Canlyniadau 321–340 o 1000 ar gyfer speaker:Caroline Jones

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith (22 Tach 2017)

Caroline Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cysylltiadau trafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru?

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Hen Ardaloedd Diwydiannol (22 Tach 2017)

Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, er gwaethaf 18 mlynedd o bolisïau economaidd eich Llywodraeth, mae hen ardaloedd diwydiannol Cymru, yn enwedig y rhai yn fy rhanbarth, yn parhau i fod ymhlith y tlotaf yn Ewrop—ac mae hynny'n syfrdanol o ystyried bod yr UE wedi ehangu i gynnwys cyn-wledydd dibynnol Sofietaidd. Nid yw arian strwythurol yr UE wedi gweithio. Nid yw'r polisïau wedi gweithio. Mae gennym...

7. Dadl UKIP Cymru: trethi newydd yng Nghymru (22 Tach 2017)

Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae trethiant, er ei fod yn un o'r pynciau mwyaf ymrannol, yn un o'r ysgogiadau economaidd pwysicaf y gall Llywodraeth eu rheoli. Rydym i gyd yn cytuno â'r penderfyniad i roi pwerau i'r Cynulliad dros drethiant. Mae hyn yn dangos y newid o fod yn sefydliad sy'n gwario i un sydd bellach yn gyfrifol am godi rhywfaint o'r arian a wariwn ar wasanaethau cyhoeddus. Mae...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (28 Tach 2017)

Caroline Jones: Pa drafodaethau diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr ystad carchardai yng Nghymru?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion (28 Tach 2017)

Caroline Jones: Prif Weinidog, er gwaethaf Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, mae bron chwarter y cleifion yng Nghymru yn aros yn hwy na 28 diwrnod am asesiad gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, a bydd 20 y cant o'r cleifion hynny yn aros mwy na 28 diwrnod am driniaeth yn dilyn yr asesiad. Yn y misoedd diwethaf, rydym ni wedi cael rhybuddion am brinder seiciatryddion ymgynghorol a phroblemau...

3. Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal (28 Tach 2017)

Caroline Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Weinidog. A hoffwn i hefyd dalu teyrnged i waith ac ymroddiad Carl Sargeant yn y maes hwn. Fel y mae eraill wedi amlygu, mae canlyniadau plant sy'n derbyn gofal yn llawer is nag ar gyfer plant nad ydynt yn ein system gofal. Mae'n rhaid i ni ddarparu cymorth ychwanegol ar gyfer y plant hyn, sydd eisoes wedi cael y dechrau gwaethaf posibl...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Llygredd Aer (29 Tach 2017)

Caroline Jones: Hoffwn innau eich llongyfarch hefyd. Ysgrifennydd y Cabinet—mae'n ddrwg gennyf; Weinidog—mae pobl sy'n byw yn fy rhanbarth yn gorfod ymdopi â pheth o'r llygredd aer gwaethaf yn y DU. Am ychydig ddyddiau yn ystod y mis hwn, bu'n rhaid i blant ysgol ym Margam ymdopi â lefelau PM10 ar ddwywaith y terfyn dyddiol diogel. Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, dyma un o'r heriau iechyd...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cefnogi'r Lluoedd Arfog (29 Tach 2017)

Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi hefyd eich croesawu i'ch rôl? Mawr yw ein diolch i'r lluoedd arfog. Y ffordd orau o ad-dalu'r ddyled yw sicrhau ein bod yn edrych ar eu hôl hwy a'u teuluoedd. Efallai y bydd aelodau o'r lluoedd arfog angen help ychwanegol gyda chynhyrchion ariannol oherwydd eu bod yn gorfod adleoli'n aml. Mae'n bosibl y bydd teuluoedd y personél hyn angen gofal a...

8. Dadl Plaid Cymru: Cyllideb Llywodraeth y DU a Chymru (29 Tach 2017)

Caroline Jones: Nid oedd cyhoeddiad cyllidebol Llywodraeth y DU yn chwyldroadol ac er bod y cyllid ychwanegol i Gymru i'w groesawu, roedd yn siomedig nad oedd unrhyw gyhoeddiad ar forlyn llanw bae Abertawe. Mae bron i flwyddyn ers i adolygiad Hendry gael ei gyflwyno i Lywodraeth y DU, ac eto ni chawsom ddim heblaw distawrwydd gan Weinidogion y DU. Testun mwy o bryder na'r diffyg unrhyw sôn am y morlyn...

8. Dadl Plaid Cymru: Cyllideb Llywodraeth y DU a Chymru (29 Tach 2017)

Caroline Jones: [Torri ar draws.] Ydw, yn sicr. Mae pob un ohonom yn y Siambr hon eisiau gweld Cymru ar blaen o safbwynt ynni'r llanw, a gobeithiaf nad yw'r diffyg newyddion ar y mater hwn gan Lywodraeth y DU yn arwydd o newyddion drwg i ddod. Er gwaethaf y diffyg eglurder ar y morlyn llanw, fe wnaeth cyllideb yr hydref ddarparu rhywfaint o newyddion da i Gymru. Rydym wedi gweld cynnydd yng nghyllideb Cymru...

8. Dadl Plaid Cymru: Cyllideb Llywodraeth y DU a Chymru (29 Tach 2017)

Caroline Jones: Ydw, a rhaid inni reoli'r hyn a gawn yn ofalus iawn. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith mai ardal awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot yw'r ardal waethaf yng Nghymru ar gyfer symudedd cymdeithasol. Y gwir plaen yw bod bron i chwarter ein poblogaeth yn byw mewn tlodi er gwaethaf dau ddegawd o bolisïau economaidd Llywodraeth Cymru a dros £4 biliwn o arian strwythurol gan yr Undeb...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Iechyd Meddwl Amenedigol ( 5 Rha 2017)

Caroline Jones: Prif Weinidog, fel pob gwasanaeth iechyd meddwl, mae gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru yn wynebu'r pwysau deublyg o alw cynyddol a phrinder staff. Mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, tynnodd bron i bob bwrdd iechyd lleol sylw at y ffaith fod diffyg seicolegwyr clinigol digonol yn effeithio ar eu gallu i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr i famau newydd....

6. Dadl: Ansawdd Aer ( 5 Rha 2017)

Caroline Jones: Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y pwnc pwysig hwn. Fel y dywedais yn ystod y cwestiynau yr wythnos diwethaf, mae ansawdd aer gwael yn un o'r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf sy'n wynebu Cymru. Mae hyn yn arbennig o wir yn y rhanbarth yr wyf i'n ei chynrychioli, Gorllewin De Cymru, sydd â pheth o'r aer butraf yn y DU, lle mae mater gronynnol 10 yn aml yn llawer uwch na'r terfyn dyddiol diogel,...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Bargen Dinesig Bae Abertawe ( 6 Rha 2017)

Caroline Jones: 5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU ar fargen ddinesig bae Abertawe? OAQ51425

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Bargen Dinesig Bae Abertawe ( 6 Rha 2017)

Caroline Jones: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU yn rhoi pwyslais o'r newydd ar dyfu economi sy'n cael ei sbarduno gan ddata ac ar ehangu ymchwil a datblygu mewn perthynas â deallusrwydd artiffisial. Mae bwrdd dinas-ranbarth bae Abertawe hefyd yn canolbwyntio ar yr economi ddigidol, a dylent fod mewn sefyllfa ddelfrydol i ysgogi'r buddsoddiad...

7. Dadl ar ddeiseb 'Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar' ( 6 Rha 2017)

Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ar fater pwysig sy'n wynebu fy rhanbarth. Rwy'n byw ym Mhort Talbot, a rhaid i mi ddweud ar y dechrau nad wyf, mewn egwyddor, yn gwrthwynebu sefydlu carchar newydd ym Mhort Talbot—mewn egwyddor. Er gwaethaf protestiadau llawer o bobl sy'n gwrthwynebu'r carchar newydd, mae angen carchar newydd ar Gymru yn...

7. Dadl ar ddeiseb 'Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar' ( 6 Rha 2017)

Caroline Jones: Felly, a ydych yn bychanu trosedd heb feddwl am y dioddefwr felly, David? Oherwydd yr hyn rydych yn ei ddweud yw bod troseddu'n ddibwys, neu fod rhai troseddau'n ddibwys. Nid yw hynny'n wir pan fo'n cynnwys dioddefwr—

7. Dadl ar ddeiseb 'Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar' ( 6 Rha 2017)

Caroline Jones: Wel, rydych newydd ei ddweud. Rhaid i ni fynd i'r afael â gorlenwi, ac yn anffodus, mae hynny'n golygu adeiladu rhagor o garchardai. Ar hyn o bryd, mae gan Gymru bum carchar, ac eto caiff nifer fawr o garcharorion o Gymru eu cadw mewn carchardai yn Lloegr. Mae rhai o wrthwynebwyr y carchar yn honni bod Cymru yn dod yn y Fae Botany newydd, yn dod yn domen sbwriel ar gyfer carcharorion o...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cymorth Iechyd Meddwl yn y Gweithle (12 Rha 2017)

Caroline Jones: Prif Weinidog, rydym ni'n colli cyfartaledd o 2.5 diwrnod fesul cyflogai i absenoldeb sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl bob blwyddyn. Amcangyfrifir hefyd bod presenoldebaeth,pan fo materion iechyd meddwl yn gwaethygu perfformiad gwaith, yn costio tua £15 biliwn y flwyddyn i'r DU. Amcangyfrifir na fydd y driniaeth orau ar gyfer anhwylderau iechyd meddwl ddim ond yn lleihau effaith salwch...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.