â’r rheini heddiw. Mae ein hadroddiad, 'Y Llanw’n troi?', yn mynd i'r afael â nifer o bethau, gan...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: 'Y Llanw'n troi? Adroddiad yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig' (10 Ion 2018)

Mike Hedges: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i David Melding, Simon Thomas, Joyce Watson, Neil Hamilton, John Griffiths, ac Ysgrifennydd y Cabinet am gymryd rhan yn y ddadl hon—a Paul Davies am gymryd rhan yn y ddadl hon? Ac rwy'n credu ei bod hi'n wirioneddol—. Credaf ei bod hi'n wirioneddol bwysig fod gennym nifer o bobl nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor sydd â diddordeb yn yr adroddiad...

4. Dadl: Cyllideb Derfynol 2018-19 (16 Ion 2018)

Mike Hedges: Y cyfan fyddwn i'n ei ddweud, wrth gwrs, yw fod Franklin Delano Roosevelt wedi gwneud yn union felly: y Fargen Newydd ddaeth ag America allan o'r dirwasgiad.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.