Rhun ap Iorwerth: Yn dilyn y cwestiynau a ofynnwyd yn gynharach am effaith digwyddiadau mawr yng Nghymru, mae gennym ni dîm pêl-droed Cymru i ymfalchïo ynddo, mae gennym ni gefnogwyr pêl-droed Cymru i ymfalchïo ynddynt, ac mae gennym ni gymdeithas pêl-droed Cymru i ymfalchïo ynddi, ac iddyn nhw i gyd y mae’r diolch bod Cymru wedi cael cyfle i wneud cais i gynnal gemau Ewro 2020. Nawr, a allwn ni gael...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn am y diweddariad. Mae gen i bedwar o gwestiynau yn deillio o’r datganiad heddiw. Mae’r cyntaf yn gysylltiedig â gwariant. Fe glywsom ni yn y datganiad yna bod yna gynnydd o 65 y cant wedi bod mewn gwariant ar gyflyrau niwrolegol yn y pedair blynedd hyd at 2015. Tybed a fyddai’n bosib cael eglurhad dros y ‘trend’ yna, achos mae’n sicr yn ymddangos yn ormod o...
Rhun ap Iorwerth: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am egwyddorion buddsoddi i arbed? (OAQ51070)[W]
Rhun ap Iorwerth: Diolch am yr ymateb yna. Mi hoffwn i awgrymu wrth yr Ysgrifennydd Cabinet y byddai buddsoddi mewn datblygu addysg feddygol israddedig gynhwysfawr yn y gogledd—hynny ydy, yn cynnwys myfyrwyr blwyddyn gyntaf, a reit trwy eu hastudiaethau—yn enghraifft wych o weithredu egwyddorion buddsoddi i arbed. Rydym ni’n gwybod bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi gwario £80 miliwn ar locyms yn y...
Rhun ap Iorwerth: Rydw i am wneud ychydig o sylwadau, os gallaf i, ynglŷn â’r flaenoriaeth a osodwyd gan Blaid Cymru i warchod cyllidebau rhaglenni Cefnogi Pobl. Mae’n rhyfeddol, mewn difri, ei bod hi wedi cymryd ymyrraeth Plaid Cymru i sicrhau parhad y cyllid yma. Dros yr wythnosau diwethaf, rydw i wedi cyfarfod â nifer o gyrff yn fy etholaeth i sy’n gweithio ym maes digartrefedd—mae’r Wallich,...
Rhun ap Iorwerth: Rydych chi'n gwybod yn iawn y dywedwyd wrth y sector i ddisgwyl y toriad hwn o 10 i 15 y cant.
Rhun ap Iorwerth: Yn amlwg ni allwn or-bwysleisio pwysigrwydd cael ein cynnig chwaraeon yn iawn yng Nghymru. Nid yn unig mae hyn yn wir o ran lles cenedlaethol a dathlu ein treftadaeth ac yn y blaen, fel y dywed y Gweinidog, ond yn bwysicach fyth mae’n ffordd o sicrhau ein bod yn bobl iachach. Ac wrth i ni edrych ymlaen at ffurfio'r strategaeth gordewdra gyntaf i Gymru—mae'n deillio o ganlyniad i'n...
Rhun ap Iorwerth: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysg feddygol yng ngogledd Cymru? (OAQ51097)[W]
Rhun ap Iorwerth: Diolch, ac rwy’n sylweddoli mai i’r Ysgrifennydd iechyd rwyf wedi bod yn gofyn am addysg feddygol yn y gogledd hyd yma, ond mae’n braf cael cyfle i ofyn y cwestiwn i chi fel Ysgrifennydd addysg heddiw. Rŵan bod cytundeb cyn-gyllideb wedi sicrhau arian datblygu ar gyfer addysg feddygol is-raddedig ym Mangor, a wnewch chi fel Ysgrifennydd addysg ddweud wrthym ni pa fath o rhaglen waith...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Llywydd. Nawr, mae gormod o gleifion yn dal i wynebu amseroedd aros gormodol ar gyfer triniaeth, a hoffwn ganolbwyntio yn gyntaf ar amseroedd aros orthopedig ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Mae gennyf etholwr sydd wedi cael blaenoriaeth glinigol fel rhywun sydd angen llawdriniaeth orthopedig ar frys. Ar hyn o bryd, mae wedi bod yn aros am y driniaeth frys hon ers 66 wythnos ac nid...
Rhun ap Iorwerth: Rydych newydd ddisgrifio beth yr hoffech ei weld yn digwydd ymhen amser, ac rydych yn aros am adroddiadau; byddwch yn ystyried yr adroddiadau. Mae hyn yn digwydd yn awr, pobl yn aros am dros 100 o wythnosau, ac roedd fy nghwestiwn yn ymwneud yn benodol â beth y gellid ei wneud yn awr er mwyn lleihau’r amseroedd aros i bobl sydd wedi bod yn aros mewn poen, gan arwain at ragor o broblemau...
Rhun ap Iorwerth: Unwaith eto, mae hon yn neges rydym yn ei chlywed dro ar ôl tro, nad yw hwn yn fater unigryw i Gymru, ei bod yn broblem ledled y DU, boed o safbwynt recriwtio neu gadw neu beth bynnag, ond fe wyddom fod hwn yn wasanaeth sy’n cael ei ddarparu mewn rhannau eraill o’r DU. Yn wir, mae arweinydd strôc Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Bryste wedi dweud bod y methiant i gael trefn ar bethau yng...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Un o’n trysorau mwyaf gwerthfawr ni, sy’n cael ei werthfawrogi uwchlaw pob gwasanaeth cyhoeddus arall yng Nghymru, rydw i’n siŵr, ydy’r gwasanaeth iechyd, yr NHS, ac adnodd mwyaf gwerthfawr yr NHS ydy’r gweithlu—y bobl hynny sydd, drwy gyfuniad o’u sgiliau nhw, a’u hymroddiad nhw, yn sicrhau bod pob un ohonom ni yn gallu cael y gofal gorau posib...
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhun ap Iorwerth: Diolch i chi am dderbyn ymyriad. Efallai ei bod yn adeg dda yn awr i ddweud y byddwch yn ystyried datblygu, gan ddefnyddio’r cyllid newydd a gytunwyd gennym cyn y gyllideb, ac archwilio cyrsiau israddedig blwyddyn 1 i flwyddyn 5 ym Mangor, mewn partneriaeth â Chaerdydd, Abertawe, unrhyw un arall, nid yn unig y lleoliadau ychwanegol i fyfyrwyr o fannau eraill yn y gogledd.
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Rydym ni i gyd yn dod â phrofiad, onid ydym, at drafodaeth fel hyn. Mae rhai ohonom ni, fel Dr Dai Lloyd, yn dod â phrofiad proffesiynol, meddygol. Mae’r rhan fwyaf ohonom ni’n dod â phrofiad o siarad efo gweithwyr proffesiynol o fewn y gwasanaeth iechyd, a’r pwysau y maen nhw’n ei ddweud...
Rhun ap Iorwerth: 8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer trydydd croesiad ar draws y Fenai? (OAQ51176)[W]
Rhun ap Iorwerth: Diolch am hynny. Rydw i’n falch ein bod ni, yn ein cytundeb cyn y gyllideb, wedi gallu sicrhau arian i ddatblygu’r prosiect yma, sydd ei angen nid dim ond oherwydd rhwystredigaeth bod pobl yn gorfod oedi cyn croesi’r bont yn aml ond er mwyn adeiladu gwytnwch i’r croesiad rhwng Môn a’r tir mawr. Ar 15 Mehefin y llynedd, rydw i’n meddwl, fe wnes i’r achos yn y Siambr yma dros...
Rhun ap Iorwerth: Mae gennym bortread yma o sefyllfa sydd dan reolaeth. Wrth gwrs, mae rhai pethau, boed yn ardaloedd daearyddol neu’n feysydd arbenigedd, lle mae cynnydd gwych wedi'i wneud ac mae pethau'n gwella. Mae arwyddion bod pethau'n gwella, ond yn sicr, i lawer gormod o gleifion, yn enwedig cleifion orthopedeg ac offthalmoleg, ac yn sicr yn ardal Betsi Cadwaladr, mae anghysondeb gwybyddol...
Rhun ap Iorwerth: Mae yna ddwy brif elfen i’r datganiad, am wn i, ac rwy’n diolch i’r Gweinidog am y datganiad hwnnw. Yn gyntaf: cryn ganmoliaeth o rai elfennau o waith y gronfa gofal ganolraddol—bellach yn gronfa integredig. Mi gymeraf i’r cyfle hwn, os caf, i atgoffa’r Siambr yma bod y gronfa honno yn rhan o gytundeb y gyllideb flaenorol efo Plaid Cymru, a’n bod ni’n falch ein bod ni wedi dod...