Caroline Jones: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys yng Ngorllewin De Cymru? OAQ51478
Caroline Jones: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed? OAQ51479
Caroline Jones: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd wrth ddelio â galwadau lle y ceir bygythiad uniongyrchol i fywyd, ond heb fod mor dda mewn perthynas â galwadau ambr. Y mis diwethaf, arhosodd dros 35 y cant o alwadau ambr dros hanner awr am ymateb ym Mhrifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Roedd yr amser aros hiraf yng Nghymru yn 23 awr, ac mae hynny'n syfrdanol. O gofio...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, er gwaethaf y ffaith fod ychydig dros 3 miliwn o bobl yn byw yng Nghymru, ymwelwyd â'n hadrannau damweiniau ac achosion brys dros 1 filiwn o weithiau yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae cynnydd o tua dwy ran o dair wedi bod yn nifer y bobl sy'n aros mwy na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ac mae'r cyfryngau wedi adrodd bod un meddyg...
Caroline Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mewn ychydig dros 10 diwrnod, bydd y GIG unwaith eto yn profi gwyrth y Nadolig, lle mae'r wardiau'n wag ar noswyl Nadolig ond yn llenwi drachefn ar ddydd San Steffan. Os ydym am osgoi yr hyn a welwyd yn ystod blynyddoedd blaenorol lle roedd ambiwlansys mewn ciw y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys, mae'n rhaid i ni leihau'r...
Caroline Jones: Diolch i chi unwaith eto, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae dewis yn ddoeth yn galw am gael y wybodaeth gywir wrth law. Mae gan Galw Iechyd Cymru a gwasanaeth 111 rôl i'w chwarae yn darparu gwybodaeth o'r fath i gleifion, gan eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus a'u cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol. Fy mwrdd iechyd lleol oedd yr ardal beilot ar gyfer y gwasanaeth 111, felly a allech chi...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, mae cynnydd aruthrol wedi bod yn y 12 mis diwethaf ar leihau nifer y plant a phobl ifanc sy'n aros am apwyntiad CAMHS. Rwy'n croesawu'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar y mater hwn. O ganlyniad i'r buddsoddiad ychwanegol, rydym wedi torri dros ddwy ran o dair oddi ar y nifer sy'n aros am driniaeth. Fodd bynnag, mae gennym dros 500 o blant a phobl ifanc...
Caroline Jones: Rhoi diwedd ar ddigartrefedd yw un o'r rhesymau allweddol pam y dechreuais ymhél â gwleidyddiaeth. Mor ddiweddar â nos Lun, pan fynychais ddigwyddiad yng Nghaerdydd, deuthum wyneb yn wyneb â sefyllfa drist dau ŵr digartref a oedd angen paned o goffi. Yn yr unfed ganrif ar hugain, mae digartrefedd yn rhywbeth i resynu ato'n foesol. Yn y gwasanaeth carchardai, gwelais lawer o...
Caroline Jones: Hoffwn hefyd ddiolch i'r Gweinidog am gymryd yr amser i gysylltu â mi ddoe, i drafod pethau â mi, ac i roi datganiad imi y bore yma. Rwy’n gwerthfawrogi, tra yr ydym yn y camau ymgynghori ar y pwnc hwn ac nad yw y ddeddfwriaeth ar waith eto, ei fod yn cyfeirio at y ddeddfwriaeth arfaethedig fel un sy’n dileu amddiffyniad cosb resymol. Mewn termau symlach, bydd y cyhoedd yn gyffredinol...
Caroline Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' yn gyfle cyffrous ac i'w groesawu. Ond mae'r dogfennau yn gyfaddefiad diamheuol bod rhaglenni blaenorol, rhai ohonyn nhw a ddechreuwyd gan Lywodraeth Cymru, naill ai wedi methu neu wedi bod yn ddiffygiol. Mae Cadeirydd y tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y de hyd yn oed yn dweud yn y ddogfen gychwynnol yr haf hwn, a dyfynnaf: 'Os ydym...
Caroline Jones: Ie. Yn yr un modd, mae datblygiadau twristiaeth a diwylliant yn fy ardal i, ar safleoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i'w croesawu. Rwy'n sicr yn hapus i glywed am y datblygiad yng nghanol tref yng Nghastell-nedd, ond ar yr un pryd rwy'n pryderu, oherwydd, weithiau, pan caiff canolfannau tref eu hadfywio, eu hailddatblygu—
Caroline Jones: —mae canlyniadau anfwriadol.
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, er gwaethaf eich tystiolaeth yn ein pwyllgor ynglŷn â phwysau'r gaeaf a sut y mae'n effeithio ar y GIG yng Nghymru, ymddengys nad ydym byth yn dysgu o'r profiadau hyn; ymddengys ein bod yn cael ein dal ar y gamfa bob tro, fel pe bai pwysau'r gaeaf yn rhywbeth newydd. Ymddengys bod y gair 'digynsail' yn codi bob tro, fel pe bai'r gair hwn yn esgusodi'r ffaith nad...
Caroline Jones: Mae'n ddrwg gennyf. Pa strategaeth rydych wedi'i chynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf fel y gall pob meddyg teulu a holl staff ysbytai gyfarfod i fynd i'r afael â hyn? Diolch.
Caroline Jones: Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw a diolch i Blaid Cymru am dynnu ein sylw ati. Mae digartrefedd yn yr unfed ganrif ar hugain yn foesol anfaddeuol. Mae gennym ddyletswydd i sicrhau, o ran y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu, fod y galw yn bodloni'r cyflenwad. Blaengynllunio yw'r enw arno. Mae rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn un o'r rhesymau allweddol y penderfynais...
Caroline Jones: Ydw.
Caroline Jones: Pan oedd cynllun hawl i brynu'n bodoli, rwy'n credu y dylai'r arian a gymerwyd o'r cynllun hawl i brynu fod wedi cael ei ailfuddsoddi mewn tai cymdeithasol. Mae'r teuluoedd hyn angen cartrefi ar frys, ac eto nid oes digon o dai cymdeithasol i ddiwallu'r angen hwnnw. Mae gan Lywodraeth Cymru darged i adeiladu oddeutu 4,000 o gartrefi fforddiadwy y flwyddyn, ac eto, tri chwarter y swm...
Caroline Jones: Prif Weinidog, yn anffodus rydym ni'n gweld y canlyniadau pan fydd ein byrddau iechyd a'n hawdurdodau lleol yn methu â gweithio gyda'i gilydd yn effeithiol: cleifion yn cael eu gorfodi i aros yn yr ysbyty yn hirach na'r angen, neu gleifion yn cael eu rhyddhau heb fod pecyn gofal ar waith. Prif Weinidog, mae nifer o gleifion hŷn wedi cysylltu â mi, a adawyd i ofalu amdanynt eu hunain ar ôl...
Caroline Jones: Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i Dr Ruth Hussey a'r panel am y gwaith rhagorol y maen nhw wedi’i wneud ar gyfer eu hadroddiad a’u hargymhellion. Mae'r adroddiad yn nodi mewn du a gwyn y camau y mae angen inni eu cymryd os ydym ni am ddarparu iechyd a gofal cynaliadwy nawr ac yn y dyfodol. Mae Dr Hussey a'i thîm wedi gwneud eu gwaith...
Caroline Jones: Weinidog, bob blwyddyn, mae mwy nag 8 miliwn tunnell o blastig yn cyrraedd ein cefnforoedd, gan gostio o leiaf £6.2 biliwn o ddifrod i ecosystemau morol a lladd oddeutu 1 filiwn o adar môr, 100,000 o famaliaid môr a nifer ddifesur o bysgod. Mae archfarchnadoedd yn defnyddio lefelau gwarthus o ddeunydd pacio plastig diangen ac yn ychwanegu at y broblem. Mae Cymru wedi arwain y ffordd ar...