Lesley Griffiths: Yn sicr byddwn ni'n cymryd camau, ac rydyn ni wedi parhau i gymryd camau ers dechrau'r achosion ar Ynys Môn y cyfeirioch chi atyn nhw. Rwy'n credu, bryd hynny, gwnaethom ni gynnig pot bach o arian i weld beth y gellid ei ddysgu o hynny. Yn amlwg, byddaf yn aros am ganlyniad y ddeiseb—yn amlwg, mae nifer sylweddol o bobl wedi ei llofnodi—a pha un a fydd honno'n dod ymlaen ar gyfer dadl....
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, rydyn ni'n falch iawn o fod yn genedl noddfa, ac, fel y gwyddoch chi, mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ysgrifennu at y Gweinidog mewnfudo i ddatgan yn ddigamsyniol ein bod yn gwrthwynebu'r Bil mudo cyfreithiol, a bod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn debygol o fod yn ofynnol, wrth gwrs. A nododd y Gweinidog hefyd asesiad Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd...
Lesley Griffiths: Diolch. Ar eich ail gwestiwn ynglŷn â chladin, bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn sicr yn gwneud cyhoeddiad yn y dyfodol agos iawn ynglŷn â hynny, a'r dyddiad y bydd y cytundeb yn cael ei arwyddo. Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn am dai cydweithredol. Mae tai cydweithredol ei hun yn bwysig iawn, a doeddwn i ddim yn gwybod hynny am John Lennon, felly mae hynny'n rhywbeth...
Lesley Griffiths: Wel, rwy'n credu, gyda pharch, eich bod chi'n gofyn y cwestiynau hynny i'r Gweinidog anghywir. Rwy'n credu mai'r peth gorau fyddai i chi ysgrifennu at y Gweinidog cyllid. Rwy'n clywed yr hyn rydych chi'n ei ddweud am ddatganiad, ond fe wnaethoch chi ofyn cyfres o gwestiynau yn y fan yna na allaf i, yn amlwg, eu hateb o gwbl. Rwy'n ymwybodol bod y Gweinidog wedi ein diweddaru ni—rwy'n...
Lesley Griffiths: Diolch. O ran adolygiad AGIC o ansawdd trefniadau rhyddhau o unedau cleifion mewnol iechyd meddwl oedolion yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gallaf eich sicrhau bod uned gyflawni'r GIG yn darparu cymorth i'r bwrdd iechyd, ac mae swyddogion y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn monitro'r cynnydd trwy ein trefniadau ymyrraeth wedi ei thargedu gyda'r bwrdd iechyd. Ac...
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, fedra i ddim cofio ble roeddwn i pan gyfeiriais i at hyn, ond yn sicr cyfeiriais at y cyfarfod a gynhaliwyd gan y Gweinidog bwyd a ffermio yn Llywodraeth y DU gydag archfarchnadoedd. Yn amlwg, rwy'n cwrdd gyda manwerthwyr, gyda phroseswyr a gyda ffermwyr ynghylch cyflenwad bwyd, ond gwnaeth y Gweinidog yn Llywodraeth y DU gynnal math o uwchgynhadledd archfarchnadoedd, na wnaeth,...
Lesley Griffiths: Gwnaeth Gweinidog yr Economi a minnau gwrdd â chryn dipyn o gynrychiolwyr o'r diwydiant tafarndai, mewn gwirionedd, ym bragdy Brains, heb fod mor hir â hynny yn ôl, ychydig cyn y Nadolig mae'n debyg—cwpl o fisoedd yn ôl—i drafod yr hyn y gallem ni ei wneud fel Llywodraeth i gefnogi. Byddwch yn ymwybodol bod gennym amryw o gynlluniau a lefelau o gymorth hefyd. Rydych chi'n iawn:...
Lesley Griffiths: Bydd y diweddariad ar yr uwchgynhadledd ffosffadau yn dod drwy ddatganiad ysgrifenedig gan y Prif Weinidog, ac nid gennyf fi. O ran eich cwestiwn ynglŷn â'r feddygfa yn eich etholaeth, byddwn i'n meddwl, gan ei fod yn fater mor benodol, y byddai'n well i chi ysgrifennu at y Gweinidog iechyd yn uniongyrchol.
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ymwybodol iawn bod y data newydd gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn tynnu sylw at yr hyn a ddywedoch chi, Joyce Watson—bod naw o bob 10 cwyn gan aelodau'r cyhoedd wedi arwain at beidio â chymryd camau yn erbyn swyddogion heddlu a staff a oedd wedi cael eu cyhuddo o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a...
Lesley Griffiths: Diolch. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o'r newid o chwe wythnos i 16 wythnos, ac fel y dywedwch chi, byddwn i wedi meddwl y byddai yna safon Cymru gyfan. Felly, fe wnaf yn sicr ofyn i'r Gweinidog iechyd edrych ar yr hyn yr ydych chi newydd ei gyflwyno, oherwydd rwy'n credu y byddai angen esboniad pe byddai wedi mynd o chwe wythnos i 16 wythnos ar gyfer asesiadau cyn llawdriniaeth, oherwydd, yn...
Lesley Griffiths: Diolch i chi. Yn amlwg, penderfyniad i Weinidog yr Economi fydd hwn, a fydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd gyda datganiad maes o law.
Lesley Griffiths: Diolch, Llywydd. Mae dau newid i'r busnes yr wythnos hon. Yn gyntaf, rwyf wedi ychwanegu datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar ddiogelwch adeiladau i'r agenda heddiw, ac yn ail, mae'r drafodaeth cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) wedi'i gohirio tan yr wythnos nesaf. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf fel y nodir yn y...
Lesley Griffiths: Diolch. Mewn ymateb i'ch ail gwestiwn, bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn cyflwyno datganiad cyn diwedd tymor yr haf ynghylch diogelwch ar y ffyrdd a'r adolygiad ffyrdd, ac fel y dywedwch chi, nid yw popeth wedi'i ganslo—yn amlwg, mae rhywfaint o waith adeiladu ffyrdd yn mynd yn ei flaen. O ran eich cwestiwn am ddatganiad am archwiliad y gwasanaethau strôc a ddarparwyd ym Mwrdd...
Lesley Griffiths: Diolch yn fawr iawn. Felly, mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n galed iawn i ddod â'r trenau dosbarth 230 i wasanaeth ar y lein rhwng Wrecsam a Bidston. Ac rwy'n gwybod eu bod nhw hefyd mewn trafodaethau rheolaidd iawn gyda Merseyrail a Merseytravel am wasanaethau yn y dyfodol ar y rheilffordd honno o Wrecsam i Bidston, ac mae hynny'n cynnwys y posibilrwydd o wasanaethau uniongyrchol i...
Lesley Griffiths: Diolch. Fel y gwyddoch chi, mae swyddogion wedi bod yn datblygu'r fersiwn nesaf o'r rhaglen Cartrefi Clyd, sydd, unwaith eto, fel rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol iawn, wedi helpu miloedd lawer o bobl, gyda chymorth yng Nghymru i leihau eu biliau a'u defnydd o ynni. Ac yn wahanol i Loegr, rydym wedi cynnal cefnogaeth barhaus ar gyfer ôl-osod cartrefi dros y degawd diwethaf a mwy, lle mae...
Lesley Griffiths: Wel, fel y cyfeirioch chi ato eich hun, roedd datganiad yn y fan yma dim ond yr wythnos diwethaf ar ddeintyddiaeth, pan wnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol nodi'n glir iawn y gwaith sy'n cael ei wneud. Felly, fydda i ddim yn dyrannu rhagor o amser.
Lesley Griffiths: Mewn ymateb i'ch cais cyntaf am ddatganiad, awgrymaf eich bod yn ysgrifennu at gyngor Conwy yn uniongyrchol ar hynny; dydw i ddim yn credu bod hynny'n fater i'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Ac o ran amseroedd aros canser, sef yr hyn yr oeddech chi'n cyfeirio ato, byddwch yn ymwybodol iawn bod y GIG yn gweithio'n galed iawn i leihau amseroedd aros, yn enwedig i bobl pan fo...
Lesley Griffiths: Our priorities for animal welfare are set out in the animal welfare plan for Wales. It includes a timetable for the delivery of key actions against our four animal welfare programme for government commitments, alongside our other planned work.
Lesley Griffiths: I am committed to ensuring the funding available for the EU rural development programme is fully spent by 31 December 2023. As at 15 March 2023, total programme spend has exceeded £733 million, representing 87 per cent of total programme value.
Lesley Griffiths: Proposals in this area will draw upon joint research published in 2021. We will consider whether any amendments are required on the current microchipping regulations for dogs and possible new measures for kittens and cats. Any proposed changes would be subject to a full public consultation.