Huw Irranca-Davies: Gwnaf, yn wir. Diolch, Neil. Rydych yn iawn i dynnu sylw at rai o rannau allweddol yr adroddiad sy'n dweud, er enghraifft, fod angen i weithwyr proffesiynol deimlo'n hyderus—teimlo'n hyderus—wrth weithio gyda rhieni sy'n cael eu hystyried yn heriol a dangos mwy o empathi wrth weithio gyda theuluoedd, fod angen i bob gweithiwr proffesiynol fod â’r wybodaeth ddiweddaraf am ganllawiau a...
Huw Irranca-Davies: Joyce, diolch yn fawr iawn. Rwy'n meddwl y byddai unrhyw Weinidog sy'n sefyll yn y fan hon ac yn dweud, 'Gallwn ddiystyru y bydd unrhyw beth fel hyn yn digwydd eto', yn Weinidog annoeth. Ond mae yn ein gallu, drwy'r negeseuon rydym newydd eu clywed, drwy'r fframweithiau rydym wedi'u gosod—a chofiwch ein bod yng Nghymru ar y blaen mewn rhai ffyrdd yma, oherwydd y modd rydym wedi mynd ati...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i bawb. Diolch am y cyfle i ymateb i'r drafodaeth bwysig hon. Mae cryfder ac ansawdd y cyfraniadau y prynhawn yma wedi dangos ein bod yn gwneud y cam cywir wrth sicrhau bod unigrwydd ac arwahanrwydd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth.
Huw Irranca-Davies: Llawer iawn o ddiolch am gyfraniadau rhagorol. Ni fyddaf yn gallu gwneud cyfiawnder â phob un am eu bod mor fanwl ac mor helaeth. Mae'n dangos cymhlethdod yr heriau sydd gennym yn y maes hwn o fynd i'r afael ag unigedd ac unigrwydd, ond hefyd y ffaith bod angen inni wneud hyn mewn ffordd gynhwysfawr, deallus a chydgysylltiedig. Cefais fy nharo—fel llawer ohonom rwy'n tybio—gan rai o'r...
Huw Irranca-Davies: Ni fyddaf yn gallu rhoi sylw haeddiannol i bopeth. Y rhaglen Cefnogi Pobl, a luniwyd i helpu pobl i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, ac unwaith eto, yr agwedd honno ar fynd i'r afael ag unigedd—. Ddirprwy Lywydd, rwy'n tybio y byddai'n well cyfeirio pobl at y gwaith rydym yn ei wneud. Mae ein hymateb i'r pwyllgor ar waith y pwyllgor wedi'i wneud. Rydym yn ystyried hyn gyda'r...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf yn symud y cynnig.
Huw Irranca-Davies: Mae'r Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2018 yn diwygio'r rheoliadau a wnaed yn 2015 ar lety diogel ar gyfer plant. Mae llety diogel yn ffurfio rhan fechan ond bwysig iawn o ddarpariaeth llety plant sy'n derbyn gofal. Defnyddir lleoliadau gan awdurdodau lleol dim ond pan fo plentyn yn debygol o ddianc o unrhyw fath arall o leoliad a bod perygl sylweddol iddo wneud niwed...
Huw Irranca-Davies: Bethan, diolch yn fawr am hynny, ac rydym yn cytuno'n llwyr â'r hyn yr ydych yn ei ddweud. Mae angen iddo fod ar sail eithriadol. Ni fyddem eisiau gweld defnydd o lety diogel ond pan fyddo'n ddewis priodol a bod pethau eraill wedi cael eu diystyru. Byddem yn hoffi gweld y defnydd o lety diogel yng Nghymru pan fydd ar gael, ond, oherwydd ei natur, ac yn aml iawn natur byrhoedlog y llety...
Huw Irranca-Davies: Gwnaf. Mae cydweithredu effeithiol rhwng ein GIG, awdurdodau lleol a'u partneriaid yn hanfodol er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael eu trosglwyddo i'r lleoliadau sy'n diwallu eu hanghenion gofal yn y ffordd orau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar reoli'r broses bwysig honno ac awgryma tueddiadau diweddar fod hynny'n cael effaith gadarnhaol.
Huw Irranca-Davies: Gallaf, ac mae'n bwynt hollbwysig. Mewn rhai ffyrdd, mae'r gronfa gofal canolraddol a'r defnydd ohoni, nid yn unig i alluogi cleifion i gael eu rhyddhau'n effeithiol, ond hefyd i hwyluso'r broses drosglwyddo honno i'r lleoliad gofal addas ar gyfer yr unigolyn, boed hynny yn eu cartref gyda'r gofal cofleidiol y mae arnynt ei angen i'w cynorthwyo i fyw'n annibynnol, neu mewn gwirionedd, mewn...
Huw Irranca-Davies: Ie wir, yn hollol. Oedi wrth drosglwyddo gofal sydd wrth wraidd hyn—rheoli'r broses drosglwyddo hon yn effeithiol. Ac wrth gwrs, mae'r gofal cywir y cyfeiriais ato yn gynharach yn cynnwys y gofal iechyd meddwl cywir hefyd, yn ogystal â thriniaeth, yn y lleoliad cywir hefyd. Y newyddion da yw nad yw hyn yn gyfystyr a gwasgu botwm a dileu achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal dros nos...
Huw Irranca-Davies: Yn ffurfiol.
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw ac yn croesawu ei hysbryd a'r cyfraniadau amrywiol iawn i'r ddadl hefyd. Efallai ein bod yn anghytuno, ar ddiwedd hyn, o ran sut y byddwn yn dewis pleidleisio, ond credaf ei bod yn eithaf iach, o ran y ddadl, ein bod wedi cael ystod mor eang yn gyffredinol yma o awgrymiadau ynglŷn â sut—os caf fenthyg cyfraniad Jack...
Huw Irranca-Davies: Rwyf wedi pentyrru llawer i'r blynyddoedd hyn, gallaf ddweud wrthych. Ond roedd rhan ohono oherwydd argaeledd cyfleoedd economaidd yn fy nghymunedau fy hun. Roedd rhan ohono, rhaid i mi ddweud hefyd, oherwydd bod Cymru'n denu a bod arnaf awydd dod adref. Hoffwn ddweud rhywbeth cyn i mi droi at y cyfraniadau unigol, a bu llawer ohonynt yn y ddadl hon: mae'n ddiddorol ein bod weithiau'n...
Huw Irranca-Davies: Ie, ac mae angen inni wneud mwy. Fe ddof at rai o'r pethau a grybwyllwyd yn y ddadl, a beth rydym eisoes yn ei wneud hefyd.
Huw Irranca-Davies: Rydym wedi crybwyll allfudo, yn amlwg, ac mae'r effaith ar yr iaith Gymraeg yn allweddol, heb amheuaeth, ac mae'n fwy penodol i rai ardaloedd yn ogystal. Mae yna lifoedd gyda'r iaith Gymraeg. Mae'r iaith Gymraeg yn cynyddu mewn rhai ardaloedd. Mewn rhai ardaloedd mae'n dihoeni, gan gynnwys mewn mannau y byddem yn eu hystyried yn draddodiadol yn gadarnleoedd. Ac mae hynny'n...
Huw Irranca-Davies: Roedd y cyfraniad yn cynnwys llawer o feysydd sydd heb eu datganoli: mewnfudo, treth, yswiriant gwladol, cymorth tramor—pob un y fater i Lywodraeth y DU. Rwy'n credu ei fod, unwaith eto, wedi crybwyll siboleth newid yn yr hinsawdd. Hoffwn ddweud yn syml mai newid yn yr hinsawdd yw un o'r ffactorau mewn gwirionedd sy'n gyrru un o'r agweddau eraill ar y gwelliant, sef mudo ac ati. Mae'n...
Huw Irranca-Davies: Diolch am ildio. Mewn gwirionedd, rwy'n cytuno â byrdwn yr hyn roeddech yn ei ddweud, fod y bobl ifanc hynny'n mynd i fod yn sbardun yn ein cymunedau ac yn ein heconomi yn ogystal. Ond mae hyn yn rhoi cyfle i mi dynnu sylw at y ffaith, dair blynedd ar ôl graddio, nad 55 y cant yw'r gyfran o raddedigion o Gymru sy'n gweithio yng Nghymru, ond 70 y cant. Byddem yn hoffi pe bai'n 80 neu...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd, am y cyfle i wneud y datganiad yma ynghylch y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) a gafodd ei gyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol ddoe. Bydd y Bil, er yn dechnegol ei natur, yn ei gwneud hi’n bosib i Lywodraeth Cymru sefydlu system genedlaethol i reoli ceisiadau ac i wneud y gwiriadau cymhwystra angenrheidiol ar gyfer y cynnig gofal plant yng Nghymru.
Huw Irranca-Davies: Roedd y cynnig gofal plant yn ymrwymiad allweddol ym maniffesto Llafur Cymru 'Gyda'n gilydd dros Gymru', ac rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi ei ariannu gan y Llywodraeth i rieni sy'n gweithio sydd â phlant tair a phedair oed yng Nghymru ar gyfer hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae'r elfen gofal plant wedi ei bwriadu ar gyfer rhieni sy'n...