Mark Isherwood: Yn olaf, felly, yng nghyd-destun helpu awdurdodau lleol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus i ddeall sut y gall hyn wella bywydau, mae’n ymwneud ag ymyrraeth gynnar ac atal ac arbed arian i’r gwasanaethau statudol a ddarperir ganddynt, fel ei fod yn rhan o’r agenda honno mewn gwirionedd. Efallai eich bod yn ymwybodol, ac os nad ydych, gobeithio y byddwch yn awr, y bydd cynhadledd...
Mark Isherwood: Wel, chwe blynedd ar ôl i chi ddewis peidio â derbyn cyngor adroddiad Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ‘Cymunedau yn Gyntaf—Ffordd Ymlaen’, a oedd yn dweud mai’r cynhwysyn coll oedd perchnogaeth gymunedol, ac ar ôl i £0.5 biliwn fynd i mewn i’r rhaglen, fe ddywedoch wrth y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yr wythnos diwethaf na fyddai rhaglen arall yn dod...
Mark Isherwood: Diolch. Wel, gan adeiladu ar thema’r ychydig gwestiynau olaf, rwy’n cytuno’n llwyr â’r llwybrau a nodwch allan o dlodi, ond oni bai eich bod yn dod o hyd i achosion sylfaenol y problemau y mae pobl yn eu hwynebu, yn aml ni fydd yn bosibl dod o hyd i’r llwybrau allan o dlodi. Yr wythnos diwethaf, dywedodd eich cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, wrth...
Mark Isherwood: Diolch. Canfu arolwg tadolaeth blynyddol 2016 y DU fod 25 y cant o dadau’n dweud nad oedd digon o gymorth i’w helpu i chwarae rhan gadarnhaol ym mywyd y teulu. Yng Nghymru, canfu arolwg tadau Cymru, sydd newydd gael ei gyhoeddi, er nad yw’r rhan fwyaf o dadau a ffigurau tadol yn cael problemau gyda rhoi gofal, roedd dwy ran o dair yn dal i deimlo nad oedd eu rôl yn cael ei...
Mark Isherwood: Yr wythnos diwethaf, cynhaliais a siaradais yn lansiad y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni. Roeddwn yn aelod o’r grŵp trawsbleidiol golwg ar ynni yn ystod yr ail Gynulliad a chadeiriais y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd yn ystod trydydd a phedwerydd tymor y Cynulliad. Bu inni weithio gyda’n gilydd i sefydlu’r Gynghrair Tlodi Tanwydd ac i lansio’r...
Mark Isherwood: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at gynnyrch tybaco yng Nghymru? OAQ(5)0695(FM)
Mark Isherwood: Diolch i chi am hynna. Wel, canfu arolwg masnach gwrth-anghyfreithlon 2016 Cymdeithas y Gweithgynhyrchwyr Tybaco fod 62 y cant o ysmygwyr yng Nghymru wedi prynu cynhyrchion tybaco heb dollau. Mae gwobrau ariannol y fasnach anghyfreithlon hon yn fawr; mae’r cosbau yn fach. Mae hyn yn bygwth un o bob wyth o siopau cornel yng Nghymru a ledled y DU, ac yn fwyaf pryderus, nid yw pobl yn deall...
Mark Isherwood: 3. Beth oedd blaenoriaethau Ysgrifennydd y Cabinet wrth ddyrannu arian i brif grŵp gwariant cymunedau a phlant yng nghyllideb derfynol 2017-18? OAQ(5)0145(FLG)
Mark Isherwood: Gan adeiladu ar ddogfen weledigaeth twf Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yr haf diwethaf, mae’r tîm sy’n datblygu cais y fargen dwf wedi galw am bwerau datganoledig i’r rhanbarth, gan gynnwys sgiliau, trafnidiaeth, cynllunio defnydd tir strategol, arloesi busnes, swyddogaethau cynghori, cyngor ar yrfaoedd a threthiant. O ran trethiant, nid ydynt yn cyfeirio at ardrethi busnes,...
Mark Isherwood: Diolch. Yn amlwg, mae’r portffolio hwn yn cynnwys pethau fel teuluoedd, plant, diwygio lles, cynhwysiant ariannol, digartrefedd a chyngor ar dai yn y sector gwirfoddol. Mae cael cyngor yn y meysydd hynny nid yn unig yn well i bobl, ond byddai’n arbed arian mewn gwirionedd i bwrs y wlad. Felly, o ystyried bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi comisiynu, ochr yn ochr â’r Rhwydwaith Cynghori...
Mark Isherwood: Dywed Llywodraeth y DU bod sicrhau cytundeb ar hawliau gwladolion yr UE yn y DU a gwladolion y DU yn yr UE bob amser wedi bod yn flaenoriaeth, ond wrth gwrs, cyn dechrau’r trafodaethau ffurfiol, roedd y Comisiwn a Llywodraeth y DU wedi dweud na allai cynigion a gwrthgynigion a thrafodaethau ar gytundebau gychwyn nes i’r trafodaethau gychwyn yn ffurfiol. Felly, mae’r DU wedi rhoi cynnig,...
Mark Isherwood: Os yw ffyniant cymunedau ledled Cymru i gael ei wella, mae’n rhaid i gynlluniau adfywio, yn anad dim, rymuso’r bobl sy’n byw yn y cymunedau hynny. Fel y bûm yn pwysleisio ers cyrraedd y Cynulliad yn 2003, mae tai yn allweddol i adfywiad cynaliadwy cymunedau, nid yn unig o ran brics a morter, ond o ran ychwanegu gwerth drwy ryddhau’r potensial dynol mewn cymunedau. Fodd bynnag, er nad...
Mark Isherwood: Gwnaf.
Mark Isherwood: Yng Nghymru, yr unig ran o’r DU a lywodraethir gan Gymru, mae gennym y lefel uchaf o gontractau nad ydynt yn barhaol yn y DU, a’r ail lefel uchaf o gontractau dim oriau o blith 12 gwlad a rhanbarth y DU. Dyna etifeddiaeth Llafur. Gweddill y DU, gwyliwch a dysgwch—dyma a gaech yn Llundain pe baech yn ailadrodd eu camgymeriadau. Wrth sôn am Bapur Gwyn Ionawr 2017, ‘Diwygio Llywodraeth...
Mark Isherwood: A wnewch chi ildio?
Mark Isherwood: Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno bod Cymru yn rhan o’r DU a bod diwygiadau lles Llywodraeth y DU yn berthnasol ledled y DU. Pam fod Cymru ar y gwaelod yn yr holl fesurau cymdeithasol allweddol a ddyfynnais?
Mark Isherwood: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am raglenni cyflogadwyedd yng Nghymru? OAQ(5)0713(FM)
Mark Isherwood: Diolch i chi am hynna. Fel y byddwch yn gwybod, mae Rhaglen Gwaith ac Iechyd Llywodraeth y DU yng Nghymru yn destun proses dendro ar hyn o bryd, a rhagwelir y bydd yn cyrraedd 16,000 o bobl anabl, pobl â chyflyrau iechyd, neu'r rhai sydd wedi bod yn ddi-waith ers mwy na dwy flynedd, er bod 270,000 o bobl economaidd anweithgar yng Nghymru, ac eithrio myfyrwyr a phensiynwyr, yn ôl ffigurau...
Mark Isherwood: A gaf i alw am ddatganiad unigol ar ddiagnosis o gyflyrau sbectrwm awtistiaeth? Dim ond heddiw, rwyf wedi cael llythyr oddi wrth Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch merch i etholwr nad oedd wedi derbyn diagnosis o awtistiaeth drwy ei gwasanaeth iechyd meddwl plant a’r glasoed, ond a gafodd ddiagnosis gan feddyg annibynnol, profiadol—clinigydd, sydd mewn gwirionedd mor...
Mark Isherwood: Gan ddychwelyd, rwy’n credu, at y mater a godwyd ddoe, mae Prifysgol Bangor yn wynebu, neu mae’r staff yn wynebu, 115 o ddiswyddiadau gorfodol. Dywed y brifysgol mai’r rheswm am hyn oedd bod angen iddynt arbed £8.5 miliwn i fynd i’r afael â heriau ariannol sylweddol, a deallwn fod nifer o brifysgolion eraill ledled Cymru yn ystyried sut y byddant yn sgwario’r cylch ariannol mewn...