Russell George: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwasanaethau a ddarperir i bobl Powys gan Shropdoc? OAQ51594
Russell George: O'r hyn a ddeallaf, Prif Weinidog, mae gwahanol awdurdodau lleol ledled Cymru yn defnyddio gwahanol ddulliau talu, sydd weithiau'n achosi problem pan fo plant yn newid ysgol. Tybed a ydych chi'n credu bod sail resymegol i safoni dulliau talu ar draws Cymru.
Russell George: Diolch, Prif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, nad oes gan Bowys ysbyty cyffredinol dosbarth, sy'n ei gwneud yn bwysicach fyth i'm hetholwyr bod gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau rhagorol. Caiff y gwasanaeth y tu allan i oriau presennol ei redeg gan Shropdoc, ac mae'r bwrdd iechyd wedi dweud ei fod eisiau rhoi terfyn ar y gwasanaeth hwnnw a'r contract gyda Shropdoc a'i...
Russell George: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? Wrth gwrs, mae Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn rheoli’r broses o gaffael masnachfraint rheilffyrdd newydd Cymru a’r gororau. Goruchwylio’r broses o ddyfarnu’r contract hwn, byddwn yn dadlau, yw’r prosiect trafnidiaeth pwysicaf y mae Llywodraeth Cymru wedi’i reoli hyd yma. Wrth symud ymlaen, mae...
Russell George: A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i adolygu ei pholisïau caffael?
Russell George: A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am y Cynllun Gweithredu Ffonau Symudol i Gymru?
Russell George: Diolch, Lywydd. Weinidog, faint o aelwydydd a oedd gynt yn gymwys ar gyfer uwchraddio o dan raglen Cyflymu Cymru, ac a oedd yn disgwyl cael eu huwchraddio erbyn diwedd mis Rhagfyr sydd wedi cael eu siomi?
Russell George: Wel, fe ateboch gwestiwn, ond nid yr un a ofynnais, iawn. Gofynnais faint—
Russell George: Gofynnais faint o bobl a oedd wedi cael eu siomi a dylech wybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw, oherwydd fe fyddwch yn gwybod bod llawer o bobl yn gofyn y llynedd, a chawsant wybod y byddai eu heiddo'n cael eu cynnwys erbyn 31 Rhagfyr. Nawr, ar ôl gofyn, cânt neges wahanol yn dweud eu bod yn archwilio atebion. Felly, ni ddylai fod mor anodd â hynny i ganfod faint o bobl sydd wedi cael eu...
Russell George: Rwy'n ddiolchgar i chi am gydnabod y problemau cyfathrebu sydd wedi bod. Mae'r adolygiad marchnad agored, a gynhaliwyd gennych wrth gwrs, yn nodi'r safleoedd ar gyfer y cynllun nesaf. Ni fyddai'r safleoedd hynny a oedd yn rhan o gynllun Cyflymu Cymru ac a gafodd eu siomi yn cael eu cynnwys yn rhan o'r dadansoddiad hwnnw oherwydd, wrth gwrs, dywedwyd wrthynt y byddent yn cael eu huwchraddio...
Russell George: Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Ac i fy nghlwb cefnogwyr bach ar yr ochr hon i'r Siambr. [Chwerthin.]
Russell George: Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i. Dros y 10 i 15 mlynedd nesaf, bydd £2.5 biliwn ar ei ffordd i ddinas-ranbarth Caerdydd a dinas-ranbarth Abertawe fel rhan o'r bargeinion dinesig, a lofnodwyd wrth gwrs gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn ogystal. Yng ngogledd Cymru, mae'r Bwrdd Uchelgais Economaidd wedi cyflwyno ei gais ar gyfer cytundeb tebyg...
Russell George: Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet hefyd am ganiatáu i'w swyddog ddod i gyfarfod a drefnwyd gennyf yr wythnos diwethaf gyda rhanddeiliaid. Roedd y cyfarfod yn fwy technegol mae'n debyg o ran pa ardaloedd y dylid eu cynnwys a phwy ddylai reoli bargen, oherwydd credaf ei bod ychydig bach yn rhy gynnar efallai i fynd i fanylu. Wrth gwrs, mae bargeinion dinesig eisoes yn ail-lunio...
Russell George: Diolch i chi, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, yn enwedig Aelodau nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor? Mae hi bob amser yn braf cael cyfraniadau gan Aelodau sydd heb gymryd rhan yn ein pwyllgor yn ogystal. Fe wnaf sylwadau ar rai o'r eitemau a grybwyllwyd heddiw. Siaradodd Hefin David a Dai Lloyd, yn arbennig, am sicrhau bod y cydweithredu'n iawn...
Russell George: Gwnaf.
Russell George: Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet. Yn y fargen dwf newydd bosibl ar gyfer canolbarth Cymru, ceir gwaith trawsgydweithredu yno gyda pheiriant canolbarth Lloegr, ond rwy'n sylweddoli, fel Aelod Cynulliad etholaeth fel finnau, eich bod chi hefyd yn cynrychioli etholaeth sy'n gorfod gweithio ar draws ffiniau. Mewn sawl ffordd, rwy'n credu bod ein llinellau wedi croesi...
Russell George: Ydw.
Russell George: Diolch i chi, Lywydd. Nid yw'r Andrew R.T. Davies go iawn ond wedi gadael tair munud i mi gloi'r ddadl hon, felly ni fyddaf yn gallu cyfeirio at bawb a gymerodd ran wrth eu henwau, ond hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Gobeithio y gallaf sicrhau Hefin David mai'r Russell George go iawn a rhesymol y soniodd amdano yn y ddadl ddiwethaf ydw i,...
Russell George: 9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sgrinio am ganser y coluddyn yng Nghymru? OAQ51641
Russell George: Diolch i chi am eich ateb, Prif Weinidog. Yn sicr, mae gen i etholwr sydd wedi cysylltu â mi, sydd dros 74 oed, a'i bryder ef yw nad yw wedi gallu cyfeirio ei hun ar gyfer prawf sgrinio ei hun. Mae hyn yn rhywbeth sydd ar gael mewn rhannau eraill o'r DU—yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, fel y deallaf—a byddwn yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru ystyried dilyn safbwynt...