Suzy Davies: A gaf i ychwanegu fy llais innau at y teimladau hynny hefyd? Rwy'n credu bod hyn yn newyddion gwych i Goleg Cymunedol y Dderwen. Er hynny, mae'r adroddiad yn nodi bod y cwricwlwm yn cyfyngu ar barhad datblygiad sgiliau Cymraeg ac ieithoedd tramor modern y disgyblion ar hyn o bryd, a bod bwriad i fynd i'r afael â hynny yn 2017-18. Wel, gallai sgiliau dwyieithog a thairieithog hyd yn oed,...
Suzy Davies: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Russell George.
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet.
Suzy Davies: Rydym yn troi nawr at eitem 8—y ddadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru). A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i wneud y cynnig—Carl Sargeant.
Suzy Davies: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch am y dyrchafiad hefyd. I now call on the Chair of the Equality, Local Government and Communities Committee, John Griffiths.
Suzy Davies: Thank you very much. I call on the Chair of the Finance Committee, Simon Thomas.
Suzy Davies: Byr iawn. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Huw Irranca-Davies.
Suzy Davies: Cewch, a wnewch ddod i gasgliad, os gwelwch yn dda?
Suzy Davies: 8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fargen ddinesig Bae Abertawe? (OAQ51002)
Suzy Davies: Efallai bod maes lle gall Llywodraeth Cymru roi cymorth ar unwaith, a dyma fe: efallai y byddwch chi'n cofio, yn y cyfarfod y cyfeiriwyd ato'n gynharach, y daeth adroddiad annibynnol i'r amlwg a awgrymodd mai'r ardal sydd wedi’i heffeithio oedd y lleiaf tebygol o ddioddef tirlithriad neu lithriad, ac aeth natur yn groes i'r adroddiad hwnnw. Felly, efallai y bydd lle yma i Lywodraeth Cymru...
Suzy Davies: Rwy'n falch bod cefnogaeth gynyddol i'r syniad hwn. Mae'n rhywbeth y mae Mike Hedges wedi ei godi yn y Siambr o'r blaen ac yn rhywbeth yr wyf i wedi siarad amdano hefyd. Pan wnaethom ni gyfarfod â'r bwrdd cysgodol fel grŵp o Aelodau Cynulliad lleol fis Rhagfyr diwethaf, dywedasant nad oedd seilwaith trafnidiaeth yn rhan o'u syniadau o ran y bargeinion dinesig. Rwy'n falch bod pethau wedi...
Suzy Davies: Diolch am yr ateb yna. Yn ddiweddarach heddiw, wrth gwrs, byddwn yn trafod yr adolygiad seneddol ar iechyd a gofal cymdeithasol, sydd eisoes wedi nodi potensial technoleg gwybodaeth a thechnoleg gwyddor bywyd arall na fanteisiwyd arno’n llawn o ran diwygio'r gwasanaethau hynny, ac i mi, mae hyn yn cyfeirio’n uniongyrchol at fargen ddinesig bae Abertawe. Pa drafodaethau diweddar ydych chi...
Suzy Davies: Mae deg y cant o'r holl ymyraethau gofal iechyd yn gysylltiedig â niwed; Nid yw 20 y cant o'r holl waith a wneir gan y gwasanaeth iechyd yn cael unrhyw effaith ar ganlyniadau—dyfyniad o'r adolygiad yw hwn, ac, er y gallai'r adolygiad hwnnw fod yn osgoi’r cwestiwn braidd yn anodd o sut y byddwn ni’n ariannu iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol, mae'n eithaf eglur o ran dangos ein...
Suzy Davies: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd mewn perthynas â chefnogi cymunedau yng Nghymru pan fydd Cymunedau yn Gyntaf wedi dod i ben? (OAQ51003)
Suzy Davies: Dywed cyngor Abertawe fod asedau naturiol yr ardal o harddwch naturiol eithriadol yn darparu cyfle ar gyfer twf economaidd a’u bod yn bwysig ar gyfer llesiant, ac na ddylai manteision o’r fath gael eu peryglu gan ddatblygiad newydd nad yw’n diogelu na’n gwella ased naturiol ac ecosystem yr AHNE. A allwch ddweud wrthyf pam nad yw’r AHNE yn ymgynghorai statudol â rhwymedigaeth i...
Suzy Davies: Diolch am eich ateb. Mae’n swnio fel pe bai’r gwaith yn parhau i fynd rhagddo. Mae’n rhaid i mi ddweud, fe ddywedoch chi wrthyf ychydig cyn y toriad, mewn cwestiwn ynglŷn â sylwadau a wnaed i mi ar ran Ffydd mewn Teuluoedd yng Ngorllewin Abertawe, fod gan fwrdd cyflawni lleol Cymunedau yn Gyntaf Abertawe, a dyfynnaf, ‘gynlluniau pontio manwl i sicrhau na fyddai prosiectau a gefnogir...
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn. Diolch yn arbennig i chi am yr ateb olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd mae’r amod pum mlynedd, wrth gwrs, yn rhywbeth y siaradoch lawer amdano pan oedd posibilrwydd y byddai’r safle’n cael ei werthu. O ran ymrwymiad pum mlynedd, fodd bynnag, a ydych wedi cael unrhyw synnwyr eto ynglŷn â pha fath o swyddi y bydd y fenter ar y cyd yn barod i ymrwymo iddynt, a...
Suzy Davies: Wel, diolch yn fawr, Llywydd. Can I just declare, for the record, that I was, until recently, a trustee of Families and Friends of Prisoners, based at HMP Swansea, which I suspect is likely to be affected by the arrival of this new category C prison? Members may know also that I’ve trained to mentor individuals at the risk of re-offending, and I was a member of Christine Chapman’s...
Suzy Davies: Na, ni wnaf. Dylech ymyrryd ar eich plaid eich hun, Leanne. Rydych wedi gweithio yn y gwasanaeth prawf, ac rydych yn caniatáu i aelodau o’ch plaid siarad am fewnforio carcharorion fel pe baent yn rhyw fath o nwydd Seisnig gwenwynig. Rwy’n credu ei fod yn warthus. Rydych wedi bod yn hollol iawn i feirniadu’r modd y mae tafodau diofal wedi dad-ddyneiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches,...
Suzy Davies: Ar y diwedd efallai. [Yn parhau.]—ac atal aildroseddu, fel yr awgrymodd Bethan Jenkins ym mis Mawrth a heddiw. Mae’n anghywir. Mae’n rhan o’r diwygio hwnnw.