Lesley Griffiths: Starbucks, ie. [Chwerthin.] Roedden nhw'n dweud wrthyf am gynllun treialu sydd ganddyn nhw yn Llundain, lle mae biniau ar gael i bobl wagio unrhyw beth sydd ar ôl yn y gwpan, a bin arall wedyn lle mae modd ailgylchu eu cwpan. Felly, mae gwaith yn digwydd. Dywedais y byddem yn hapus iawn i gael cynllun treialu yma yng Nghymru, yn y dyfodol. Felly, credaf ei fod yn glir iawn, o'r consensws...
Lesley Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, Russell George, am gyflwyno’r pwnc hwn ar gyfer y ddadl heddiw. Fel y dywedoch yn eich sylwadau agoriadol, rwy’n meddwl mewn gwirionedd ein bod wedi gosod ein cyfeiriad fel arweinydd ym maes ailgylchu a rheoli gwastraff. Ni yw’r uchaf yn y DU, a’r pedwerydd uchaf yn Ewrop. Credaf yn wir y bydd ein huchelgeisiau a’n targedau yn mynd â ni...
Lesley Griffiths: Na, yn hollol. Roeddwn yn gwneud pwynt cyffredinol yn unig fod yna safleoedd da iawn bellach sy’n derbyn deunydd ailgylchu, ac mae’n rhaid eu hystyried. Ond rydych yn llygad eich lle—yn amlwg, ni all busnesau eu defnyddio. Felly, er gwaethaf yr heriau y credaf fod Powys yn eu hwynebu, maent yn gwneud cynnydd rhagorol ar ailgylchu, ac unwaith eto, maent wedi gweld cynnydd sylweddol yn eu...
Lesley Griffiths: The Welsh Government continues to fund Fly-tipping Action Wales, an initiative co-ordinated by Natural Resources Wales and which aims to secure a long-term reduction in fly-tipping through a combination of measures. We are also currently consulting on the introduction of fixed penalty notices for small scale fly-tipping.
Lesley Griffiths: National planning policy provides a comprehensive framework for protecting the countryside from overdevelopment. At the same time, national planning policy encourages an approach towards rural areas that supports living and working communities that are economically, socially and environmentally sustainable.
Lesley Griffiths: Environmental vandalism is an issue the Welsh Government takes very seriously and is committed to continue tackling. Our Well-being of Future Generations Act encourages us to focus on prevention, to involve people in well integrated measures and for collaboration across organisations as we work for long term, sustainable solutions.
Lesley Griffiths: Plans for woodland management are guided by the Welsh Government’s forestry strategy, ‘Woodlands for Wales’, and will in future be shaped by the national natural resources policy. The strategy establishes the long-term vision for the sustainable management of Wales’s woodlands and trees to provide benefits for future generations.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae llawer o gwestiynau ac ansicrwydd ynghlwm wrth ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol mewn perthynas â dyfodol diwydiant pysgota Cymru. Er mwyn diogelu ffyniant y diwydiant a’n cymunedau arfordirol, bydd fy adran yn datblygu polisi pysgodfeydd sy’n edrych tua’r dyfodol, fel y nodir yn y Papur Gwyn, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’.
Lesley Griffiths: Credaf ei bod braidd yn gynnar i gymryd yn ganiataol y bydd Brexit mor gadarnhaol i’r diwydiant pysgota yn gyffredinol ag y mae’r Aelod yn ei awgrymu. Ond rwy’n derbyn yn llwyr—ac rwyf wedi dweud sawl tro—er y bydd gadael yr UE yn peri llawer o risgiau a heriau, y bydd yna gyfleoedd yn y dyfodol. Credaf fod mynediad at y farchnad yn gwbl hanfodol, ac fel y dywedais, bydd gennym...
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, gobeithiaf eich bod wedi derbyn fy mod wedi dweud, yn fy ateb i Neil Hamilton, fy mod yn credu bod y rhagdybiaeth y bydd yn rhywbeth cadarnhaol braidd yn gynnar. Ond fel y dywedais, mae cyfleoedd i’w cael, a chredaf fod angen yr ymagwedd fwy hyblyg honno arnom. Rydych yn sôn yn benodol am gregyn bylchog a chregyn gleision, a sut y dylem fynd yn ein blaenau, yn enwedig mewn...
Lesley Griffiths: Wel, soniais yn fy ateb i Simon Thomas y byddaf yn mynychu’r expo bwyd môr ym Mrwsel. Rwyf wedi darparu cyllid ar gyfer hynny. Credaf ei bod yn bwysig iawn fy mod yn mynychu’n bersonol, er mwyn sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’n diwydiant bwyd môr gwych yng Nghymru. Rydym hefyd wedi cael y strategaeth bwyd môr a helpais i’w lansio gyda’r diwydiant oddeutu tri neu bedwar mis yn ôl.
Lesley Griffiths: Diolch. Yn y flwyddyn ariannol hon, rydym yn buddsoddi £26.5 miliwn yn rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru i wella effeithlonrwydd ynni ein stoc dai ac er mwyn helpu i drechu tlodi tanwydd. Ar hyn o bryd, rwy’n ystyried opsiynau ariannu ar gyfer y pedair blynedd nesaf a byddaf yn gwneud cyhoeddiad cyn diwedd mis Mawrth.
Lesley Griffiths: Ie, rwy’n ymwybodol o ddatganiad Age Cymru ar dlodi tanwydd, ac yn sicr, ar hyn o bryd rydym yn ystyried y cynigion a argymhellwyd ganddynt ar gyfer datblygu ein polisi tlodi tanwydd ehangach yn y dyfodol. Rydym eisoes wedi ymateb i lawer o’r cynigion a gyflwynwyd ganddynt yn ein hymateb i ymgynghoriad Nyth a gyhoeddwyd cyn y Nadolig. Felly, er enghraifft, rydym yn cynnig ymestyn...
Lesley Griffiths: Wel, soniais yn fy ateb i Huw Irranca-Davies fy mod yn ystyried y cynigion a ddaeth o ddatganiad Age Cymru ar dlodi tanwydd wrth ddatblygu ein polisi tlodi tanwydd ehangach ar gyfer y dyfodol.
Lesley Griffiths: Diolch am groesawu’r datganiad ar y tri maes ychwanegol mewn perthynas â llamidyddion. Mae gwaith sylweddol ar y gweill mewn perthynas â pholisi morol a chynllunio morol. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod cynllun morol cenedlaethol Cymru ar waith gennym, a gobeithiaf wneud hynny erbyn yr haf.
Lesley Griffiths: Rwy’n siŵr fod yr Aelod yn derbyn bod cyfyngiadau ariannol arnom oll, ac yn sicr, rwy’n cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru yn fisol—gyda’r cadeirydd a’r prif weithredwr—ac rwy’n fodlon fod yr adnoddau hynny yn eu lle ganddynt.
Lesley Griffiths: Yn sicr, rwyf wedi bod yn y swydd ers wyth mis ac ni allaf gofio cyflwyno un, felly fe edrychaf ar hynny, ac os yw’n briodol, byddaf yn gwneud datganiad, ac os nad yw’n briodol, byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod.
Lesley Griffiths: Bydd y mesurau rhagofalus yn parhau ar waith tan 28 Chwefror. Rydych yn llygad eich lle—mae 85 y cant o gynnyrch wyau Cymru yn wyau maes. Cyfarfûm y bore yma gyda’r prif swyddog milfeddygol, ac ydy, mae’n trafod â’r gweinyddiaethau eraill. Gwn ei bod wedi cael trafodaethau ddoe gyda swyddogion Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a’r bore yma hefyd, gan fod wyth achos o...
Lesley Griffiths: Nid wyf mewn sefyllfa ar hyn o bryd mewn gwirionedd i roi penderfyniad i chi ynglŷn ag ymestyn y tu hwnt i 28 Chwefror. Fel y dywedais, cyfarfûm â’r prif swyddog milfeddygol y bore yma a byddaf yn cyfarfod â hi eto yr wythnos nesaf, yn dilyn ei thrafodaethau gyda’i chydweithwyr. Credaf fod angen inni edrych ar sicrhau cydbwysedd. Ni allwn gadw’r adar dan do am byth. Fodd bynnag,...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae Simon Thomas yn gwneud pwynt pwysig iawn. Pan gefais fy mhortffolio a gweld bod 89 y cant o’n cynhyrchiant wyau yn gynnyrch maes, fe feddyliais, ‘Oni fyddai’n wych pe bai’r ffigur yn 100 y cant?’ Ond yn amlwg, allan o’r awyr las, mae rhywbeth fel hyn yn cwympo arnoch. Mae’r diwydiant wyau maes eisoes wedi cysylltu â mi i ofyn am gyfarfod; rwy’n fwy na pharod i...