Russell George: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y grant gwella addysg i ysgolion?
Russell George: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ofyn i chi pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd dyraniad y gyllideb ar gyfer CAMHS yn cael ei glustnodi?
Russell George: Rwy'n credu bod cytundeb cyffredinol y bydd penderfyniad Tsieina yn her fawr i ni o ran ailgylchu yma yng Nghymru, o ran plastigau. Trwy gomisiynu gwaith technolegau ailgylchu, a fyddai'n troi plastigau diwedd oes yn olew ysgafn, yn gwyr neu'n olew tanwydd trwm sylffwr isel, gallem greu adnodd delfrydol yma ar gyfer amrywiaeth eang o gymwysiadau diwydiant, a gallai hwn, wrth gwrs, fod yn...
Russell George: Wel, diolch ichi, Llywydd—ie, yn wir. Mae'n debyg bod arweinydd y Tŷ wedi dyfalu yr hyn yr hoffwn i holi yn ei gylch yn fy natganiad llafar, a hynny yn wir yw band eang, wrth gwrs, gan ein bod eisoes wedi gweld diwedd y prosiect band eang ffeibr Cyflymu Cymru. Rydych chi wedi gwneud ymrwymiad, rwy'n falch o glywed, i gyflwyno datganiad llafar, ond gwnaethoch sôn y bydd hi'n 16 wythnos nes...
Russell George: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i dyfu economi canolbarth Cymru? OAQ51513
Russell George: Diolch, Lywydd. Blwyddyn newydd dda, Ysgrifennydd y Cabinet. Dros doriad y Nadolig, bûm yn darllen eich cynllun gweithredu economaidd gyda'r nos—[Torri ar draws.] Gwneuthum lawer o bethau cyffrous eraill hefyd. Ond nid yr hyn a oedd ynddo a'm synnodd, ond yr hyn nad oedd ynddo. Felly, hoffwn siarad am rai o'r eitemau hynny heddiw. Nawr, mae enillion yng Nghymru yn is na gweddill y...
Russell George: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, fy nghwestiwn oedd pam na chafodd unrhyw beth ei grybwyll, pam na chafodd unrhyw dargedau eu crybwyll, yn y cynllun gweithredu economaidd. Yma, mae gennyf gopi o adroddiad a gynhyrchwyd gan PricewaterhouseCoopers y llynedd—eitem arall ar fy rhestr ddarllen dros y Nadolig. Nawr, noda hwn fod nifer enfawr o swyddi mewn perygl...
Russell George: Wel, rwy'n gwerthfawrogi eich ateb, ond wrth gwrs, mae'r targedau yn ein cynorthwyo ni fel Aelodau yn y Siambr hon i graffu ar gynlluniau'r Llywodraeth, a heb dargedau, mae'n gwneud ein gwaith ni, wrth gwrs, yn anos. Nawr, mae rhan olaf yr hyn rwyf am ei godi yn ymwneud â chaffael. Mae caffael, wrth gwrs, yn rhan allweddol, yn arf allweddol y gall y Llywodraeth ei ddefnyddio i gefnogi twf...
Russell George: Ysgrifennydd Cabinet, diolch am eich ymateb. Cawsom ymrwymiad calonogol iawn gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â chyllideb Llywodraeth y DU tua diwedd y llynedd, o ran cefnogi bargen twf i ganolbarth Cymru. Yn wir, croesawaf eich ymrwymiad hefyd i fargen twf i ganolbarth Cymru wrth ymateb yn gadarnhaol i argymhelliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am fargen twf ar gyfer...
Russell George: Diolch i chi, Lywydd. Cyflwynaf y cynnig yn enw Paul Davies. Rwy'n dweud hefyd na fyddwn yn cefnogi gwelliant 'dileu popeth' y Llywodraeth, ond byddwn yn cefnogi gwelliant 2 gan Blaid Cymru. Ar hyn o bryd, rwy'n bwriadu ymatal ar welliant 3 Plaid Cymru, ond edrychaf ymlaen at glywed gan lefarydd Plaid Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater penodol hwnnw. Rwy'n tybio ei bod yn anodd i...
Russell George: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau yng nghanolbarth Cymru?
Russell George: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn ichi am unrhyw waith yr ydych chi wedi'i wneud neu yr ydych chi'n bwriadu ei gomisiynu ar ganlyniadau y cwmni hwn yn mynd i'r wal o ran amodau economaidd ehangach y bydd hyn yn eu hachosi i economi Cymru, ac yn enwedig i fusnesau bach? Mae Adam Price wedi codi cwestiynau am y fasnachfraint rheilffyrdd, ond a gaf i bwyso arnoch chi ychydig mwy am y...
Russell George: Prif Weinidog, a gaf i ddweud fy mod i'n credu bod rhaglen Cyflymu Cymru wedi bod yn drychineb cyfathrebu cyhoeddus? Yn sicr addawyd band eang ffibr i'm hetholwyr dro ar ôl tro dim ond i gael eu hysbysu bod yr uwchraddio wedi ei oedi, ar sawl achlysur. Ac maen nhw'n canfod nawr eu bod nhw wedi cael eu gadael mewn twll gan fod Openreach wedi rhedeg allan o amser. Mewn llythyr i mi ar 11...
Russell George: 5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr amserlen ar gyfer adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar lwfansau ar gyfer aelodau etholedig o gynghorau cymuned a thref yng Nghymru? OAQ51544
Russell George: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fuddsoddiad £2.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn TVR? 103
Russell George: Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o brosiect Cysylltiad Canolbarth Cymru?
Russell George: Weinidog, fis Medi diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi comisiynu ymchwil i'r ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru gyflwyno cyfrifoldeb estynedig ar gynhyrchwyr. Nawr, wrth gwrs, gallai hyn annog cynhyrchwyr i lunio eu cynnyrch mewn ffordd wahanol. A gaf fi ofyn pryd rydych yn disgwyl y byddwch yn adrodd ar ganlyniadau'r gwaith ymchwil hwn?
Russell George: A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet, a ymatebodd i lythyr ar y cwestiwn hwn ychydig ddyddiau yn ôl yn unig? Efallai bod eich ateb yn methu'r pwynt i raddau, gan fod hyn yn ymwneud ag amseriad adroddiad panel annibynnol Cymru ar gydnabyddiaeth ariannol ar lwfansau ar gyfer aelodau etholedig. Mae'n rhaid i gynghorau lleol, wrth gwrs, bennu eu cyllidebau erbyn canol mis Ionawr....
Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth gwrs, mae cynnwrf dealladwy ynghylch y penderfyniad—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, ie.
Russell George: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd—roeddwn wedi cynhyrfu gormod wrth ofyn fy nghwestiwn. Wrth gwrs, mae'r bri sydd i fathodyn TVR yn un peth, ond wrth gwrs, nid hynny yw'r unig beth y dylid ei ystyried. Mae £2.5 miliwn yn fuddsoddiad sylweddol, ac mae'r cyhoedd, wrth gwrs, yn awyddus i weld tystiolaeth fod arian trethdalwyr yn cael ei ddiogelu'n...